Cyflwyno… y Gwobrau (tua) 30
25 Mai 2022Bydd y Gwobrau (tua) 30 yma cyn hir, ond beth yn union ydyn nhw? Barry Sullivan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiadau Cefnogwyr a Phennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr a Chefnogwyr, sy’n ein tywys drwy’r syniad y tu ôl i’r cynllun gwobrwyo hwn – cynllun sy’n gwneud pethau ychydig yn wahanol.
Mae rhestrau – 30 o bobl dan 30 oed (30 under 30s) – yn très cliché. Rydym yn sefydliad blaenllaw ar gyfer addysg uwch. Rydyn ni’n gwrthod cael ein cyfyngu gan rifau di-ystyr. Ac fel y bobl rydyn ni’n eu dathlu, sy’n torri’r rheolau ac yn arloeswyr, rydyn ninnau’n gwneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol. Dyma gyflwyno: Gwobrau (tua)30.
“Beth os ydw i’n 34?” Rwy’n eich clywed yn gofyn. “Dim probs” yw fy ateb i.
“Sut y byddwch chi’n dewis dim ond 30 enillydd?” yw’ch geiriau nesaf. “Meh” (ni).
“Alla’i fy enwebu fy hun?” (rwy’n gobeithio mai hwn yw eich cwestiwn olaf)… “Yn sicr” Rwy’n pwysleisio fy ateb. “Byddwch yn falch o’r effaith rydych chi’n ei chael a chodwch eich llais amdani!”
Mae’r Gwobrau (tua)30 yn gyfle i’r Brifysgol gydnabod y cynfyfyrwyr ifanc(ish) arloesol sy’n ysgwyd seiliau’r status quo er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned. Rydym yn chwilio am straeon ysbrydoledig ynghylch pobl sy’n newid y drefn ac yn creu llwybrau newydd, ac yn arddangos beth mae’n ei olygu i fod yn un o bobl prifysgol Caerdydd.
Cadwch lygad am ein cyhoeddiad ddiwedd mis Mehefin pan fydd ceisiadau ac enwebiadau yn agor. A rhowch y dyddiad yn eich calendr: Dydd Iau 20 Hydref 2022. Mae rhoi’r dyddiad yn eich calendr ar gyfer seremoni wobrwyo nad ydych chi hyd yn oed wedi gwneud cais amdani eto, yn weithred sy’n mynegi hyder go iawn, ac rydyn ni’n parchu hynny!
Bydd hon yn noson fydd yn digwydd WYNEB YN WYNEB*, a bydd yn gyfle i ddathlu a rhwydweithio gyda gwneuthurwyr-gwahaniaeth eraill o Gaerdydd… ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno.
*Gan gadw ein bysedd wedi’u croesi’n dynn na fydd unrhyw gyfyngiadau
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018