Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl

27 Ionawr 2017
Four friends shooting selfies on their mobile phones at the same time, effectively hiding and isolating themselves. Alternatively, they could be using online dating apps to see who's next to them.
Four friends shooting selfies on their mobile phones at the same time, effectively hiding and isolating themselves. Alternatively, they could be using online dating apps to see who's next to them.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn rhan o’n bywydau bob dydd yn gyflym iawn. Fel gydag unrhyw dechnoleg newydd, mae’n anochel y caiff cwestiynau eu gofyn ynghylch sut gallai fod yn effeithio ar sut rydym yn byw ac yn teimlo.

Ddwy flynedd yn ôl, fe ddechreuais ystyried a oedd fy nefnydd cyson o Facebook yn gwneud niwed i mi, yn ddiarwybod, o ran gwyrdroi’r ffordd yr oeddwn yn meddwl am y byd go iawn ac yn enwedig mewn perthynas â hapusrwydd.

Bues i’n ymchwiliwr seicoleg am 13 blynedd yn astudio iechyd morwyr pan oeddent ar y môr a’r dechnoleg oedd ar longau. A minnau bellach yn dilyn gyrfa yn gwneud ffilmiau – o fewn a thu allan i’r Brifysgol – mae’n naturiol bod diddordeb gen i o hyd mewn seicoleg.

O safbwynt personol, roeddwn yn gallu gweld bod y cyfryngau cymdeithasol yn dod yn rhan annatod o fy mywyd bob dydd ac yn dechrau effeithio ar sut oeddwn yn gweld fy mywyd fy hun. Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chyflwyno am ein bywydau yn rhan ganolog o’r cyfyng-gyngor ynghylch y cyfryngau cymdeithasol. Yn debyg iawn i albwm ffotograffau, nid ydym am gofnodi a rhannu adegau anodd yn ein bywydau fel arfer. Yn anochel, fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod llwyfannau fel Facebook yn llawn uchafbwyntiau dethol o fywydau pobl. Er fy mod yn ymwybodol o’r broses, roedd y ffaith nad oeddwn yn gallu atal fy hun rhag cael fy effeithio gan y negeseuon rhy gadarnhaol yr oeddwn yn eu gweld bob dydd yn peri cryn ofid i mi.

Nid oeddwn yn teimlo’n wych ar y pryd, a dwi’n meddwl ein bod yn fwy tebygol o feddwl yn nhermau ‘man gwyn man draw’ mewn sefyllfaoedd o’r fath drwy edrych ar fywydau pobl eraill a meddwl pan nad ydw i mor hapus â nhw.  Yr hyn sy’n rhyfedd yw’r ffaith nad oedd yr hyn yr oeddwn i’n ei roi ar gyfryngau cymdeithasol yn rhoi unrhyw awgrym fy mod yn dioddef pyliau o bryder a phanig. Dyna pryd y dechreuais feddwl am fy rôl i yn y broses, ac i ba raddau y gallai’r hyn yr oeddwn i’n ei roi ar gyfryngau cymdeithasol yn gwneud i bobl deimlo’n anhapus, er nad hynny oedd fy mwriad.

Nid yw popeth yn ddu a gwyn, wrth gwrs, oherwydd bydd y rhan fwyaf o ffrindiau a pherthnasau yn hapus iawn i weld lluniau a newyddion cadarnhaol gan bobl, a gall hyd yn oed cyfraniadau llawn bwriad da achosi poen meddwl os yw’n ymwneud â rhan o arbennig o sensitif o’u bywyd. Rwy’n credu bod y broblem ar ei waethaf os yw’r cysylltiad rhwng pobl yn seiliedig ar eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol yn bennaf gan nad oes ffyrdd eraill o wirio bod yr hyn y maent yn ei gyflwyno yn wir.

Fodd bynnag, pa gyfran o’n ffrindiau ar Facebook yr ydym yn eu gweld wyneb yn wyneb fel arfer? Baswn i’n dyfalu ei bod yn gyfran isel – a’i bod yn mynd yn is (gan ddibynnu ar eich parodrwydd i gael gwared arnynt). Mae gennyf ffrindiau ysgol ar fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol dwi heb eu gweld ers 20 mlynedd. Os ydyn nhw’n dweud wrtha i eu bod yn ofodwyr ac yn byw bywydau perffaith, rhaid i mi dderbyn eu gair am hynny (ar y cyfryngau cymdeithasol).

Roedd ein ffilm ‘All My Happy Friends’ yn ceisio ystyried rhai o’r syniadau uchod, yn enwedig y syniad o gyflwyno ein hunain yn gymdeithasol. Fe ystyriais beth fyddai’n digwydd pe byddai pobl yn cyflwyno eu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ar ffurf PowerPoint mewn cynhadledd academaidd. Wrth eu cyflwyno fel hyn, ro’n i am ddangos pa mor erchyll y gallai hyrwyddo eich hun yn y fath fodd ymddangos i eraill. Ro’n i hefyd am dynnu sylw at sut mae negeseuon cadarnhaol yn tueddu i fynd o gwmpas mewn cylchoedd a sut y gallen nhw ein gwneud yn drist drwy gredu pa mor ‘wych’ yw bywydau ein gilydd.

Mae’r elfen iechyd meddwl yn rhan annatod o’r ffilm gan fod y prif gymeriad yn crïo o flaen meddyg teulu ac yn dweud “Dydw i ddim yn gwybod pam fy mod yn teimlo fel hyn”. Os ydym yn boddi o dan negeseuon cadarnhaol am fywydau gwell ein ffrindiau, yn ôl pob golwg, nid yw’n syndod y gallai gael effaith arnom – boed hynny’n ymwybodol ai peidio.

Cafodd y ffilm ei hyrwyddo gan Mind UK fel neges flog ac wedyn (yn eironig) ar eu tudalen Facebook. Mae cael cipolwg ar y sylwadau ar Facebook yn dangos yn glir y gwahaniaeth barn ynghylch sut mae’r cyfrwng cynyddol bwerus hwn yn dechrau effeithio ar bob elfen o’n bywydau. Ni all ffilm tair munud o hyd newid y byd, ond os bydd yn ysgogi trafodaeth, fe fyddwn yn ‘hoffi’ hynny.