Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolion

Ymrwymiad o’r newydd, ond parhau mae’r anghydraddoldeb ym maes iechyd meddwl

13 Ionawr 2017
Empty hospital beds in a surgery recovery area.
Empty hospital beds in a surgery recovery area.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi ailddatgan un o ymrwymiadau ei rhagflaenydd David Cameron ei bod am wella gofal iechyd meddwl. Cafodd ei datganiad sylw rhwng penawdau’r BBC am nifer y cleifion seiciatrig sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys a’r nifer anghymesur o achosion lle ceir oedi cyn rhyddhau cleifion mewn ysbytai iechyd meddwl.

Yr hyn sydd wrth wraidd y pwyslais newydd yw’r gwahaniaeth rhwng y ddarpariaeth ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd meddwl o’i chymharu â salwch corfforol.

Rhoddodd y BBC sylw i ddata yr oedd y Gwir Anrhydeddus Norman Lamb (cyn-Weinidog Gwladol y Llywodraeth Glymblaid) wedi cael gafael arno. Roedd y data yn dangos nifer y diwrnodau meddiannu gwely a gollir o ganlyniad i oedi cyn rhyddhau cleifion. Mae Ymddiriedolaethau GIG Lloegr yn cyflwyno’r data hwn fel mater o drefn i GIG Lloegr.

Ceir oedi wrth ryddhau pan mae’r claf yn meddiannu un o welyau’r GIG ar ôl barnu nad oes angen triniaeth y GIG arno a’i fod yn barod i adael. Mae nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau wedi cynyddu 56% ers mis Tachwedd 2015 (17,509 o ddiwrnodau meddiannu gwely) i ymddiriedolaethau iechyd meddwl o’i gymharu â 30% i ymddiriedolaethau iechyd acíwt. Un o’r prif resymau dros yr oedi yw am fod rhieni yn aros am becyn gofal yn eu cartref eu hunain.

Nid oes erioed wedi bod cymaint o alw ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ers y 1990au, mae arolwg data y DU wedi dangos cynnydd cyffredinol yn nifer y bobl â chyflyrau iechyd meddwl cyffredin. Mae llawer iawn mwy o fenywod ifanc yn rhoi gwybod am broblemau iechyd meddwl ac, ar y cyfan, mae mwy o bobl yn gofyn am help gan eu meddyg teulu neu wasanaeth arbenigol.

Efallai bod y galw ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn dangos ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl yn ogystal â’r pwysau sydd ar bob rhan o’r system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n amlwg bod cyfyngiadau ar gyllidebau gofal cymdeithasol a’r GIG ar lefel gymunedol a bod oedi yn sgîl hynny wrth drefnu gofal ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysbyty. Fodd bynnag, a ydy’r esgid fach yn gwasgu fwy fyth ym maes iechyd meddwl gan achosi oedi hirach neu argyfyngau?

Mae arolwg o brif weithredwyr y GIG gan Gyflogwyr y GIG yn awgrymu bod gwasanaethau acíwt yn cael eu blaenoriaethu gan nad oedd 63% o’r swyddogion gweithredol yn hyderus y caiff safonau buddsoddi mewn iechyd meddwl eu bodloni eleni. Golyga hynny na fydd y sefyllfa wedi gwella ers y llynedd er gwaethaf yr ymrwymiadau polisi sylweddol a ysgogwyd gan y Tasglu Iechyd Meddwl. Fe amlygodd y Tasglu bod angen canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc, galluogi pobl i gael gafael ar gymorth yn fwy hwylus a lleihau stigma a gwahaniaethu.

Daw stigma a gwahaniaethu i’r amlwg o ganlyniad i ddeilliannau iechyd gwael a diffyg symudedd cymdeithasol, er enghraifft ym maes cyflogaeth. Problemau iechyd meddwl, yn enwedig iselder, yw un o brif achosion anabledd byd-eang. Er bod salwch iechyd meddwl i’w gyfrif am 28% o glefydau, dim ond 13% o wariant y GIG sydd wedi’i neilltuo ar ei gyfer, a dim ond 5.8% o gyfanswm gwariant ymchwil y DU sy’n cael ei wario yn y maes hwn.

Mae erthyglau’r BBC yn dangos sut y gellir osgoi amcanion polisi ac ariannu i barhau anghydraddoldebau ym maes iechyd meddwl yn ddiddiwedd.