Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Ymchwil Iechyd meddwl – mae’r dyfodol yn galw

16 Hydref 2017

Afiechyd Meddwl – argyfwng cenedlaethol

Mae afiechyd meddwl yn argyfwng cenedlaethol. Bob blwyddyn mae un ym mhob pedwar person yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl, sy’n cael effaith enfawr ar yr unigolyn, eu teulu a chymdeithas. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb salwch o’r gwaith, gyda thros 15 miliwn o ddyddiau’n cael eu colli bob blwyddyn. Amcangyfrifir fod cyfanswm cost problemau iechyd meddwl i’r economi o ddeutu £70-£100 biliwn bob blwyddyn. Hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20-34 oed yn y DU. Nid yw triniaethau wedi datblygu’n sylweddol ers degawdau ac mae’r gwasanaethau dan bwysau enfawr sy’n golygu bod llawer o bobl yn methu â chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae angen i ni wneud yn well ar frys.

Pam fod ymchwil yn hanfodol

Y broblem sylfaenol sy’n cyfyngu ein gallu i drin salwch meddwl yw diffyg dealltwriaeth ddigonol o’r mecanweithiau biolegol a seicolegol sy’n sylfaen i’r cyflyrau hyn. Tan y byddwn  ni’n deall achosion clefyd neu anhwylder mae’n hynod o anodd gwella triniaeth. Roedd hyn yn wir am weddill meddygaeth – ni chafwyd cynnydd wrth drin clefydau fel niwmonia a chanser tan i ni ddeall eu hachosion. Mae ein dealltwriaeth o achosion sylfaenol problemau iechyd meddwl fel iselder, awtistiaeth a sgitsoffrenia wedi llusgo ar ôl ein dealltwriaeth o gyflyrau fel canser. Fodd bynnag ceir gobaith gwirioneddol bellach wrth i ymchwil ddechrau datgelu rhai o’r ffactorau risg allweddol ar gyfer salwch meddwl.

Cynnydd wrth ddeall risg

Mae wedi’i gydnabod ers tro bod ffactorau risg genetig ac amgylcheddol (“natur a magwraeth”) yn gallu dylanwadu ar iechyd meddwl. Mae deall y ffactorau risg hyn yn cynnig ffordd allweddol i ni allu deall achosion problemau iechyd meddwl.  Mae llawer o broblemau iechyd meddwl yn rhedeg mewn teuluoedd ac fe wyddom o amrywiaeth o astudiaethau gwahanol fod geneteg yn bwysig yn y cyflyrau hyn. Tan yn ddiweddar fodd bynnag roedd yn anodd iawn nodi’n union pa enynnau oedd yn rhan o hyn. Yn ystod y ddegawd ddiwethaf serch hynny cafwyd cynnydd cyflymach wrth geisio canfod y genynnau ar gyfer cyflyrau fel awtistiaeth, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn, gyda’r DU yn chwarae rhan allweddol yn yr ymchwil hwn. Mae hyn wedi bod yn bosibl drwy ddatblygiadau mewn technoleg (er enghraifft dilyniannu DNA) a chydweithio rhyngwladol ar raddfa fawr. Mae astudiaethau genetig wedi dangos bod genynnau’r synapsau (y cysylltiadau rhwng celloedd nerfol) yn ogystal â genynnau sy’n effeithio ar system imiwnedd yr ymennydd a rheolaeth enetig yn bwysig yn yr amgylchiadau hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn dechrau deall achosion anhwylderau meddyliol, a chanfod targedau newydd ar gyfer triniaethau.

Fe wyddom hefyd y gall ffactorau amgylcheddol – gan gynnwys digwyddiadau bywyd cynnar a dylanwadau fel straen hefyd ddylanwadu ar risg afiechyd meddwl. Unwaith eto mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud i ddeall y berthynas rhwng ffactorau fel problemau genedigaeth, cam-drin yn ystod plentyndod a straen a phroblemau iechyd meddwl. Mae’r meysydd hyn hefyd i’w gweld yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymyriadau newydd i atal anhwylderau meddyliol, boed drwy driniaethau seicolegol, newidiadau cymdeithasol neu feddyginiaethau newydd.

Yr offerynnau i ddatblygu triniaethau newydd

Er mwyn symud ymlaen gyda’r addewid o ddealltwriaeth newydd o risg afiechyd meddwl a chreu triniaethau gwell mae angen i ni ddeall sut mae ffactorau genetig ac amgylcheddol yn effeithio ar yr ymennydd. Ond mae astudio’r ymennydd yn anodd oherwydd ei gymhlethdod a’r ffaith ei fod yn anhygyrch. Yn ffodus mae datblygiadau sylweddol diweddar mewn niwrowyddoniaeth yn golygu bod ymchwil o’r fath yn bosibl. Yn benodol mae’r gallu i gymryd celloedd ymylol (fel sampl croen) gan gleifion a’u troi’n gelloedd ymennydd mewn dysgl (technoleg iPSC) yn golygu y gallwn astudio swyddogaethau celloedd ymennydd cleifion yn uniongyrchol. Mae celloedd o’r fath hefyd yn cynnig ffordd newydd i brofi triniaethau newydd. Mae datblygiadau o ran sganio’r ymennydd hefyd yn golygu bod gennym  ni ddull na welwyd o’r blaen i ymchwilio i’r newidiadau strwythurol, ymarferol a chemegol yn yr ymennydd yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Mae cyd-ddigwyddiad y datblygiadau hyn mewn niwrowyddoniaeth gyda gwell dealltwriaeth o risg yn golygu bod hwn yn gyfnod o gyfle enfawr ar gyfer datblygu triniaethau newydd ar gyfer anhwylderau meddwl.

Yr hyn sydd angen i ni ei wneud nesaf

Mae gan y DU gryfderau mawr mewn ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth, ond ar hyn o bryd mae hyn wedi’i daenu ar draws gwahanol ganolfannau. Dim ond 6% o’n gwariant cenedlaethol ar ymchwil iechyd sy’n mynd at ymchwil iechyd meddwl, er gwaethaf baich enfawr yr anhwylderau hyn. Yr hyn sydd ei angen nawr yw strategaeth genedlaethol i ddod â’n hymchwilwyr rhagorol yn y meysydd hyn at ei gilydd a chreu rhaglen genedlaethol ar gyfer ymchwil iechyd meddwl gan gyfuno’r gwahanol arbenigeddau sydd eu hangen i wneud cynnydd. Gallai strategaeth o’r fath weithio ochr yn ochr â’r un a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer ymchwil dementia, ac yn ddelfrydol byddai’n elwa o synergeddau agos yn yr astudiaeth o’r anhwylderau pwysig hyn ar yr ymennydd. Byddai strategaeth genedlaethol ar gyfer ymchwil iechyd meddwl, yn gysylltiedig â buddsoddiad priodol, hefyd yn anfon neges gref i helpu i fynd i’r afael â’r stigma sy’n dal i fodoli ynghylch anhwylderau meddwl, a byddai’n cynnig llwyfan i gefnogi a gwella ein gwasanaethau iechyd meddwl. Yn olaf, o ystyried yr angen enfawr nad yw’n cael ei ddiwallu mewn iechyd meddwl a’r cyfle gwych ar gyfer datblygiadau i drin amrywiaeth o anhwylderau’r ymennydd, bydd rhaglen genedlaethol glir o ymchwil yn y maes yn y DU yn sicrhau sylfaen bwysig ar gyfer buddsoddiad diwydiannol parhaus yn y sector iechyd yn y DU.