Cymryd seibiant yn eich gyrfa – Bossing It
24 Ionawr 2023Mae cymryd seibiant gyrfa yn rhywbeth y bydd llawer ohonom yn ei wneud yn ystod ein bywydau ac mae’n rhywbeth i fod yn falch ohono. Mae yna lawer o resymau dros gymryd seibiant gyrfa – boed hynny er mwyn datblygu eich sgiliau proffesiynol, cymryd amser i’w dreulio gyda’r teulu, neu i fachu profiadau newydd. Cawsom sgwrs â rhai o’n cymuned o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu cyngor ar fanteision seibiant gyrfa, a sut i fanteisio i’r eithaf ar eich amser.
Daniel Cave (BSc 2020)
Graddiodd Daniel gyda gradd mewn Ffisiotherapi cyn dechrau gweithio’n Ffisiotherapydd yn y sector preifat ac mewn clwb rygbi yng Nghaerdydd. Er ei fod yn caru’r rolau hyn, ni allai wrthsefyll yr ysfa i deithio, felly ym mis Awst 2022 penderfynodd adael ei swydd er mwyn archwilio’r hyn oedd gan y byd i’w gynnig. Ers gadael y DU, mae Daniel wedi ymweld â nifer o wledydd yn Ne-ddwyrain Asia, gan dreulio amser yn rhannau harddaf y byd a phrofi nifer o wahanol ddiwylliannau.
Gall seibiant gyrfa eich gwneud yn fwy cyflogadwy
Er y gallai cymryd seibiant o’ch gyrfa ymddangos fel cam i’r cyfeiriad anghywir, byddwn yn dadlau y gallai wella eich rhagolygon gyrfa a’ch gwneud yn fwy cyflogadwy. Mae’r profiadau a’r sgiliau y gallwch eu hennill yn drosglwyddadwy a gallant fod yn allweddol, yn eich gyrfa ac yn eich bywyd preifat. Trwy gwrdd â phobl o bob cefndir a delio â sefyllfaoedd annisgwyl, rydw i wedi canfod bod fy sgiliau cyfathrebu, datrys problemau, a fy ngallu i ddelio â sefyllfaoedd dan bwysau mawr wedi datblygu’n aruthrol, yn ystod fy amser i ffwrdd. Rydw i hefyd wedi darganfod bod tynnu fy hun o bwysau fy ngyrfa wedi caniatáu i mi feddwl yn gliriach. Erbyn hyn mae gen i ddealltwriaeth well o fy mlaenoriaethau ac rwyf wedi gallu nodi’r meysydd yn fy ngyrfa a’m bywyd personol yr wyf am eu dilyn pan fyddaf yn dychwelyd.
Rhoi cynllun ar waith, ond byddwch yn barod i’w addasu
Mae’n bwysig cael syniad clir o’r hyn yr hoffech ei wneud a’r hyn yr hoffech ei gyflawni yn ystod yr egwyl o’ch gyrfa, ond peidiwch â gadael i hyn eich cyfyngu. Rydw i wedi sylwi bod yr eiliadau mwyaf hudol wedi dod o gyfleoedd nad wyf wedi’u disgwyl. Mae peidio â chael amserlen dynn wedi fy ngalluogi i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chael profiadau anhygoel. Rydw i wedi cael llawer o hwyl wrth ildio i brofiadau cwbl newydd a chael ffydd y bydd drysau’n agor ac yn cau i mi, heb fawr o syniad o ble byddaf yn cyrraedd!
Nori Shamsuddin (LLB 1998)
Mae Nori yn fam, yn fardd cydnabyddedig, yn sentimental am gariad, ac yn awdur llawrydd. Mae’n treulio oriau yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer rhaglenni teledu, rhaglenni dogfen, hysbysebion, ffilmiau byr, ac yn golygu copi llawer o ddogfennau busnes a thechnegol, ond mae hi’n parhau i dreulio oriau’n breuddwydio am gyhoeddi ei llawysgrif (sydd wedi’i gorchuddio â llwch a gwe pry cop ar hyn o bryd). Ychydig flynyddoedd yn ôl, cymerodd seibiant gyrfa i ofalu am ei rhieni oedd yn heneiddio ac mae’n rhannu ei phrofiadau o gamu allan o’i pharth cysur.
Newid eich persbectif
Roedd yn benderfyniad beiddgar i gymryd seibiant gyrfa ac roedd yn golygu camu allan o fy mharth cysur. Roeddwn yn ennill incwm sefydlog gyda manteision a buddion rhagorol ac roeddwn yn cael cyfle i ehangu fy rhwydwaith bob dydd. Doedd gen i ddim syniad y byddai gadael bywyd prysur ac egniol yn cynnig profiad hollol newydd i mi, a’r gallu i weld bywyd o safbwynt gwahanol. Dysgais sut i werthfawrogi pleserau bach bywyd sy’n cael eu hanwybyddu mor aml – rhywbeth mor syml â sipian paned boeth o goffi gyda fy rhieni wrth wrando arnynt yn rhannu straeon am eu dyddiau iau. Mae treulio amseroedd gwerthfawr gydag anwyliaid wedi ehangu’r ffordd yr oeddwn yn gweld y byd ac wedi gwneud i mi werthfawrogi bywyd mewn ffordd hollol newydd.
