Skip to main content

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Uwd siocled, menyn cnau daear, a llus

10 Mawrth 2022

Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus! 

Dyma’r cogydd

Sarah John (BA 2011) yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, bragdy llwyddiannus a ddechreuodd gyda’i phartner busnes pan oedd yn ei hugeiniau. Ystyrir Sarah yn un o entrepreneuriaid gorau’r DU a dechreuodd ar ei thaith yma yng Nghaerdydd fel myfyriwr Newyddiaduraeth.

“Ro’n i wrth fy modd yn coginio’r uwd yma pan o’n i’n fyfyriwr – roedd yn teimlo fel ffordd o gael siocled i frecwast heb fod yn ddrwg! Roedd yn gwneud i mi deimlo’n llawn am oesoedd, felly dyma’ r dewis os o’n i’n gwybod bod gen i aseiniad hir i’w orffen y diwrnod hwnnw.”

Dewch i ni goginio…

Rhestr siopa

300ml o ddŵr llaethog

(ó llaeth, ó dŵr)

75g o geirch

1 llwy fwrdd o bowdwr siocled

Llond llaw o lus (blueberries)

3 llwy fwrdd o ddŵr

1 pinsiad o halen

Llwyaid neu ddwy o fenyn cnau daear (llyfn neu grensiog)

10g o naddion siocled tywyll

Bydd arnoch angen

Jwg mesur Sosban ganolig Sosban fach

Dull

Cam 1

Cymysgu’r dŵr llaethog, y ceirch a’r halen mewn sosban a dod â’r cyfan i’r berw.

Cam 2

Pan fydd yn berwi, gostwng y gwres a’i fudferwi am tua 5 munud nes ei fod wedi tewhau. Rhaid troi’r gymysgedd bob hyn a hyn fel nad yw’n gludo ar waelod y sosban.

Cam 3

Ychwanegu’r powdr siocled a’r menyn cnau daear.

Cam 4

Mewn sosban lai, mudferwi’r llus yn y dŵr am tua 2 funud nes bod rhywfaint o sudd i’w weld.

Cam 5

Gweini’r uwd gyda’r llus (gan gynnwys y sudd blasus!) a naddion siocled.

Dewisol

Ei wneud yn figan drwy ddefnyddio dewis llaeth soia neu geirch (neu ddŵr yn unig).

Ei wneud yn ddi-glwten drwy ddefnyddio ceirch heb glwten.

Yn ôl ein profwr o Undeb y

Myfyrwyr, Megan Somerville (BSc 2021) Llywydd yr Undeb Athletau a Dirprwy Lywydd Chwaraeon…

“Dechreuwch y diwrnod yn iawn gydag ychydig o uwd. Dyma’r ffordd orau o ddechrau’r diwrnod a gallwch fod yn greadigol drwy ychwanegu blasau ac ati. Perchnogwch eich uwd!”

Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!