Gobaith newydd ar gyfer triniaeth canser: y dechneg lawfeddygol ar gyfer cemotherapi wedi’i dargedu
30 Tachwedd 2021Mae ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn amrywio o ran ei chyrhaeddiad. O ddarganfod bioleg y clefyd a deall ffyrdd o atal canser, i chwilio am driniaethau newydd a gwell. Nod ein gwaith yw achub a gwella bywydau.
Nid ffrwyth un person dros nos yw ymchwil lwyddiannus sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae’n cael ei hysbarduno gan ymchwilwyr sy’n cydweithio ar draws sawl disgyblaeth ac arbenigedd, gan rannu gwybodaeth ac arbenigedd mewn rhaglenni a phrosiectau gwahanol, ac yn bwydo’n ôl yn barhaus i wella’r ffordd mae’r wyddoniaeth yn cael ei rhoi ar waith yn glinigol o ran yr hyn sy’n cael ei gynnig.
Yma, mae Dr Sadie Jones (PhD 2016, MBBCh 2006) Uwch-ddarlithydd Clinigol a Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoleg Gynaecoleg yn rhannu gyda ni fanylion treial clinigol hynod ddiddorol i’w gynnal yng Nghaerdydd, gan weithio gyda’i chydweithwyr llawfeddygol a’r gwyddonwyr yn y labordy. Arbenigedd Sadie yw canser yr ofari, canser sydd â chyfraddau goroesi gwael gan nad yw cleifion fel arfer yn sylwi ar y symptomau tan nes ymlaen.
Enw treial clinigol Sadie a’i chydweithwyr yw PIPAC (Cemotherapi Aerosol dan wasgedd yn y peritonewm) a defnyddirllawdriniaeth twll clo, techneg lawfeddygol sefydledig, i roi cemotherapi drwy chwistrell aerosol yn uniongyrchol i diwmorau cleifion â chanser eilaidd yn yr abdomen (y stumog, y coluddyn a’r ofari). Mae’r dull hwn yn taro’r tiwmor yn uniongyrchol â’r cyffur, gan ddefnyddio ei effaith i’r eithaf ac yn lleihau’r sgil-effeithiau tocsig sydd yn gysylltiedig yn aml â chemotherapi pan gaiff ei roi yn y gwaed drwy’r corff. Mae hyn yn gadarnhaol iawn i gleifion ac yn helpu i wella safon eu bywyd wrth iddyn nhw gael y driniaeth.
Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr amlddisgyblaethol yn labordai Prifysgol Caerdydd, bydd y treial hefyd yn bwydo’n ôl i wella datblygiad cyffuriau ar gyfer y targed gorau posibl, y ffordd orau o gyflwyno’r cyffuriau a’r ymateb. Mae hyn yn troi’n adborth cadarnhaol parhaus i wella pob agwedd ar y driniaeth i gleifion a gobeithir y bydd yn arbed ac yn gwella bywydau llawer o bobl.
Rhagor o wybodaeth drwy wylio sgwrs hynod o ddiddorol Sadie.
Mae ein digwyddiadau Arddangos Ymchwil yn gyfle i glywed am yr ystod eang o waith sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd i achub, newid a chyfoethogi bywydau. Ail-wylio digwyddiadau eraill yn y gyfres yn y gorffennol.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018