Skip to main content

I Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Trafod polareiddio byd-eang – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

15 Chwefror 2022

Mae Alexandra Chesterfield (BA 2003 a PGDip 2004) yn cymhwyso gwyddor ymddygiadol i’w gwaith, er mwyn gwella canlyniadau i unigolion, sefydliadau a chymdeithasau. Mae’n Bennaeth Risg Ymddygiad mewn banc llwyddiannus ac yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg yr Iesu Caergrawnt. Mae podlediad newydd Alexandra, Changed My Mind, a’i llyfr, Poles Apart, yn trin a thrafod ac yn mynd i’r afael â’r polareiddio cynyddol sy’n digwydd ledled y byd. Yma mae’n esbonio pam mae hwn yn bwnc mor bwysig, a pham nawr yn fwy nag erioed, mae angen trafod hyn.

Fe wnes i ffurfio cyfeillgarwch gwych yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda phobl o bob cwr o’r byd. Fe wnaeth i mi sylweddoli hefyd bod y grwpiau rydyn ni’n uniaethu â nhw – boed yn bêl-droed, cenedligrwydd, gwleidyddol ac ati – yn llywio’n sylfaenol sut rydyn ni’n ymddwyn, pwy ydyn ni’n hoffi a phwy nad ydym yn eu hoffi. Un o’m hatgofion cynharaf o ‘ni a nhw’ oedd yn ystod fy wythnos gyntaf mewn neuaddau myfyrwyr yn Heol Column. Ar ôl cael diod neu ddau, defnyddiodd un o fy nghyd-letywyr Cymreig derm difrïol i amlygu fy hunaniaeth Seisnig.  Cefais fy magu mewn swigen grŵp fy hun ac mewn amgylchedd Saesneg yn bennaf, a doeddwn i erioed wedi sylweddoli y gallai fy  ‘label’ grŵp (a minnau’n Sais) arwain rhywun i deimlo’n elyniaethus tuag ataf.

Ar ôl graddio mewn BA Anrh Llenyddiaeth Saesneg a Diploma PG mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, es i ar gynllun i raddedigion mewn cangen gyfathrebu fyd-eang fawr yn Llundain. Roedd un o’m lleoliadau yn cynnwys gweithio mewn ymgynghoriaeth ymchwil gyda’r sawl a oedd yn dadansoddi polau piniwn ar y pryd ar gyfer Tony Blair a Gordon Brown. Fe wnaeth y gwaith gynnau angerdd dros ddeall pam rydym yn gwneud yr hyn a wnawn, sut rydyn ni’n dod i feddwl beth rydyn ni’n ei feddwl, a sut y gellir defnyddio’r mewnwelediadau hynny ar gyfer newid cadarnhaol.

Pam mae pobl yn hoffi ffurfio grwpiau? Ar un lefel, mae categoreiddio pethau i grwpiau yn broses wybyddol naturiol iawn – o fwsogl, i ffilmiau, i lyfrau a phobl! Ar lefel arall, mae gan fodau dynol, fel rhywogaethau eraill, angen cynhenid ​​​​i berthyn i grŵp. Yn ogystal â manteision corfforol fel bwyd, cynhesrwydd ac amddiffyniad, mae bod yn rhan o grŵp yn rhoi teimlad o ddiogelwch ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Mae hefyd yn dod â manteision emosiynol sylweddol ar ffurf balchder a hunan-barch. Mae’n lleihau ansicrwydd.

Ond gwyddom hefyd, cyn gynted ag y byddwn yn categoreiddio pobl yn ‘ni’ a ‘nhw’, ei fod yn sbarduno llu o deimladau ffafriol tuag at ein grŵp mewnol a theimladau negyddol tuag at ein grŵp allanol. Blynyddoedd yn ddiweddarach ymunais â Which?, Cymdeithas Defnyddwyr fwyaf Ewrop, lle sefydlais ac arweiniais ei thîm Gwyddor Ymddygiad cyntaf a gwnes i MSc yng Ngholeg Prifysgol Llundain mewn Gwyddor Wybyddol a Phenderfynu. Ar yr un pryd, cefais fy ethol ar fy Nghyngor lleol. Tra roeddwn yn canfasio ges i bobl yn rhegi, yn poeri ac yn gweiddi arnaf. Roeddwn yn chwilfrydig iawn ynghylch pam y gall y grwpiau yr ydym yn uniaethu â hwy achosi cymaint o ddrwgdeimlad a gelyniaeth.

Fe wnes i ymuno â dau gydweithiwr o Which? ac fe wnaethom lansio podlediad o’r enw Changed my Mind, a gynhaliwyd gan Open Democracy, yn gofyn i arweinwyr o fyd busnes, y byd academaidd a gwleidyddiaeth am adeg pan oeddent wedi newid eu meddwl i hyrwyddo meddwl agored, myfyrio a mwy o oddefgarwch. Yn dilyn llwyddiant y podlediad cawsom gytundeb byd eang gyda Penguin Random House i ysgrifennu llyfr ar pam y gall grwpiau droi yn erbyn ei gilydd a sut i ddod â phobl yn ôl at ei gilydd. Er ein bod wedi newid swyddi, cafodd un ohonom fabi, ac wrth gwrs y pandemig byd-eang, cyhoeddwyd Poles Apart ym mis Medi 2021 gyda chymeradwyaeth wych (rwy’n dal i fethu credu’r peth).

O ymosod ar adeilad y Capitol yn Washington DC a gwahaniaethau amlwg yn y DU ar Brexit i ddadleuon dros newid yn yr hinsawdd sy’n rhannu llawer o wledydd, mae’r troi at ‘ni a nhw’ yn weladwy ar draws y byd. Mae’r rhaniadau hyn yn cael eu gwaethygu gan amgylchiadau economaidd-gymdeithasol anodd, newidiadau technolegol cyflym, ac ymdeimlad cynyddol o ansicrwydd, nad yw’r pandemig byd-eang yn ei helpu. Mae pethau’n debygol o waethygu cyn iddynt wella. Ond ar nodyn mwy cadarnhaol, er nad oes ateb syml i’r broblem hirsefydlog ar gyfer polareiddio, ni ellir rhoi’r effeithiau o’r neilltu; rhaid i ni gymryd camau’n unigolion, grwpiau, busnesau a chymdeithas i fynd i’r afael ag ef. Yr ydym i gyd yn rhan o’r broblem, ond o leiaf mae hynny’n golygu y gallwn i gyd fod yn rhan o’r ateb.

 

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.