Cefnogi ymchwil canser sy’n trawsnewid bywydau – Mollie Lewis (BSc 2022)
8 Mawrth 2023Mae Mollie Lewis (BSc 2022) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref i helpu i godi arian ar gyfer yr ymchwil canser sy’n trawsnewid bywydau a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan mai dyma’r tro cyntaf iddi redeg hanner marathon, mae Mollie yn rhannu ei syniadau am ddechrau ymarfer yn ogystal â’r gefnogaeth anhygoel y mae wedi’i chael gan deulu, ffrindiau a #TeamCardiff.
Rydw i wedi bod eisiau herio fy hun ers amser i gofrestru ar gyfer hanner marathon, ond nid wyf erioed wedi bod yn ddigon dewr. Pan sylweddolais y gallwn redeg yn rhan o #TeamCardiff a chodi arian at achos gwych, roedd yn rhaid i mi ymuno.
Yn 2021 cafodd fy mam ddiagnosis o ganser y fron. Roedd y diagnosis yn sioc i’n teulu cyfan. Yn ystod y misoedd yn dilyn ei diagnosis cafodd lawdriniaethau, triniaethau a meddyginiaeth hirdymor.
Diolch byth, oherwydd ymchwil anhygoel i ganser, datganwyd bod fy mam yn ddi-ganser yn 2022. Mae Chwefror 2023 yn nodi blwyddyn gyfan o fod yn rhydd o ganser, sy’n gymhelliant gwych i mi ddechrau rhedeg a chodi arian ar gyfer ymchwil i salwch a thriniaethau sy’n trawsnewid bywydau.
Ie, dyma fy her redeg gyntaf un ac nid yw’n un hawdd. Dim ond ar ôl cofrestru ar gyfer yr hanner marathon y dechreuais redeg. A chyn hynny, doeddwn i erioed wedi ceisio rhedeg hyd yn oed 5K, gan fod hynny’n ymddangos yn bell! Y syniad o allu hyfforddi ar gyfer yr her hon, tra’n codi arian ar gyfer ymchwil mor wych, yw’r cymhelliant gorau y gallwn o bosibl ofyn amdano.
Dechreuais hyfforddi ar ddechrau mis Ionawr. Penderfynais mai’r ffordd orau i ddechrau hyfforddi oedd ei gychwyn ar ddechrau’r flwyddyn newydd, yn y gobaith o greu arferiad newydd. Nid yw wedi bod yn hawdd, yn enwedig gan fod y nosweithiau gaeafol yn dywyll ac yn oer. Yn ffodus, wrth i’r wythnosau fynd heibio, rydw i’n dechrau teimlo’n fwy cyfforddus a hyderus wrth redeg.
Mae hefyd yn gyfle gwych i gamu i ffwrdd o dechnoleg gan fy mod yn treulio oriau yn gweithio ar fy nghyfrifiadur yn ystod fy oriau gwaith ac yn aml byddaf yn mynd yn syth adref i syllu ar fy ffôn neu deledu. Mae rhedeg wedi gwneud i mi gymryd hoe i ffwrdd o fy sgrin ac mae bron wedi fy ngorfodi i gymryd seibiant o’r byd digidol oedd ei angen yn fawr.
Mae pawb wedi bod yn hynod gefnogol. Mae fy nheulu wedi bod yn galonogol iawn, er gwaethaf y sioc fawr fy mod wedi cofrestru. Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn hyderus y gallaf gyflawni hyn.
Mae llawer ohonyn nhw wedi rhedeg ar ran #TeamCardiff o’r blaen, felly maen nhw wedi rhoi cymorth a chyngor hyfforddi i mi. Mae’n ddefnyddiol clywed am yr holl bethau y dylech ac na ddylech eu gwneud yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr.
Mae’r gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd a #TeamCardiff wedi bod yn hyfryd. Mae’r awgrymiadau ar gyfer hyfforddi a sut i baratoi wedi bod yn ddefnyddiol. Mae wedi bod yn wych derbyn cylchlythyr #TeamCardiff, gyda geiriau ysgogol a chyngor ar gyfer codi arian.
Rwy’n edrych ymlaen at weld Caerdydd ar ddiwrnod y ras yn llawn pobl a chyffro. Mae’n hyfryd gweld y ddinas rwy’n byw ac yn gweithio ynddi, yn llawn hwyl a chwerthin. Mae hefyd yn ffordd wych o weld cymuned Caerdydd yn dod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau pawb a gymerodd ran. A dwi, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at orffen yr hanner marathon!
Gallwch gefnogi ymdrechion codi arian Mollie drwy ei thudalen JustGiving. Oes gennych ddiddordeb rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2023? Gwnewch gais am un o’n lleoedd sy’n weddill.
Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i ddod o hyd i ddarganfyddiadau yn gyflymach. Bydd hyn yn newid bywydau er mwyn gwella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a chynnig triniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018