Skip to main content

DonateNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Syndrom ofarïau polysystig a phwysigrwydd ymchwil endocrinaidd

16 Chwefror 2022

Mae’r Athro Aled Rees (MBBCh 1993, PhD 2002) wedi cysegru ei fywyd i endocrinoleg – un o’r meysydd ymchwil llai adnabyddus sy’n effeithio ar bob un ohonom. Yma, mae’n esbonio beth yw endocrinoleg, pam mae’n bwysig a sut mae ei ymchwil yn edrych ar y cyflyrau iechyd hirdymor sy’n gysylltiedig â syndrom ofarïau polysystig.

Cafodd yr Athro Aled Rees ei fagu yn Sir Benfro, a theithiodd ychydig ymhellach oddi cartref i Gaerdydd er mwyn astudio meddygaeth. Cafodd ei ddenu i Brifysgol Caerdydd oherwydd ei henw da rhyngwladol am ei gwaith ym maes anhwylderau pitẅidol/endocrinoleg. Ers gorffen ei addysg, mae wedi bod yn glinigwr ac yn ymchwilydd yng Nghaerdydd sydd wedi rhannu ei waith rhwng y GIG a’r Brifysgol.

Esbonio endocrinoleg

Nid yw llawer o bobl yn gwybod beth yw endocrinoleg, a phan fydd rhywun (yn anochel) yn gofyn i Aled beth ydyw, mae’n ei ateb drwy roi esboniad gwych.

“Dychmygwch mai cerddorfa yw eich hormonau – yr hormonau sy’n cael eu cynhyrchu gan y thyroid, hormonau steroid, testosteron ac ati. Maint pysen yw’r chwarren bitẅidol, ac mae ar waelod yr ymennydd y tu ôl i’r trwyn. Dyma arweinydd y gerddorfa. Mae’r arweinydd yn cael adborth gan y gerddorfa/hormonau, ac mae’r naill yn cadw’r llall dan reolaeth.”

Mae hormonau’n rheoli sawl peth fel eich metaboledd, eich pwysau, eich pwysedd gwaed, faint o destosteron sy’n cael ei gynhyrchu ac ati. Bydd diffyg hormonau neu ormod ohonynt yn effeithio ar sut mae’r pethau hyn yn gweithio. Mae diabetes, isthyroidedd (thyroid tanweithredol) a syndrom ofarïau polysystig yn enghreifftiau mwy adnabyddus o anhwylderau endocrinaidd. Er hynny, ceir sbectrwm eang o anhwylderau a chlefydau endocrinaidd.

Syndrom ofarïau polysystig a chyflyrau iechyd hirdymor

Mae llawer o waith Aled yn canolbwyntio ar niwroendocrinoleg, sef sut mae anhwylderau endocrinaidd yn effeithio ar yr ymennydd. Mae hyn yn cynnwys astudio syndrom ofarïau polysystig, yr anhwylder endocrinaidd mwyaf cyffredin ymhlith menywod ifanc, sy’n effeithio ar 5-10% o’r rhai nad ydynt wedi bod drwy’r menopos. Mae’n gyflwr lle gwelir ymwrthedd i inswlin, gormod o androgenau yn y corff a morffoleg ofarïaidd annormal.

Mae rhywfaint o waith Aled yn ymwneud â darganfod a yw hyn yn arwain at risgiau iechyd eraill, fel diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi llawer iawn o ddata, edrych ar bethau fel demograffeg cleifion, barnau meddygol a gofnodwyd, presgripsiynau ac ati. Mae hefyd yn cynnwys delweddu’r ymennydd, sy’n un o gryfderau’r Brifysgol ym maes ymchwil oherwydd Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.

“Rydym wedi gallu dangos bod angen codi ymwybyddiaeth pobl o’u tebygolrwydd o ddatblygu diabetes neu glefyd cardiofasgwlaidd, a chael strôc hyd yn oed, yn y tymor hir. Mae’n hollbwysig cynnal pwysau iach ac atal y problemau hyn ar gam cynnar.”

