Gair Rhydd – Dathlu 50 mlynedd
27 Hydref 2022Dathlu Pen-blwydd Gair Rhydd yn 50 oed eleni. Mae Gair Rhydd wedi gweld llu o newidiadau ers ei argraffiad cyntaf ar 3 Hydref 1972, o ysgrifennu erthyglau ar deipiaduron a’u pinio i fyrddau gosod i’w hargraffu, i gyhoeddi’r papur ar-lein yn ddidrafferth.
Yn ddiweddar, fe wnaethon ni alw ar ein cymuned o gynfyfyrwyr i rannu eu hatgofion ynghylch y Gair Rhydd a’r hyn y mae wedi’i olygu iddyn nhw dros y blynyddoedd. Fe fu’r ymateb yn anhygoel, gyda dwsinau o gynfyfyrwyr yn hel atgofion, yn rhannu eu hoff brofiadau a beth maen nhw’n ei wneud nawr.
John Hartley (PhD 1977), Cyd-sylfaenydd 1972
“Cyd-sefydlais Gair Rhydd gyda Dave Aldridge (a dewisais yr enw). Roeddwn yn fyfyriwr PhD yn yr Adran Saesneg. Roeddwn i wedi golygu’r papur myfyrwyr llawer hŷn yn flaenorol. Ar hyn o bryd rwy’n athro cyfryngau digidol a diwylliant ym mhrifysgol Sydney. Pen-blwydd hapus Gair Rhydd!”
Geoffrey Gadd (BSc 1978, PhD 1978), Golygydd (sefydlu) 1972-1973
“Rwy’n cofio cynnwys fy nghartwnau ymhlith yr erthyglau arferol am gamreoli canfyddedig y Brifysgol (toriadau, bargeinion eiddo, cynnydd mewn rhent, ac ati), gwybodaeth am gyffuriau, adolygiadau o lyfrau a bandiau, a gorfod mynd i Brifysgol Abertawe i osod y papur yn y ffordd hen ffasiwn i’w argraffu. Ni allaf gofio pam y daeth fy nghyfranogiad i ben ond rwy’n falch iawn bod Gair Rhydd yn parhau ar waith ar ôl 50 mlynedd ar adeg pan mae’r “gair rhydd” yn bwysicach nag erioed.”
David Else (BA 1982), Golygydd 1982-1983
“Fi oedd golygydd Gair Rhydd rhwng1982-83. Bryd hynny, roedden ni’n arfer teipio (gan ddefnyddio teipiadur go iawn) ein herthyglau ar ddalennau o bapur a’u gosod ar fyrddau gosod. Os oedd gwall, roedd yn rhaid i ni dorri a gludo – yn llythrennol – gan ddefnyddio siswrn a glud. Byddem yn gorffen eu llunio ar nos Sul, gan fod angen mynd â’r byrddau at yr argraffwyr ben bore Llun. Byddwn yn eu cario ‘nôl i fy fflat yn Stryd Coburn i’w cadw dros nos, a weithiau’n galw yn y Woodville neu New Ely (y Vulcan Lounge erbyn hyn) am ddiod ar y ffordd adref. Wrth gwrs, fe wnes i’n siŵr nad oedd y byrddau’n mynd ar goll na’n cael eu difrodi, gan nad oedd unrhyw ffeiliau wrth gefn yn yr oes cyn-gyfrifiadur honno.”
Maria Mellor (BA 2017, MA 2020), Golygydd 2016-2017
“Roeddwn yn rhan o dîm Gair Rhydd am bob un o’m tair blynedd yn fyfyriwr israddedig, ac mae’r bobl gwnes i gwrdd â nhw yno ymhlith fy ffrindiau gorau heddiw. Roedd y swyddfa honno yn ail gartref i mi ac rydw i mor falch o’r gwaith a gyflawnwyd gennym, yn enwedig rhifyn arbennig etholiad cyffredinol 2017.
I’r timau presennol ac yn y dyfodol: byddwch yn ddewr. Byddwch yn radical. Byddwch yn fentrus a dilynwch eich greddf. Bydd y creadigrwydd y byddwch yn ei fynegi yma yn dysgu mwy i chi nag unrhyw gymhwyster neu swydd. Yn anad dim, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei brawf ddarllen!”
Mandy Bradshaw (BA 1984), Golygydd swyddog sabothol benywaidd cyntaf 1984-1985
“Cyn y rhyngrwyd neu ffonau symudol, Gair Rhydd oedd yr unig ffordd o gael gwybod beth oedd yn digwydd. Cymerwyd copïau ar unwaith wrth i mi adael pentyrrau mewn neuaddau a chyfadrannau, ac roedd angen i ni guddio copïau’r hysbysebwyr. Rwy’n cofio golygu’r 200fed rhifyn, gwerthu £8,000 mewn hysbysebion i dalu am ddiffyg yn y gyllideb, oriau hir, ffrindiau da, a bwrlwm stori wych.”
Joe Atkinson (BA 2016), Golygydd 2015 – 2016
“Mae unrhyw un sydd wedi gweithio ar Gair Rhydd yn gwybod ei fod yn troi’n llafur cariad yn gyflym. Nid y straeon dan sylw na’r colofnau llawn yw fy mhrif atgofion, ond yr adegau y bûm yn gweithio drwy’r nos gyda’r tîm i gwrdd â therfyn amser, neu’r wefr o weld eich enw mewn print.”
Jessica Warren (BSc 2019), Golygydd 2018 – 2019
“Atgof amlwg o ystafell newyddion Gair Rhydd rwy’n ei gofio oedd penderfyniad munud olaf i ddileu’r dudalen flaen a dechrau o’r newydd. Gyda’r dyddiad cau ar y gorwel, ymatebodd y tîm gydag egni a natur benderfynol. Roedd y foment llawn adrenalin yn gipolwg byr ar benderfyniadau golygyddol cyflym ystafell newyddion genedlaethol.”
