Skip to main content

Cyswllt CaerdyddPam Prifysgolion?

Mae Prifysgolion yn ysgogi twf economaidd ledled y byd

17 Rhagfyr 2018

Dr Godfrey Ainsworth (BSc 1977, PhD 1980) yw Cadeirydd Gweithredol IQE, cwmni technolegau gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghaerdydd.

Godfrey holds an example of IQE's work

Ers dyfeisio’r teclyn silicon yn 1961, mae datblygiadau technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd wedi newid popeth, o sut rydym yn gyrru i’r ffyrdd yr ydym yn siopa. Maent yn sail i ryfeddodau oes y cyfrifiadur, ac yn gwneud y cyfraniad mwyaf at dwf economaidd byd-eang.

Arsylwodd yr Athro Gordon Moore, un o sefydlwyr Intel, ar yr hyn a elwir yn ‘Ddeddf Moore’ erbyn hyn, sef bod gallu cyfrifiadurol yn dyblu bob 18 mis. Mae’r cynnydd yma wedi cael ei ysgogi gan y gallu i leihau deunyddiau electronig, sy’n golygu bod mwy a mwy o rannau yn gallu cael eu hymgorffori mewn un sglodyn bach. Er mai silicon yw defnydd mwyaf poblogaidd microbroseswyr o hyd, mae hi’n mynd yn anoddach ac yn fwy costus fyth i gynnal y twf yma. Yn wir, mae Moore wedi rhybuddio na allwn fynd ymhellach yn y maes hwn. Yn syml: gallwn ni ddim gwneud pethau yn llai eto.

Mae galw’r defnyddiwr am gynnyrch gwell a doethach yn herio lled-ddargludyddion traddodiadol. Er mwyn eu pweru, mae angen teclynnau perfformiad-uchel, â gallu cyflymach, sy’n defnyddio llai o ynni. Dyna pam mae lled-ddargludyddion cyfansawdd mor bwysig. Maent lawer cyflymach na’r rhai silicon yn unig, ac mae deunyddiau fel gallium arsenide, indium phosphide a gallium nitride yn allweddol lle mae perfformiad effeithlon, cyflym yn hanfod.

Mae priodoleddau photonic y deunyddiau yma – eu gallu i allyrru a chanfod golau yn golygu y gallent fod yn ddefnyddiol ar gyfer pob math o dechnolegau synhwyro sy’n hynod bwysig yn y byd awtonomaidd a chysylltiedig sydd ohoni. Mae gan led-ddargludyddion cyfansawdd rôl ganolog yn ein bywyd bob dydd yn barod, o ddyfeisiau sy’n gallu adnabod wynebau i gerbydau cysylltiedig electronig, o dechnolegau gofal iechyd uwch i ddyfeisiau pŵer solar effeithlon iawn.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cydnabod y potensial mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd ers amser. Yma yn IQE, rydym yn gwerthfawrogi ymchwil academaidd arloesol ac rydym wedi buddsoddi mewn menter ar y cyd gyda’r Brifysgol er mwyn agor Y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) yn 2015.

Drwy gyfuno ymchwil, arloesedd a phrofiadau gweithgynhyrchu, rydym yn gallu creu technolegau newydd y mae datblygwyr, busnesau a’r gymuned ehangach yn gallu eu defnyddio yn syth. Mae ein partneriaeth hefyd yn cynnig hyfforddiant er mwyn cefnogi’r peirianwyr sy’n deall lled-ddargludyddion cyfansawdd a’u potensial enfawr.

Mae IQE yn falch bod eu pencadlys ym mhrifddinas Cymru. Mae’r CSC, Prifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gerllaw – ac oherwydd hynny mae de Cymru yn cael ei chydnabod yn fyd-eang fel canolfan ragoriaeth yn y maes.

Mae hynny’n fuddiol i’r economi leol ac yn sail ar gyfer ecosystem hynod arloesol. Mae’r clwstwr yma yn prydur ddenu sylw’r ymchwilwyr, peirianwyr a’r datblygwyr mwyaf talentog – a drwy rannu’r arbenigedd a’r cyfleusterau sydd gennym wrth law, gallwn gyflawni unrhyw beth.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Pam Prifysgolion?:
Mae Prifysgolion i bawb

Hefyd yn y gyfres: