Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Adnabod eich gwisgoedd graddio

16 Gorffennaf 2018

Mae graddio yn benllanw blynyddoedd o waith caled, ac mae’r seremoni a’r defodau yn ddathliad teilwng o hynny. Ond beth yw gwir arwyddocâd y wisg raddio? Pam fod rhai cyflau (hoods) yn wahanol liwiau? Mae ein cyfres ‘Goroesi’r Graddio’ yn parhau, gyda’n Canllaw ar Wisgoedd Graddio

Israddedigion

I ddechrau, beth am gymryd cip ar y rhai mwyaf cyfarwydd. Gŵn du, gyda chap du sgwâr. Mae’r cap academaidd, sydd weithiau’n cael ei gyfeirio ato fel ‘bwrdd morter’ neu ‘mortarboard’, yn fwrdd sgwâr du, ar ben cap corun du gyda thasel du. Mae gŵn myfyrwyr israddedig yn ddu, gyda llewys siâp cloch (nad ydych chi’n gweld cymaint â hynny mewn gwirionedd oherwydd y ffordd y mae’n cael ei wisgo). Ond y rhan mwyaf diddorol yw’r cwfl, neu’r hood.

Mae’r holl gyflau yn seremonïau graddio Prifysgol Caerdydd yn goch ar y tu allan. Daw’r amrywiaeth mewn lliwiau yn y leinin. Mae gan bob math o radd math gwahanol o gwfl, felly fe allwch chi weld pwy sy’n graddio ar unrhyw ddiwrnod penodol os oes gennych chi lygaid barcud i sylwi ar y wahanol fflachiadau o liw.

Diploma: leinin sidan glas golau. Bydd y rhain yn cael eu gwisgo gan unrhyw ddarpar-raddedigion (sef myfyrwyr sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau ond nad yw eu gradd wedi’i dyfarnu eto) sy’n ennill y Diploma Addysg Uwch, Diploma Graddedig a Diploma Ôl-raddedig

Tystysgrif: leinin sidan llwydfelyn (beige). Yn cael eu gwisgo gan y rheiny sy’n ennill Tystysgrif Addysg Uwch, Tystysgrif Raddedig, Tystysgrif Ôl-raddedig, Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig

 

Baglor: leinin sidan gwyn meddal. Dyma’r un yr ydych chi’n debygol o’i weld amlaf yn ystod yr wythnos raddio oherwydd yr amrywiaeth eang o raddau mae’n eu cynnwys. Maen nhw fel a ganlyn….BA, BArch, BD, BEd, BEng, BSc, BScEcon, BMedSc, BMid, BMus, BN, BSD, BTh, LLB. Os ydych chi’n gweld dau fyfyriwr yn dadlau dros bwy sydd â’r radd orau, ond bod gan y ddau ohonynt gyflau gyda leinin gwyn, mae’n saff dweud mai dyma’r hen elyniaeth rhwng BSc a BA ar waith!

Baglor Estynedig a Meistr Cyfunol: leinin sidan gwyn meddal gydag ymyl glas brenhinol. Yn cael eu gwisgo gan y rhai sydd wedi astudio gradd Baglor a Meistr mewn un: BDS, MBBCh, MArch, MChem, MEng, MESci, MMath, MPharm, MPhys Mae’r leinin yr un lliw â’r cwrs Meistr a Addysgir gan nodi bod y ddau wedi astudio â’i gilydd!

Ôl-raddedigion

Meistr a Addysgir: leinin sidan glas brenhinol. Yn cael eu gwisgo gan y rhai sy’n ennill… anadl ddofn os gwelwch yn dda… LLM, MA, MBA, MClinDent, MEd, MEP, MMus, MPA, MPH, MSc, MScD, MScEcon, MTh

Meistr Ymchwil: leinin sidan leilac. Gŵn Meistr sy’n cael ei weld yn llai amlach – felly fe gewch chi ddeg pwynt ychwanegol os ydych chi’n gweld unrhyw un sy’n cael MPhil, MRes, neu MScD drwy Ymchwil

Mae darpar-raddedigion Meistr yn gwisgo gŵn gwahanol. Mae’n dal i fod yn ddu ond mae’r llewys ym maint llawn – ond eu bod ar gau ar y pen, gyda’r fraich yn ymddangos drwy dwll uwch ben y penelin.

Sy’n ein harwain ni at Ddoethuriaethau. Mae’r rheiny sy’n cael Doethuriaeth yn gwisgo gŵn coch Caerdydd â llewys llawn sydd â leinin lliw. Maent hefyd yn cael fflachiadau o liw, sy’n cael eu hadnabod fel ffesinau (facings), ar du blaen eu gŵn. Maent hefyd yn gwisgo het mymryn yn wahanol, sy’n cael ei alw’n ‘foned’ (bonnet) – sy’n grwn gyda thasel du ac arian. Daw’r Doethuriaethau mewn dau liw:

Doethuriaeth: ffesinau gwyrdd tywyll, leininau llewys a leinin cwfl gydag ymyl llwyd arian. Yn ogystal â’r PhD adnabyddus, gall pobl sy’n gwisgo’r cyfuniad hwn fod yn ennill DAHP, DClinPsy, DDS, DEdPsy, DHS, DNurs, DNursSci, DSW, EdD, EngD, MCh, MD, neu SPPD

Doethuriaeth: ffesinau aur golau, leinin llewys a leinin cwfl gydag ymyl llwyd arian. Pwyntiau ychwanegol os ydych chi’n llwyddo i gael cip o unrhyw un sy’n derbyn  gwobr fawreddog DD, DDSc, DLitt, DMus, DSc, DScEcon, neu LLD.

Ac yn olaf…

Doethuriaeth Anrhydeddus. Dyma’r un i gadw llygad amdano gan fod rhywun enwog yn gallu bod yn cuddio tu ôl i’r wisg. Felly gadewch i ni fod yn hollol glir. Rydych chi’n chwilio am: gŵn coch, dim cwfl ond gyda ffesinau ddu. Efallai y byddant yn ceisio cuddio o dan fonet ddu, ond peidiwch â phoeni, bydd y tasel coch yn golygu eich bod wedi cael cip o rywbeth arbennig iawn.

Felly, nawr eich bod chi’n gwybod mwy am y gwisgoedd graddio sydd i’w gweld o amgylch Caerdydd, rydych chi’n fwy parod i Oroesi’r Graddio.