Byddwch yn garedig i chi’ch hun
Mae seibiant o fy ngyrfa wedi fy ngalluogi i ganolbwyntio arna i fy hun a rhoi hwb i’m hiechyd meddwl a chorfforol, rhywbeth a oedd yn angenrheidiol i mi yng ngham nesaf fy nhaith waith yn weithiwr llawrydd. Datblygodd fy amynedd, goddefgarwch a dyfalbarhad, pethau na feddyliais erioed eu bod yn bosibl. Rydw i wedi dysgu pwysigrwydd bod yn driw i chi’ch hun a chofleidio bywyd. Fy mhenderfyniad i gymryd seibiant gyrfa i fod gyda’r bobl roeddwn i’n eu caru tan ddyddiau olaf eu bywydau, ac wedi hynny i ddilyn fy mreuddwydion a gwneud yr hyn rydw i wir eisiau ei wneud mewn bywyd, oedd y peth gorau a wnes i erioed o ran fy nhaith bersonol a gwaith.
Rachel Rowlands (BA 2010, PgDip 2016, MSc 2020)
Gwnaeth Rachel radd mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a’r Cyfryngau, ac yna hyfforddodd i fod yn athrawes ysgol gynradd, gan addysgu mewn nifer o ysgolion yn Ne Cymru am dair blynedd. Penderfynodd Rachel newid gyrfa oherwydd ei bod yn teimlo’n anfodlon a chymerodd seibiant gyrfa i ailhyfforddi. Fe wnaeth hi gwrs ôl-radd carlam, gan gymhwyso’n therapydd galwedigaethol yn 2016. Ar ôl tair blynedd o ymarfer, dechreuodd ei rôl bresennol yn ddarlithydd Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gyfuno ei phrofiad addysgu a therapi galwedigaethol.
Gosod eich nodau
Mae cymryd seibiant gyrfa yn benderfyniad mawr, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud y penderfyniad hwn yn llai brawychus. Mae’n bwysig deall yr hyn rydych chi am ei gyflawni yn ystod yr egwyl hon, er mwyn i chi allu cynllunio yn unol â hynny i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n cynllunio ymlaen llaw, gallwch chi baratoi’n ariannol trwy gyfrifo cyllideb, arbed arian cyn cymryd y seibiant gyrfa, ac ymchwilio i ysgoloriaethau a benthyciadau datblygu gyrfa y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer.
Pwyso ar eich rhwydwaith cymorth
Wrth gymryd seibiant gyrfa, mae’n bwysig iawn cael rhwydwaith cymorth. Dywedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau am eich cynlluniau ymlaen llaw, a gofynnwch iddynt a fyddant yn gallu eich cefnogi. Gallai hyn gynnwys helpu gyda choginio sypiau o fwyd, gofal plant, mynd i ddiwrnodau agored gyda chi neu hyd yn oed bod yn glust i wrando. Mae angen i chi fod yn realistig ynghylch yr hyn sydd ei angen tra byddwch yn ailhyfforddi, a hefyd rheoli disgwyliadau eich ffrindiau a’ch teulu yn ystod y cyfnod pontio hwn.
Tim Fisher (BSc 2017)
Ar ôl graddio gyda gradd BSc Systemau Gwybodaeth Busnes, bu Tim yn Ymgynghorydd Technegol am bum mlynedd. Yn ystod y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, roedd Tim wrth ei fodd yn rhedeg, a dwy flynedd yn ddiweddarach penderfynodd adael ei swydd a chymryd seibiant gyrfa i ddilyn cyfres o nodau personol yn ymwneud â dygnwch. Yn ystod ei seibiant gyrfa o 9 mis, ymgymerodd Tim ag amryw o heriau corfforol gan gynnwys cerdded ar draws Unol Daleithiau America (2,650+ milltir) a thorri’r ‘amser hysbys cyflymaf’ ar gyfer Llwybr Taf Cymru (54 milltir mewn 9 awr a 9 munud).
Ni fydd pawb yn ymateb yn gadarnhaol i’ch penderfyniad – ond nid oes angen poeni am hynny
Roedd “Pam fyddech chi’n rhoi’r gorau i’ch swydd?” a “Sut bydd seibiant gyrfa yn edrych ar eich CV?” yn gwestiynau a oedd yn cael eu gofyn yn aml pan ddywedais fy mod yn mynd i gymryd seibiant gyrfa. Ar ôl treulio cyfnod wedi fy llethu o ganlyniad i oriau hir yn y gwaith, roeddwn i’n gwybod bod angen seibiant arnaf yn feddyliol, ac roedd y risg yn werth ei gymryd. Er bod pobl yn cwestiynu fy mhenderfyniad, gallaf ddweud mai’r egwyl 9 mis oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Nid yw’r seibiant gyrfa wedi effeithio’n negyddol ar fy nghyfleoedd gwaith, gan fod llawer o gyfwelwyr yn chwilfrydig i glywed am fy anturiaethau.
Cofiwch baratoi ar gyfer dychwelyd i’r gwaith.
Ni fydd pawb yn gwybod beth maent am ei wneud â’u bywyd gwaith pan fyddant yn dychwelyd o seibiant gyrfa, ac mae hynny’n iawn. Fodd bynnag, cofiwch gael cynllun sylfaenol yn ei le, gan gynnwys rhoi arian ‘argyfwng’ o’r neilltu i wneud yn siŵr eich bod yn gallu byw’n gyfforddus os ydych yn dychwelyd yn ddi-waith. Yn fy achos i, roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau trosglwyddo i fod yn gontractwr er mwyn rhoi’r rhyddid i mi barhau i deithio am sawl mis ar y tro. Roeddwn wedi adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau busnes cyn cychwyn ar y daith, wedi ymchwilio i’r diwydiant contractio, ac wedi rhoi diweddariad LinkedIn ar ôl dychwelyd a arweiniodd at gyfleoedd gwaith amrywiol.
Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’. Hoffech chi gael rhagor o gymorth gan rai o’n cynfyfyrwyr gwych? Beth am gofrestru ar gyfer ein cynllun ‘Womentoring’ heddiw.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018