Rowena Sefton (BA 2015)
10 Gorffennaf 2018Mae Rowena Sefton (BA, 2015) yn diolch i’r Ysgol Ieithoedd Modern am ddangos iddi sut mae rheoli llwyth gwaith a sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith; dau beth hanfodol i fywyd athro Ieithoedd Tramor Modern.
Dewisais astudio ym Mhrifysgol Caerdydd oherwydd roedd ganddi enw da ac roedd cyflogwyr yn ei gwerthfawrogi; mae hyn yn wir hyd heddiw. Roedd y lleoliadau a oedd ar gael ar gyfer fy mlwyddyn dramor yn ffactor mawr yn fy mhenderfyniad i fynd i Gaerdydd, ac roedd y staff yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn gymwynasgar a chefnogol iawn yn ystod fy nghais. Rhoddodd hyn dawelwch meddwl i mi y buaswn yn cael addysg drylwyr yn fy nghyfnod yno.
Fy amser mwyaf cofiadwy yn y brifysgol oedd bod yn rhan o’r Gymdeithas Almaeneg ac yn Llywydd am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn cefais drefnu a chymryd rhan mewn teithiau i’r Almaen yn ogystal â theithiau dydd i arddangosfeydd Almaenig gwahanol mewn amgueddfeydd.
Mae’r Gymdeithas Almaeneg yn rhywbeth dwi’n edrych yn ôl arno gyda gwên.
Ers graddio dwi wedi cwblhau fy TAR ac erbyn hyn dwi hanner ffordd drwy fy mlwyddyn gyntaf fel athro Ieithoedd Modern cymwys mewn academi yn Wiltshire. Un peth da am fy swydd yw nad oes unrhyw ddiwrnod yr un peth. Byddaf fel arfer yn addysgu rhwng tair a chwe gwers y dydd ac yn paratoi gwersi ar gyfer y diwrnodau/wythnosau nesaf pan nad ydw i’n addysgu. Dwi hefyd wedi cwblhau modiwl cyntaf fy Ngradd Meistr mewn Addysg, a byddaf yn parhau gyda hyn am yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Mae fy addysg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyfrannu at fy llwyddiant drwy ddangos i mi sut mae rheoli fy llwyth gwaith yn effeithiol a sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae wedi fy helpu i weithio gyda therfynau amser yn effeithlon, a gwnaeth fy amser fel Llywydd y Gymdeithas Almaeneg ddatblygu fy sgiliau trefnu oherwydd roeddwn yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau mawr ac yn gwybod beth yr oedd angen ei drefnu cyn, yn ystod ac ar ôl y rhain.
Tasen i’n gallu rhoi cyngor i’r Rowena ifanc, buaswn yn ei hannog yn gryf i gael mwy o brofiad yn y gweithle yn ystod y gwyliau. Gall hyn fod yn eithaf brawychus gan fod cymaint o ddyddiadau cau i weithio iddynt ar gyfer arholiadau a gwaith cwrs, ond dyma’r ymrwymiad a’r profiad sy’n gwneud i chi sefyll allan.
Buaswn yn annog myfyrwyr presennol i achub ar gyfleoedd sy’n dod eu ffordd nhw yn ystod eu gradd ond i beidio ag aros am y cyfleoedd hyn oherwydd efallai na fyddant yn dod mor gyflym ag y credwch. Crëwch eich cyfleoedd eich hun!
Rowena Sefton (BA 2015)
10 Gorffennaf 2018Rowena Sefton (BA, 2015) credits the School of Modern Languages with teaching her how to manage her workload and achieve a healthy work life balance; two essentials for life as a Modern Foreign Language teacher. (rhagor…)
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018