Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc

17 Hydref 2017
a young woman sits opposite a counsellor and listens with her head resting on her hands. They are sitting on armchairs in the counsellor's office . The counsellor is giving advice as the young woman in the foreground looks distraught
a young woman sits opposite a counsellor and listens with her head resting on her hands. They are sitting on armchairs in the counsellor's office . The counsellor is giving advice as the young woman in the foreground looks distraught

Dr Rhiannon Evans, Uwch-ddarlithydd, DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Michelle Hughes, Nyrs Arbenigol CAMHS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn parhau’n fater o bwysigrwydd mawr ym maes iechyd cyhoeddus. Mae llawer o broblemau’n ymddangos yn ystod glasoed, gyda 50% o anhwylderau gorbryder a rheoli ymgymhelliad yn dechrau erbyn 11 oed. Yn y cyfamser, canfu astudiaeth ddiweddar fod 16.4% o bobl ifanc 16 oed wedi hunan-niweidio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae gwasanaethau penodol ar gyfer ymdrin â’r problemau hyn dan bwysau cynyddol. Yn ystod 2016 cafwyd 19,000 o atgyfeiriadau i’r Gwasanaethau Iechyd meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yng Nghymru, cynnydd o 3,000 ar y flwyddyn flaenorol. Yn yr un modd yn 2015-2016 derbyniwyd 18,788 o unigolion <18 oed yng Nghymru a Lloegr i’r ysbyty neu am driniaeth mewn adran frys, cynnydd o 14% ers 2013-2014.

Mewn ymateb i’r straen amlwg ar y system, mae Llywodraeth Cymru’n ddiweddar wedi lansio cynllun peilot fydd yn gweld staff y GIG yn darparu cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr sy’n dangos arwyddion o gorbryder, iselder neu hunan-niweidio. Dylem groesawu’r buddsoddiad hwn. Yn benodol, mae’n ymateb i angen mawr a nodwyd mewn adroddiad diweddar gan Brosiect Cydweithredol GW4 dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ar Ymchwil i Hunan-niweidio a Hunanladdiad mewn Plant a Phobl Ifanc, oedd yn dangos bod ysgolion uwchradd yn ei chael yn anodd ymdopi â hunan-niweidio gan fyfyrwyr wrth iddynt aros am gymorth allanol arbenigol.

Nid yw cyflwyno darpariaeth newydd yn ddigon ynddo’i hun. Mae angen i ni ystyried ansawdd y gwasanaeth a gaiff ei gyflenwi. Ceir corff eang o ymchwil sy’n nodi sut mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn portreadu unigolion yn negyddol ac yn eu difrïo pan fyddant yn hunan-niweidio. Rhaid i unrhyw fonitro a gwerthuso sicrhau bod y cynllun newydd yn sensitif i anghenion y myfyrwyr sy’n ymgysylltu.

Mae Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd yn arwain astudiaeth a gyllidir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bryste a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol yn y maes hwn ac yn cynnig arweiniad ar gyfer ymchwil pellach. Bydd yr astudiaeth yn edrych ar brofiadau plant, pobl ifanc, gofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n cyflenwi neu’n derbyn cymorth yn dilyn cyflwyno unigolyn (<18 oed) sy’n hunan-niweidio mewn adran frys yng Nghymru.

Y tu hwnt i gymorth a gaiff ei dargedu ar gyfer unigolion sydd eisoes yn cyflwyno gyda phroblem iechyd meddwl, mae angen buddsoddi pellach o hyd ar gyfer dulliau mwy ataliol, yn enwedig o fewn lleoliad yr ysgol. Mae prifysgolion Bryste, Caerdydd, Caerwysg a Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain ar hyn o bryd yn ymgymryd â hap-dreial rheoledig clwstwr o brosiect WISE, gyda’r nod o wella iechyd meddwl a lles staff a myfyrwyr.

Mae’r prosiect yn cyflwyno hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i athrawon ysgol uwchradd er mwyn iddynt allu cynorthwyo eu cydweithwyr a gwella eu cyfathrebu gyda myfyrwyr. Mae’r math hwn o ymyrraeth yn bwysig gan fod perthynas anodd rhwng athrawon a myfyrwyr yn rhagfynegiad o anhwylderau seiciatrig, tra bo perthynas dda’n gysylltiedig â chyfraddau is o iselder ymhlith myfyrwyr. Mae’r astudiaeth hon yn dangos yr angen i ystyried amrywiol bwyntiau ymyrryd manteisiol o fewn y system, ac nid canolbwyntio’n unig ar ymyrryd gyda’r person ifanc unigol.