Skip to main content

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Caws ar Dost

14 Chwefror 2022

Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus! 

Dyma’r cogydd

Mae Kacie Morgan (BA 2010) yn awdur bwyd a theithio sydd wedi ennill sawl gwobr. Dechreuodd ei blog bwyd poblogaidd, The Rare Welsh Bit, yn fuan ar ôl graddio gyda gradd mewn Newyddiaduraeth. Dyma un o’i hoff ryseitiau, mae hi’n dwlu cymaint arni fel yr enwodd ei blog ar ei hôl hyd yn oed!

“Mae hon yn r ysáit wych ar gyfer defnyddio unrhyw gwrw dros ben (hy!), caws neu fara sych ac mae’n gweithio’n dda ar gyfer cinio ysgafn cyn neu ar ôl darlith. Pan o’n i yn y brifysgol, roedd yn ffordd flasus o leinio fy stumog cyn noson allan hefyd!”

Dewch i ni goginio…

Rhestr siopa

4 tafell drwchus o fara gwyn

250g o gaws Cheddar Cymreig neu gaws Caerffili, wedi’i gratio

70ml/3ó llwy fwrdd o gwrw neu stowt

1 wy maes, wedi’i guro neu 20g o fenyn Cymreig heb ei halltu, wedi’i doddi

1ó llwy fwrdd o saws Swydd

Gaerwrangon

1 llwy fwrdd o fwstard Seisnig neu 1

llwy de o bowdwr mwstard Seisnig

Bydd arnoch angen

Powlen ganolig

Gratiwr caws

Hambwrdd pobi

Dull

Cam 1

Tostio’r bara’n ysgafn a chynhesu’r gril.

Cam 2

Mewn powlen o faint canolig, cyfuno’r caws wedi’i gratio, y cwrw, y menyn wedi’i doddi neu’r wy, saws Swydd Gaerwrangon a mwstard Seisnig neu bowdr mwstard.

Cam 3

Rhannu’r cymysgedd rhwng y pedair tafell o dost a thaenu’r cymysgedd dros bob tafell gan ddefnyddio cyllell neu sbatwla, gan orchuddio’r crystiau hefyd.

Cam 4

Rhoi’r tafelli o dost ar hambwrdd pobi a’i osod yn ofalus o dan gril poeth am 5-10 munud, nes eu bod yn euraidd ac yn swigod i gyd.

Cam 5

Tynnu’r tafelli o’r gril yn ofalus, torri pob tafell yn ei hanner a’u gweini’n boeth, naill ai ar eu pennau ei hunain neu gyda salad bach a siytni ffrwythau.

Dewisol

I wneud pryd llysieuol/figan, defnyddio caws figan, saws figan Swydd Gaerwrangon a menyn di-laeth.

Yn ôl ein profwr o Undeb y Myfyrwyr, Chris Grieve (Biocemeg 2019-) Dirprwy Lywydd Cymdeithasau…

“Mae’r rhain yn ddewis llysieuol gwych cyn noson allan, gwnewch yn siwˆ r eich bod yn defnyddio’r cymysgedd i gyd ac yn ei daenu dros y dafell gyfan o dost, neu bydd corneli’r tost yn llosgi, fel digwyddodd i mi!”

Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!

Darllenwch ragor am gaws ar dost ar flog Kacie, The Rare Welsh Bit.