David Maher Roberts (BScEcon 1991), Golygydd 1991-1992
“Mae gen i gymaint o atgofion o Gair Rhydd, mae’n anodd dewis dim ond un, ond yr un sydd bob amser yn dod i’r meddwl yw mynd i The Guardian Student Media Awards yn Llundain ym 1992. Roedden ni wedi ennill y flwyddyn cynt (am y tro cyntaf erioed ac o dan olygyddiaeth Colin Eshelly/Brazier) ac fe gyrhaeddon ni’r rhestr fer eto (dan olygyddiaeth Sian Hoskins). Roeddwn i yno gyda rhai o fy ffrindiau anwylaf o Gair Rhydd a phan gyhoeddwyd mai ni oedd yr enillwyr, fe wnaethon ni sŵn aruthrol ac afreolus! Roeddem wedi torri traddodiad papur myfyrwyr Rhydychen o ennill y gwobrau trwy ennill dwy flynedd yn olynol. Roeddwn i’n falch iawn o’r tîm cyfan. Roeddwn i’n falch iawn.”
Lisa Pritchard (BA 1995, PGDip 1997), Golygydd 1995-96
“Roedd yn anrhydedd anhygoel golygu Gair Rhydd: roeddwn yn gweithio oriau hir, ond roedd yn llawer o hwyl ac yn sylfaen wych ar gyfer gyrfa ym maes newyddiaduraeth. Llongyfarchiadau ar ddathlu 50 mlynedd – pob hwyl gyda’r 50 nesaf.”
Sarah-Jane Bellis (BA 2003)
“Roeddwn i yng Nghaerdydd yn astudio cymdeithaseg rhwng 2000-2003, roeddwn yn mwynhau darllen Gair Rhydd ac roedd rhestrau’r raglenni teledu bob amser yn ddoniol tu hwnt. Da iawn pwy bynnag a’u hysgrifennodd.”
Matt Nicholls (BA 1999)
“Atgofion melys o drefnu’r tudalennau newyddion bob nos Iau ar ddiwedd y 90au gyda Paul Clarke a’n ffrind diweddar James McLaren.”
Rachel Mainwaring (BA 1996, PGDip 1997)
“Bues i’n gweithio ar Gair Rhydd rhwng 1993-96 cyn astudio ar gyfer ôl-radd mewn newyddiaduraeth papur newydd a mynd ymlaen i weithio i Wales on Sunday / South Wales Echo / Wales on Sunday a WalesOnline. Roedd yn lle gwych i ddysgu’r sgiliau, ysgrifennu erthyglau a rhoi cynnig ar vox pops. Gwnaeth y ffotograffwyr fy mherswadio i dynnu llawer gormod o luniau ond roedd yn wych ac yn llawer o hwyl. Pen-blwydd hapus Gair Rhydd!”
Roger Faires (MEng 2007)
“Roedd fy mrawd yn gweithio ar y tudalennau digidol rhwng 2000-2003. Roedd ganddo fwncïod môr ar ei ddesg ac roedd tîm y ddesg chwaraeon yn eu hyfed pan oedden nhw wedi meddwi ac yn cael eu herio.”
Georgina Cannon (BA 2001)
“Ysgrifennais y croesair yn 1999 neu 2000! Mwynheais eistedd yn y caffi yn yr adeilad Hanes ac yn nhafarn y Taf yn gwrando yn gyfrinachol ar bobl yn ei drafod ac yn ceisio meddwl am yr atebion. Doeddwn i ddim yn hoffi’r ffaith ei fod yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Iau gan fy mod yn ddieithriad yn yfed gormod ar nos Fercher yn yr undeb gyda gweddill tîm rygbi’r merched ac yn dioddef ar fore Iau.”
Mark Moran (BA 1987), Golygydd 1987-88
“Roedd golygu Gair Rhydd yn waith di-baid a llafurus. Yna, yn sydyn, un diwrnod fe stopiodd. Roedd hi’n dymor yr haf a daeth fy nghyfnod yn golygu i ben. Roedd diwedd fy nhymor yn y swydd yn cyd-daro â dyddiau olaf swyddfa Gair Rhydd gan fod Undeb y Myfyrwyr yn cael ei hadnewyddu. Cliriwyd y desgiau a’r cypyrddau ffeilio a thynnwyd haenau o bosteri gigiau, tudalennau blaen, toriadauo’r wasg a ffotograffau oddi ar y waliau. Fodd bynnag, mae’r ystafell honno’n parhau mewn ôl-rifynnau, albwm o luniau, fy nghof a, gobeithio, atgofion y bobl y bûm yn gweithio gyda nhw.
Cefais y fraint o gael fy nghefnogi gan dîm o ohebwyr, ffotograffwyr a golygyddion adran talentog a llawn dychymyg. Aeth llawer ymlaen i gael gyrfaoedd yn y cyfryngau ac mae’r cyfeillgarwch a ffurfiwyd ar ddiwrnodau’r wasg ym Mhlas y Parc wedi para am oes.”
Os gwnaethoch fwynhau darllen rhai o’r straeon hyn a’ch bod am rannu eich straeon eich hun, gallwch ailgysylltu a hel atgofion gyda chynfyfyrwyr eraill ar Cysylltiad Caerdydd. Mae grŵp wedi’i greu ar gyfer popeth sy’n ymwneud â Gair Rhydd.
Gweld rhifyn hanner canmlwyddiant Gair Rhydd.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018