Mae Prifysgolion i bawb
17 Rhagfyr 2018Mae Naomi Owen (BA 2018, Cyfryngau Digidol a Chymdeithas 2018-) newydd orffen ei blwyddyn olaf fel myfyriwr Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar fin dechrau gradd Meistr mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas.
“Roedd un funud, y Nadolig diwetha’, pan gerddodd mam trwy’r drws gyda pharseli o’r banc bwyd, a finnau’n meddwl, ‘Beth sydd ar fy mhen i, yn meddwl galla i gael gradd prifysgol?’
Ond wedi cyrraedd nôl yng Nghaerdydd a chlywed y newyddion fy mod wedi cael fy newis i dderbyn Gwobr Thomas James, cefais obaith mawr. Roedd y ffaith bod sefydliad o fri wedi fy nghydnabod fel myfyriwr gyda’r potensial i lwyddo yn deimlad dwys iawn.
Doedd dim sicrwydd na disgwyliad y byddem yn mynd i’r Brifysgol. Rwy’n dod o deulu dosbarth gweithiol a fi oedd y cyntaf i wneud cais Prifysgol hyd yn oed. Roeddwn i’n teimlo allan o fy nyfnder. Ond wedi gwrando ar yr athrawon yn fy ysgol gyfun, cefais ffydd yn fy ngallu, a gwnes gais.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi newid fy mywyd, fy hunaniaeth a fy meddylfryd mewn cymaint o ffyrdd cymhleth ac annisgwyl.
Y newid pwysicaf oedd sylweddoli na ddylem deimlo cywilydd am bwy ydw i a beth yw fy nghefndir. Dywedwyd wrthyf unwaith fod fy arddull ysgrifennu yn gallu bod yn rhy astrus. Roeddwn yn ceisio celu’r ffaith fy mod yn ferch dosbarth gweithiol gydag acen o Abertawe ac yn annhebygol o lwyddo yn academaidd. Nawr, rwy’n cadw atgoffa fy hun, trwy fod yn awdur dosbarth gweithiol sydd â phrofiadau i’w rhannu, mae ymyrraeth ddiwylliannol gadarnhaol eisoes ar y gweill.
Mae’r Brifysgol wedi agor drysau i mi nad oeddwn i’n gwybod amdanynt. Rwyf wedi dysgu syniadau a chysyniadau sydd wedi rhoi cipolwg i mi pam y mae pethau fel y maen nhw yn ein cymdeithas. Ac mae gen i syniadau gweithredol am sut i wneud newidiadau.
Pan ges i’r pleser o gyfarfod [mam James] Mrs Thomas, dywedodd rhywbeth a wnaeth argraff arnaf. Dywedodd bod y Brifysgol yn cynnig y cyfle i bobl ifanc dyfu a ffynnu mewn rhwydwaith ddiogel, warchodedig. Roedd hi yn llygad ei lle.
Gyda’r wybodaeth yr wyf wedi meddu a’r cymorth a dderbyniais, rwy’n hyderus bod gen i ddyfodol cadarnhaol.
Gefnogi myfyrwyr fel Naomi gyda rhodd i newid bywyd
Hefyd yn y gyfres:
- Mae prifysgolion yn cau’r bwlch sgiliau
- Mae Prifysgolion yn gwneud cymunedau yn llefydd gwell
- Mae Prifysgolion yn newid ein gorwelion
- Mae Prifysgolion yn siapio ein cymunedau a’n llywodraeth
- Mae Prifysgolion yn achub, newid a chyfoethogi bywydau
- Mae Prifysgolion yn ysgogi twf economaidd ledled y byd
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018