Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Iechyd meddwl yn y gweithle

10 Hydref 2017

10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2017, ac iechyd meddwl yn y gweithle yw’r ffocws eleni a bennwyd gan Ffederasiwn Byd-eang Iechyd Meddwl.

Ym Mhrifysgol Caerdydd rydym yn mabwysiadu dull o fynd i’r afael â iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr a staff sy’n cofleidio’r sefydliad cyfan. Fel rhan o brosiect a ariennir gan Hefce, bydd y Ganolfan Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn cydweithio â Phrifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Efrog, Prifysgolion y DU, a Student Minds er mwyn arwain ‘Strategic Approaches to Student Mental Health’.

Mae Prifysgolion y DU yn galw ar Brifysgolion i wneud iechyd meddwl yn rheidrwydd strategol fel rhan o’u dull #stepchange.

“Mae iechyd meddwl yn bwysig. Mae’n effeithio ar ein cysylltiadau a’n lles. Mae’n pennu sut rydym yn dysgu, a pha mor gynhyrchiol yr ydym. Efallai mai’r ffordd rydym yn deall ac ymagweddu at iechyd meddwl yw ein her fwyaf”.

Ein ffocws allweddol yng Nghaerdydd fydd:

  • Newid y naratif: mae angen ar addysg uwch atebion sy’n ei galluogi i symud oddi wrth fodelau darpariaeth lles adweithiol sy’n seiliedig ar iechyd i rai sy’n gweddu’n strategol â datblygiad addysgol a phersonol.
  • Ymgorffori gwytnwch yn y cwricwlaidd a’r cyd-gwricwlaidd, a symud y pwyslais i sgiliau a addysgir, yn hytrach na darparu gwasanaeth.
  • Perthnasedd Gwasanaethau Lles: mae angen ar addysg uwch amrywiaeth o blatfformau y gall ymgysylltu â myfyrwyr drwyddynt parthed eu iechyd emosiynol. Yn aml, gwelir lles/iechyd meddwl fel rhywbeth i’w flaenoriaethu pan fydd yn dirywio, yn hytrach na rhywbeth y mae’n rhaid rhoi sylw digonol iddo o hyd i’w gynnal er mwyn atal dirywiad.
  • Ateb y galw:  Ni all dulliau lles presennol, nad ydynt yn berthnasol i bawb, fodloni’r galw a ragwelir ar gyfer darpariaeth gwasanaeth. Bydd dull strategol yn caniatáu ymyriadau cynnar i reoli’r risg i fyfyrwyr/staff a all fod yn profi salwch meddwl difrifol.

Mae’r ddarpariaeth bresennol o fewn Gwasanaethau Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn rhannu ei ffocws rhwng dulliau adweithiol (gan gynnwys apwyntiadau therapiwtig un-wrth-un, gweithdai, a grwpiau), a dulliau rhagweithiol. Mae’n dulliau rhagweithiol yn anelu at:

  • Gwella gallu myfyrwyr a staff i adnabod salwch iechyd meddwl
  • Hyrwyddo lles drwy’r sefydliad drwyddo draw
  • Gwella cyfleoedd hyfforddi staff a myfyrwyr
  • Mynd i’r afael â meysydd iechyd meddwl a lles allweddol (meddwl am hunanladdiad, gofid meddwl, bod yn agored i niwed, gwytnwch, stigma iechyd meddwl, profiadau o drais a cham-drin)

Mynychder Achosion Iechyd Meddwl

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2001), mae 1 ym mhob 4 oedolyn ym Mhrydain yn profi o leiaf un broblem iechyd meddwl ddiagnosadwy mewn unrhyw flwyddyn benodol, ac mae 1 ym mhob 6 yn ei phrofi mewn unrhyw gyfnod penodol. Gorbryder  yn gymysg ag iselder yw’r anhwylder iechyd meddwl mwyaf cyffredin ym Mhrydain, gyda 9% o bobl yn bodloni’r meini prawf ar gyfer diagnosis a rhwng 8-12% yn profi iselder mewn unrhyw flwyddyn benodol. Iselder yw prif achos salwch ac anabledd ledled y byd bellach.

Iechyd Meddwl yn y Gweithle

Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar y ffordd mae pobl yn meddwl, teimlo, ac ymddwyn; ac i lawer o bobl sy’n astudio neu weithio, bydd yn effeithio ar eu gweithgarwch beunyddiol (presenoldeb, perfformiad, canolbwyntio, a chyrhaeddiant). Gall iechyd meddwl hefyd effeithio ar y ffordd rydym yn cyfathrebu ag eraill ac ar ein perthnasau gwaith.

Mae llawer o bobl sy’n dioddef o salwch iechyd meddwl yn ceisio cuddio eu teimladau am eu bod yn ofni ymatebion pobl eraill. Er mwyn gallu mynd i’r afael ag iechyd meddwl drwy’r holl sefydliad, mae Prifysgol Caerdydd yn deall bod rhaid i ni gydnabod bod myfyrwyr a staff yn cael eu heffeithio gan stigma a all fod yn rhwystr i siarad yn agored am salwch iechyd meddwl a lles. Rydym wedi llofnodi’r Time to Change Pledge, sy’n canolbwyntio ar staff a myfyrwyr fel ei gilydd, gan fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl ar y campws.