Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

“Bydd y ddinas yn dod yn fyw gyda bwrlwm y graddio”

29 Mehefin 2018

Dros y 135 mlynedd diwethaf, mae Caerdydd wedi dyfarnu graddau i gannoedd o filoedd o raddedigion.

Mae defodau Wythnos Graddio wedi newid ychydig ers 1883, ond yng nghanol mis Gorffennaf – fel sawl haf blaenorol – bydd dinasyddion prifddinas Caerdydd yn croesawu mewnlifiad lliwgar o raddedigion, academyddion, teulu a ffrindiau.

Daw ardaloedd myfyrwyr Caerdydd (sydd ychydig yn dawel dros yr haf) yn fyw gyda bwrlwm y graddio, a bydd trigolion ac ymwelwyr yn gwylio’r 7,000 o raddedigion yn eu gwisgoedd ysgolhaig wrth iddynt droedio’r llwybr enwog rhwng Parc Cathays a Neuadd Dewi Sant.

Bydd rhai ymhlith y grŵp yn mwynhau ffrwyth llafur blwyddyn, tair, pump neu hyd yn oed saith mlynedd o waith caled gan rannu eu cyflawniadau. Bydd eraill yn defnyddio’r amser i fyfyrio ar eu profiadau personol ac unigryw ac yn ffarwelio. Rydym oll wedi bod yno o’r blaen.

Nid oes llawer o amser cyn i’r foment ei hun gyrraedd.

Er yn foment hollbwysig i fywydau pob un, ac eto mae’r drosodd mewn amrantiad yn yr amser a gymerir i groesi’r llwyfan: y cap yn cael ei godi a’r llaw yn cael ei hysgwyd, mae’r Is-Ganghellor yn croesawu pob ymgeisydd i gymuned falch o gynfyfyrwyr Caerdydd – gyda balchder yr wythnos yn fwy nag erioed.

Teg dweud bod gennym grŵp amrywiol. Mewn gwirionedd, mae ei fodolaeth yn dibynnu ar gyfuniad o wahanol sefydliadau (gan gynnwys cyn-Goleg Prifysgol Caerdydd, UWIST, Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru, a dwsin o rai eraill) sy’n cynnwys 160,000 o raddedigion mewn 180 gwlad.

Yr hyn sy’n dod â ni ynghyd yw ein profiad cyffredin o fyw a dysgu yn y ddinas hon, a’r balchder a deimlwn o fod yn gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae’n ein hysgogi i chwifio’r faner dros Gaerdydd ar draws amrywiaeth eang o feysydd, ac mae ein llwyddiannau a rennir yn cyfrannu i raddau helaeth at enw da byd-eang sy’n cael ei fwynhau gan ein Prifysgol a’n dinas heddiw, wrth osod cynsail ysbrydoledig ar gyfer darpar-raddedigion 2018.

Wrth inni baratoi at eu croesawu i gymuned Caerdydd ac edrych ymlaen at glywed eu hanturiaethau, gallwn esgusodi ein hunain i edrych yn ôl ar ein profiadau personol. Mewn gwirionedd, rydym yn eich annog: ar ben-blwydd eich graddio, i adrodd eich stori chi am Gaerdydd, neu ddarparu un (neu fwy!) o gyfleoedd yn y gweithle i’n graddedigion newydd.

Uwchlaw popeth, cofiwch nad yw’r bennod hon byth ar ben i chi. Bydd Caerdydd yn rhan ohonoch am byth, a gobeithiwn eich bod yn rhannu’r un balchder â ni o fod yn gynfyfyrwyr y ddinas.