Menywod sy’n mentora ‘22 – Cysylltu cyn-fyfyrwragedd Caerdydd â’i gilydd drwy fentora
27 Ebrill 2022Yn ystod mis Mawrth, i ddathlu Mis Hanes Menywod, cynhaliwyd ein digwyddiad fflach-fentora blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwragedd Caerdydd, sef Menywod sy’n mentora.
Daethon ni â 22 o gyn-fyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd a ddewiswyd yn ofalus yn fentoriaid at ei gilydd, i rannu eu profiad a’u harbenigedd gwerthfawr. Mae ein mentoriaid, sydd ar frig eu maes mewn diwydiannau megis y gyfraith, technoleg, cyllid, marchnata, recriwtio, gwyddorau bywyd a’r trydydd sector, wedi cefnogi ein mentoreion mewn digwyddiadau rhithwir, sesiynau grŵp a chyfarfodydd un i un.
Cafodd ein 62 o fentoreion ar ddechrau eu gyrfa’r cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth, meithrin rhwydweithiau, gofyn cwestiynau, a chael sawl cipolwg ar y diwydiant. Drwy eu cysylltu’n uniongyrchol â chyn-fyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd, rydyn ni’n grymuso graddedigion benywaidd o Gaerdydd i gyflawni eu potensial llawn.
Dyma’r hyn roedd gan rhai o’n mentoreion i’w ddweud;
“Cefais fy mharu â mentor a oedd mor wych, ac rydyn ni’n mynd i gadw mewn cysylltiad â’n gilydd . Mae cwrdd â menyw arall yn fy maes cystadleuol a heriol a chlywed am ei phrofiadau a’r heriau y mae wedi’u goresgyn wedi bod mor ddefnyddiol.”
Lucy Sutcliffe (LLB 2013)
Cyfreithiwr Cyswllt yn Osborne Clarke, wedi’i mentora gan Carolyn Pepper (LLB 1993, PGDip 1994), Partner yn Reed Smith.
“Roedd y profiad yn wych ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r rhaglen Menywod sy’n mentora am fy nghysylltu â’m mentor ysbrydoledig.”
Lauren Sourbutts (BA 2013)
Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Caerdydd, wedi’i mentora gan Amanda Cairo (MA 2001), Rheolwr Cyfathrebu yn UC Berkeley.
“Des i ymlaen yn dda iawn gyda fy mentor. Gofynnodd hi gwestiynau craff gan roi cyngor cadarn. Gwnes i fwynhau’r sesiynau mentora mewn grŵp yn fawr wrth iddyn nhw roddi sicrwydd imi nad ydw i ar fy mhen fy hun yn fy nheimladau ac oherwydd hynny ces i hwb mawr wrth edrych ymlaen tuag at y dyfodol.”
Lea Sanford-Opatz (myfyriwr Erasmus 2015)
Lea Sanford-Opatz, (myfyriwr Erasmus 2015), Seicolegydd Cynorthwyol yn GIG Cymru, wedi’i mentora gan Anne Hill (BSc 1980), Uwch Is-lywydd a Phrif Swyddog Adnoddau Dynol yn Avery Dennison (Wedi Ymddeol).
Rydyn ni mor ddiolchgar i’n holl fentoriaid a roddodd o’u hamser i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o Brif Weithredwyr, cyfarwyddwyr, llywyddion a phartneriaid benywaidd, trwy rannu eu harbenigedd a’u profiad.
Os ydych chi’n gyn-fyfyrwraig o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i rywun arall sydd wedi graddio neu i fod yn fentor, mae ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr Cysylltiad Caerdydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r person cywir. Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth.
Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018