#TeamCardiff, Donate, News

Hanner Marathon Caerdydd: Ffordd berffaith i ddathlu Sul y Mamau

Mae Kate Morgan (BA 2017, MA 2020) yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf ym mis Mawrth 2022 i godi arian ar gyfer ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Caerdydd. Nid yw wedi bod yr amser hawsaf i hyfforddi, ac esbonia Kate beth sy’n ei chymell hi a sut y mae hi wedi gwneud ei gorau glas i aros ar y trywydd iawn, er gwaethaf y cyfnodau clo, y cyfyngiadau a’r oedi.  

Yn y lle cyntaf, roeddwn eisiau rhedeg y marathon gan fy mod yn adnabod rhai eraill oedd yn cymryd rhan ac roedden nhw’n canmol y digwyddiad i’r cymylau. Penderfynais ymuno â #TeamCardiff oherwydd, fel cynfyfyriwr ac un o weithwyr Prifysgol Caerdydd, rwy’n cael gweld yr ymchwil a’r gwaith anhygoel sy’n digwydd yn y maes hwn a chwrdd â rhai o’r ymchwilwyr. Mae’n wirioneddol ysbrydoledig. Mae’n eich gwneud chi fod eisiau bod yn rhan ohono, hyd yn oed mewn ffordd fach.  

Dewisais ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn benodol gan fod rhai o’r bobl sy’n annwyl i mi yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ac anhwylderau niwroddatblygiadol. Mae gen i ffrindiau sy’n gweithio’n galed bob dydd i reoli eu cyflyrau iechyd meddwl eu hunain ac i annog eraill; maen nhw’n hynod o ysbrydoledig. Mae cyflyrau iechyd meddwl ac anhwylderau niwrolegol mor amrywiol ac yn gyffredin mewn cymdeithas. Mae’r rhan fwyaf ohonom naill ai wedi profi cyflwr ein hunain neu’n adnabod rhywun sydd wedi.   

Fy modryb yw prif ffocws fy rhediad. Roedd hi’n fenyw anhygoel o gryf a bywiog a gyflawnodd bethau gwych, er gwaethaf y ffaith iddi dreulio’r rhan fwyaf o’i bywyd yn brwydro ag iselder. Roedd hi wrth ei bodd yn dysgu a darganfod pethau newydd, helpu eraill, a chyfrannu rhywbeth da at y byd. Mae fy ngwaith codi arian, o’i gymharu, yn ymddangos yn fach iawn, ond mae’n ‘gam’ i’r cyfeiriad cywir (jôc fwriadol!).  

Fe wnaeth y pandemig gymhlethu pethau i lawer o bobl yn y maes ffitrwydd/awyr agored. Ac i’r rhai ohonom a oedd yn hyfforddi ar gyfer digwyddiadau, roedd yn rhaid i ni ailasesu ac addasu. Roeddwn i’n ei gweld hi’n galed ar adegau gyda chymhelliant a dilyn cynllun hyfforddi llym. Rwy’n rhedeg yn rheolaidd ond nid yw’n rhywbeth rydw i erioed wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth ‘pleserus’, felly mae’n ymdrech feddyliol a chorfforol i’m cadw ar y trywydd iawn. Rwyf hefyd yn ei chael hi’n anodd peidio â chymharu fy hun ag eraill, neu’n waeth, fy nghymharu â fi fy hun pan oeddwn i’n iau (ac yn fwy heini). Mae Strava yn wych i lawer o bobl, ond nid ydw i’n hoff ohono. Mae angen i mi ganolbwyntio ar fy hyfforddiant fy hun, o ddydd i ddydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar hyfforddiant unrhyw un arall. Rhai dyddiau, mae’n gamp hyd yn oed os ydw i’n camu allan drwy’r drws ac yn gwisgo fy nillad rhedeg!   

Fe wnaeth y cyfnod clo fy helpu i feddwl am redeg mewn ffordd wahanol. Roedd yn wych cael mynd allan a rhedeg i rywle a gweld ychydig bach o’r byd y tu allan i’m hystafell flaen fach. Ar y dechrau, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd peidio â chael pyliau o banig bach ar fy rhediadau, wrth i bobl ddweud yn gyson fod treulio amser tu allan, a bod o amgylch pobl eraill, yn beryglus. Ond, o fewn dim, fe wnaeth i mi werthfawrogi pa mor anhygoel yw’r corff dynol. Mae symud yn ffordd wych o ryddhau straen a phryder a gall wneud i chi deimlo’n fwy byw ac yn fwy rhydd nag unrhyw beth arall. Rywsut, mae’n addas bod yr hyn yr oeddwn yn ei wneud i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer ymchwil iechyd meddwl wedi helpu fy iechyd meddwl fy hun yn y broses.   

Fel llawer o bobl yn ystod y cyfnod clo, treuliais lawer o amser ar fy mhen fy hun ac weithiau dim ond drwy fynd am dro neu fynd i redeg y byddwn i’n cael cipolwg ar bobl. Roedd yna ymdeimlad o gyfeillgarwch gydag unrhyw redwr, beiciwr, neu gerddwr a wnes i basio. Efallai nad oeddem yn gallu mynd yn bell, na gadael y tŷ mwy nag unwaith y dydd, ond byddem yn gwneud y gorau o’r ychydig o ryddid a oedd gennym.  

Nawr bod diwrnod y ras yn prysur agosáu, rwy’n cynyddu fy hyfforddiant ac yn gosod nodau cyraeddadwy i mi fy hun bob dydd. Rydw i newydd wella o COVID-19, a oedd yn golygu seibiant o 10 diwrnod o fy hyfforddiant (mor agos at ddiwrnod y ras!). Ond, y peth pwysicaf i mi yw peidio â bod yn galed ar fy hun os nad ydw i’n mynd mor gyflym neu cyn belled ag oeddwn i wedi’i obeithio. Ni allaf aros i groesi’r llinell derfyn ar ôl yr holl oedi, y cyfnodau clo a’r holl ffactorau anhysbys, a chwblhau’r hyn yr oeddwn wedi bwriadu ei wneud. Ac ar ben hynny oll, mae’r digwyddiad nawr yn digwydd ar Sul y Mamau, a bydd fy mab yn y dorf yn fy nghefnogi. Am ffordd berffaith i ddathlu’r diwrnod!