O ran triniaeth, cynhaliodd Aled a’i dîm dreial safon aur: hap-dreial trawsgroesi, dwbl-ddall wedi’i reoli â phlasebo i ymchwilio i effeithiau cyffur o’r enw ‘metformin’ ar debygolrwydd menywod â syndrom ofarïau polysystig o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a metabolaidd. Hyd yn hyn, mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gall y cyffur hwn leihau’r tebygolrwydd o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a metabolig, ond mae angen gwneud mwy o ymchwil.

Effaith ar iechyd meddwl a chanlyniadau niwroddatblygiadol

“Mae syndrom ofarïau polysystig yn gyflwr nad yw’n cael ei gydnabod na’i werthfawrogi ddigon, ac mae’n cael effaith sylweddol iawn ar fywyd y menywod sy’n byw gydag ef.”

Gall amlygiad y cyflwr ar y croen, ar ffurf colled gwallt ac acne, achosi gofid emosiynol, yn ogystal â phryderon ynghylch ffrwythlondeb a materion eraill. Gallai hyn gyfrannu at fwy o iselder a gorbryder uwch ymhlith y rhai â syndrom ofarïau polysystig.

Mae astudiaethau eraill wedi’u cynnal i arsylwi canlyniadau niwroddatblygiadol, yn arbennig awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, i blant y rhai â syndrom ofarïau polysystig. Mae canfyddiadau cynnar yn dangos bod y risg gymharol yn uwch ymhlith menywod beichiog â syndrom ofarïau polysystig, ond mae’r risg wirioneddol (nifer y bobl yr effeithir arnynt) yn isel iawn yn y boblogaeth gyffredinol. Gallai’r cynnydd cymharol fod o ganlyniad i lefel yr androgenau, neu destosteron, sy’n tueddu i fod yn uwch ymhlith menywod beichiog â syndrom ofarïau polysystig. Fel arall, gallai fod o ganlyniad i ffactorau teuluol a rennir.

Mae Aled yn cyflwyno’r ymchwil hon yn ein digwyddiad Arddangos Ymchwil. Mae’n mynd i fwy o fanylder ac yn pwysleisio’r angen “am ymchwil bellach i ddeall beth sy’n digwydd er mwyn gwella ymyriadau cymaint â phosibl a lleihau morbidrwydd seiciatrig, cardiofasgwlaidd a metabolaidd sy’n gysylltiedig â syndrom ofarïau polysystig.”

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae Aled yn frwdfrydig dros ddyfodol niwroendocrinoleg. “Peth cyffrous yw gallu gweithio gyda chydweithwyr mewn disgyblaethau eraill sy’n dod o gefndiroedd amrywiol. Mae’n mynd i fod yn gyfnod cyffrous iawn i ni oherwydd yr adnoddau a’r cyfleoedd cwbl arbennig sydd ar gael yng Nghaerdydd.”

“Rydym yn bwriadu ailgynllunio gwasanaethau yng Nghymru i gefnogi proses gomisiynu fwy ffurfiol ar gyfer ein gwaith a chanolbwyntio ar yr amodau prinnach rydym yn eu hwynebu. Hoffwn weld ein data’n llywio polisi, gan fod hynny’n rhywbeth effeithiol iawn y gallwn ei wneud i ddeall risg ac anelu adnoddau.”

Haelioni pobl eraill

“Rwy’n hynod o ddiolchgar am y rhoddion anhygoel sydd wedi dod i law ar gyfer yr ymchwil hon, yn enwedig rhodd a adawyd yn ddiweddar mewn ewyllys. Mae’n anrhydedd eu derbyn, ac maent yn cynnig cyfle gwych i wneud gwaith a fydd yn cael effaith a gwaith sy’n uniongyrchol berthnasol i gleifion.

Mae ymchwil yn dibynnu ar roddion. Hyd yn oed os mai dim ond newidiadau bach sy’n bosibl ar y pryd, mae’r rhain yn arwain at newidiadau mwy yn y pen draw.”

Darganfyddwch ragor am sut y gallwch gefnogi ymchwil sy’n debyg i ymchwil Aled.