Fy mhrofiad Menywod yn Mentora – Kate Walsh
26 Mai 2023Yn ddiweddar, cymerodd Kate Walsh (LLB 2010, PGDip 2011) ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol – Menywod yn Mentora, a chafodd gyfle i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant gan ei mentor. Yn yr erthygl hon, mae hi’n siarad am bwysigrwydd cynlluniau fel Menywod yn Mentora a sut y gallant fod yn fuddiol waeth pa gam rydych chi arno yn eich gyrfa.
Fe wnes i gais am y cynllun Menywod yn Mentora gan fy mod yn chwilfrydig o ran pa mor effeithiol y gallai fod, yn enwedig cynllun mentora “fflach” a gyflwynwyd dros ychydig o sesiynau yn unig.
Roedd y mentora yn cynnwys cyfnewid ychydig o negeseuon ebost gyda fy mentor, Sitpah Selvaratnam (LLB 1988) cyn cael sesiwn grŵp gydag un mentorai arall. Roedd yn wych cael y sesiwn grŵp oherwydd wrth drafod pryderon y mentorai eraill, sylweddolais eu bod yn debyg iawn i’r pryderon a brofais i ar y cam hwnnw yn fy ngyrfa.
Weithiau mae’n ddefnyddiol iawn i siarad â rhywun nad yw’n ffrind agos neu’n aelod o’r teulu, oherwydd gallwch gael persbectif newydd ac edrych ar bethau’n wahanol. Roedd Sitpah yn ardderchog am arsylwi pa feysydd yn fy ngyrfa y siaradais fwyaf angerddol amdanynt, sydd wedi fy helpu i ganolbwyntio fy ymdrechion ar y meysydd hynny.
Roedd yn bwysig i mi fy mod yn cael fy mentora gan fenyw sy’n rhagorol yn ei maes. Rwy’n credu bod yna rai heriau gyrfaol sy’n wynebu menywod yn arbennig, felly mae’n ddefnyddiol siarad â rhywun sy’n gallu siarad o brofiad. Roedd hefyd yn hynod ddiddorol trafod uchafbwyntiau gyrfa gyda fy mentor.
Rwy’n teimlo fy mod yn dyst bod cynlluniau mentora yn effeithiol ar unrhyw adeg o’ch gyrfa, nid dim ond ar y dechrau. Byddwn yn argymell y cynllun hwn yn ddi os i unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan. Nid oes gennych unrhyw beth i’w golli trwy fod yn rhan o Menywod yn Mentora.
I unrhyw un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n ystyried cofrestru i fod yn fentorai, bachwch y cyfle hwn â’ch dwy law. Gall fod yn ddefnyddiol iawn cael siecbwyntiau bach ar hyd eich gyrfa i sicrhau eich bod yn symud i’r cyfeiriad cywir.
Os ydych chi’n gyn-fyfyriwr o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i, neu ddod yn fentor i gyn-fyfyriwr, mae ein platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr Cyswllt Caerdydd yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r gyfatebiaeth gywir. Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth.
Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018