Ble maen nhw bellach – diweddariad ar ein hymchwilwyr canser ar ddechrau eu gyrfa
20 Mehefin 2023Mae rhaglen Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser (FLiCR) Prifysgol Caerdydd yn rhoi’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i lwyddo yn eu maes. Mae FLiCR yn fan cychwyn i’r ymchwilwyr gorau a disgleiriaf lansio eu gyrfaoedd a dod yn genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil canser. Dyma hanes tri Arweinydd y Dyfodol o’n carfan 2017 a lle maen nhw heddiw.
Ar ôl colli ei chwaer i sarcoma, roedd Dr Magda Meissner (PhD 2019) yn datblygu triniaethau therapi imiwnedd
ar gyfer y canser prin hwn, pan ymunodd â FLiCR. Galluogodd y cyllid a dderbyniodd i Magda gymryd rhan mewn cwrs cystadleuol ar ddylunio treialon clinigol a chael mewnbwn gan arbenigwyr blaenllaw’r byd. Erbyn hyn, mae Magda yn arwain treial clinigol sy’n cael ei gyflwyno ledled Cymru, sy’n edrych ar brawf gwaed biopsi hylif arloesol ar gyfer gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint, prif achos marwolaethau canser yng Nghymru. Mae treial Magda yn edrych ar sut y gall defnyddio’r prawf yn gynharach yn y broses ddiagnostig wella a chyflymu diagnosis, lleihau’r amser rhwng diagnosis a thriniaeth, ac yn y pen draw llywio sut y gellir defnyddio’r dechnoleg hon ar gyfer mathau eraill o ganser.
Siaradodd Magda â ni am ei hymchwil yn 2018.
Roedd Dr Martin Scurr (PhD 2013) yn treialu triniaeth imiwnotherapi ar gyfer canser y coluddyn yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr graddedig FLiCR. Y rhan bwysicaf o FLiCR i Martin oedd y ffocws ar hyfforddiant cyfryngau a dysgu’r ffordd orau i gynulleidfaoedd ehangach ddehongli ei ymchwil yn effeithiol.
Ers hynny, drwy ei waith yn y maes imiwnotherapi, mae Martin wedi cyflawni cymorth hanfodol yn y frwydr yn erbyn COVID-19, gan ddatblygu prawf sy’n canfod ymateb celloedd T a gwrthgorff i’r firws yn fanwl gywir mewn un sampl gwaed. Drwy arddangos ymateb imiwnedd ein corff i COVID-19, gallai’r prawf helpu i reoli achosion yn y dyfodol, nodi unigolion sydd mewn perygl, ac mae eisoes wedi profi bod ail ddos y brechlyn yn hanfodol i gleifion canser gynnal amddiffyniad eu brechlyn.
Siaradodd Martin â ni am ei ymchwil yn 2018.
Ar ôl dod yn aelod o FLiCR, llwyddodd Dr Jason Webber (BSc 2005, PhD 2008) i ennill datblygiad gyrfa penodol a hyfforddiant ysgrifennu grantiau, sgiliau hanfodol “i ffwrdd o’r fainc” a alluogodd iddo rannu a gwella’i ymchwil. Canolbwyntiodd ymchwil Jason ar ganser y brostad, clefyd y mae 1 o bob 5 dyn yng Nghymru yn cael diagnosis ohono sy’n rhy hwyr i’w wella.
Bellach yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, nod Jason yw gwella proses ddiagnostig canser y brostad. Mae ef a’i dîm yn datblygu prawf gwaed anfewnwthiol sy’n ymchwilio i siwgrau penodol a geir yn llif gwaed cleifion canser y brostad, gan bennu’r risg o ddatblygu’r clefyd a pha mor debygol ydyw o ledaenu.
Gallai’r prawf hwn yn y pen draw ddarparu diagnosis cynharach, sy’n hanfodol i drin canser y prostad oherwydd unwaith mae’r canser yn lledaenu y tu hwnt i’r brostad, nid oes modd ei wella. Drwy ddileu’r angen am brofion mewnwthiol, mae posibilrwydd y gallai prawf gwaed Jason gynnig diagnosis i lawer mwy o gleifion canser y brostad cyn ei bod yn rhy hwyr.
Siaradodd Jason â ni am ei ymchwil yn 2018.
Fel Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser, roedd Magda, Martin a Jason wedi’u cyfarparu â’r hyfforddiant a’r gefnogaeth oedd eu hangen arnynt i fwrw ati’n syth yn eu gyrfaoedd. Maent wedi mynd ymlaen i drawsnewid y dirwedd ymchwil canser drwy ddiagnosis cynharach a thriniaethau newydd arloesol.
Dysgwch ragor am Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser a sut y gallwch gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018