Grymuso’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr benywaidd Prifysgol Caerdydd drwy fentora
3 Rhagfyr 2021Gwnaeth Joanna Dougherty (BScEcon 2017) gymryd rhan yn ein cynllun Menywod yn Mentora, lle mae graddedigion benywaidd yn cael eu mentora am gyfnod byr gan gynfyfyrwyr benywaidd llwyddiannus. Mae ein mentoriaid benywaidd yn rhoi arweiniad a chymorth ac yn helpu i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr benywaidd Prifysgol Caerdydd.
Cafodd Joanna, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang – Profiad y Cleient yn JLL, ei mentora gan Dr Linda Wilding (BSc 1980, PhD 1985), sydd wedi dilyn gyrfa ddisglair fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Cawsom sgwrs â Joanna i drafod sut y gwnaeth cymorth Linda ei helpu i gymryd y camau nesaf yn ei gyrfa a sicrhau dyrchafiad enfawr.
Beth oedd eich rhesymau dros wneud cais i’r cynllun Menywod yn Mentora?
Rwyf bob amser yn ceisio cymryd rhan mewn pethau fel hyn, hyd yn oed os ydynt yn codi ofn arnaf neu’n gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus, gan nad ydych byth yn gwybod pwy rydych yn mynd i gwrdd ag ef. Roedd y cyfle i siarad â menyw lwyddiannus mewn busnes yn un nad oeddwn yn gallu ei golli.
Beth oedd dan sylw?
Gwnaeth fy mentor a minnau gyfarfod am y tro cyntaf dros Skype ym mis Mawrth. Roedd yr amseru’n wych – roedd rhywfaint o newid wedi bod yn y cwmni, ac roeddwn yn wynebu penderfyniadau ynghylch llwybr fy ngyrfa yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyfweliadau mewnol. Cawsom ychydig o alwadau dros gyfnod o ychydig wythnosau, a gwnaeth fy helpu i nodi beth roeddwn am ei gael o’m rôl, yn y tymor hir a’r tymor byr. Roedd gallu elwa ar ei gwybodaeth a chael cyngor ar yr adeg honno mor ddefnyddiol, a phan ymgeisiais am ddyrchafiad, cafodd y swydd ei chynnig i mi yn ystod y cyfweliad!
Pa brif bethau y gwnaethoch eu dysgu wrth gael eich mentora?
Gormod o bethau i’w rhestru, o bosibl! Mae fy mentor a minnau wedi trafod cymaint yn ystod ein cyfarfodydd. Gwnaeth rannu awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau swydd tra oeddwn yn chwarae rôl y cyfwelai, a’r cyfwelydd ar ôl hynny. Gwnaeth hefyd roi cyngor i mi ar gadw fy mhen yn ystod cyflwyniadau a gweithio’n effeithiol gyda phobl mewn gwahanol wledydd, sydd wedi dod yn bwysig iawn i mi’n ddiweddar ar ôl symud i rôl fyd-eang.
Sut mae mentora wedi eich helpu, yn eich barn chi?
Mae mentora wedi fy helpu drwy roi cyngor amhrisiadwy i mi, cynyddu fy hyder ac ehangu fy rhwydwaith. Rwyf hefyd yn meddwl y bydd yn fy helpu i ddod yn fentor da yn y dyfodol, gan fy mod bellach yn gwybod beth yw mentor ‘da’.
A fyddech yn argymell mentora i gynfyfyrwyr eraill?
Heb os nac oni bai. Mae cymaint o sefyllfaoedd lle gall rhywfaint o gyngor diduedd gan rywun profiadol fod yn werthfawr dros ben. Nid yw’n cymryd llawer o’ch amser, sy’n golygu nad oes gennych unrhyw beth i’w golli.
A ydych wedi cadw mewn cysylltiad â’ch mentor?
Yn sicr. Rydym yn siarad bob mis fwy neu lai. Gwnaethom hyd yn oed gwrdd â’n gilydd wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf ychydig wythnosau’n ôl!
Beth fyddech yn ei ddweud wrth un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a oedd yn ystyried dod yn fentor?
Ewch amdani! Unwaith eto, nid yw’n cymryd gormod o’ch amser, ond o’m mhrofiad i, gallech gael effaith fawr ar rywun ar gam cynnar yn ei yrfa.
Cysylltwch â Joanna ar Cysylltiad Caerdydd, ein llwyfan rhwydweithio i gynfyfyrwyr lle gallwch ddod o hyd i gyfleoedd newydd, trosglwyddo eich arbenigedd a manteisio ar gymorth unigryw.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018