Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrModern LanguagesUncategorized @cy

Eirian James (BA 2012, MA 2013)

20 Gorffennaf 2018
Eirian James
Eirian James

Dewisodd Eirian James (BA 2012, MA 2013) astudio rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Bellach mae’n athro yn Terrassa, ger Barcelona, lle mae’n dysgu Saesneg fel iaith dramor.

Roeddwn yn ymwybodol o enw da rhagorol yr Ysgol Ieithoedd Modern ymhell cyn gwneud fy nghais i astudio yno, a chafodd yr amrywiaeth o bosibiliadau oedd gan Gaerdydd i’w chynnig gryn argraff arnaf. Roedd y ffaith bod modd i mi astudio trydedd iaith (Eidaleg) yn fy mlwyddyn gyntaf, gyda’r opsiwn o astudio iaith arall (Catalaneg) yn fy ail flwyddyn, yn gyfle rhy dda i’w wrthod.

Un o fy hoff atgofion o fy amser yng Nghaerdydd oedd mwynhau awyrgylch diwrnod gêm rygbi yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad trwy lygaid grŵp o fyfyrwyr Erasmus Sbaeneg oedd wedi’u syfrdanu. Nid wyf yn gallu gwylio rygbi rhyngwladol dramor o hyd gan na ddaw dim yn agos at y prynhawniau hynny yn ystod y gwanwyn!

Wrth astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar flwyddyn dramor yn Valencia, datblygodd fy nghariad at ieithoedd, ac rwy’n parhau i elwa o fy ngallu ieithyddol pob diwrnod. O fod wedi graddio fel siaradwr Sbaeneg rhugl gyda lefel ganolradd Catalaneg, roedd y trawsnewid o Gymru i Gatalonia yn ddi-ffwdan, a diolch i’r cyfleoedd a gefais yng Nghaerdydd, rwy’n gallu cyfathrebu gyda fy nghydweithwyr a fy nghyd-denantiaid ar lefel lawer ddyfnach. Yn bwysicaf oll, gallaf gefnogi/cwyno am y penderfyniadau yn erbyn fy nhîm pêl-droed lleol mewn pedair iaith wahanol.

Ar ôl cwblhau fy MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, fe adewais Barcelona yn ystod haf 2013. Ers hynny, rwyf wedi dysgu Saesneg mewn academi iaith yn Terrassa, ger Barcelona, ac rwy’n addysgu amrywiaeth o ddosbarthiadau, o blant 12 oed i bobl ifanc i fyfyrwyr prifysgol i oedolion. Nid oes y fath beth â diwrnod cyffredin i mi; daw pob dydd a phob dosbarth â her a rhyngweithio gwahanol, ond rwy’n mwynhau newid o ddiffoddwr tân i therapydd, clown i addysgwr yn y gofod, am y prynhawn!

Pe bawn i’n gallu cynnig rhywfaint o gyngor i fyfyrwyr presennol a’r dyfodol, dywedwn wrthych chi wneud y mwyaf o’r ddinas lle rydych yn byw – peidiwch â gweld Caerdydd fel dinas myfyrwyr yn unig. Mae cymaint yn digwydd yn y ddinas, a chymaint o bobl o wahanol rannau o’r byd ar eich stepen drws. Cyrhaeddais yno ar ôl treulio fy mywyd mewn tref o 20,000, a gadewais gan fod wedi byw mewn tair gwlad wahanol – drwy fyw yng Nghaerdydd, sylweddolais beth sydd gan y byd i’w gynnig.


Arts, Humanities & Social SciencesModern LanguagesOur Alumni

Eirian James (BA 2012, MA 2013)

20 Gorffennaf 2018
Eirian James
Eirian James

Eirian James (BA 2012, MA 2013) chose the School of Modern Languages to study both undergraduate and postgraduate programmes. He now works as a teacher in Terrassa, just outside Barcelona where he teaches English as a foreign language. (rhagor…)