Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Chwalu rhwystrau yn y gweithle

10 Hydref 2017

Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw iechyd meddwl yn y gweithle. Canfu adroddiad diweddar gan MIND fod 32% o ddynion yn nodi mai gwaith.

Roedd gan y cyn-fyfyriwr o Gaerdydd Miles Kean (BSc 1989), sy’n Gyfarwyddwr Gweithredol yn Coutts, broblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â gwaith am nifer o flynyddoedd cyn iddo gael cymorth proffesiynol am anhwylder gorbryder. Wrth iddo wella a dychwelyd i’r gwaith sylwodd fod pobl yn gynyddol yn ei daro ar ei ysgwydd a gofyn iddo gyfarfod am goffi. Roedden nhw am wybod sut roedd wedi ymdopi a hefyd siarad am eu problemau eu hunain yn hytrach mynd yn syth i siarad gyda’u rheolwyr llinell.

Cymerodd fentor oedd yn gynrychiolydd LGBT ar fwrdd amrywiaeth a chynhwysiant y banc. Pan gyhoeddwyd canlyniadau arolwg y banc mewn perthynas â straen a lles roedd yn amlwg fod angen ffocws gwirioneddol ar y maes hwn. O ganlyniad cydiodd Miles yn yr her a pherchnogi hyn. Datblygodd strategaeth a chreodd dîm a wahoddwyd i siarad gyda phrif fwrdd Coutts.

Roedd pryder nad oedd pobl yn cysylltu â’u rheolwyr llinell am broblemau oedd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae gan RBS, rhiant-gwmni Coutts, adnoddau rhagorol o ran cymorth i weithwyr ond ychydig o ddefnydd oedd yn cael ei wneud ohonynt a doedd neb yn gyrru’r agenda iechyd meddwl yn y busnes ar y lefel waelodol.

Roedd rhywfaint o welededd ynghylch gwella lles corfforol fel yr her 10,000 o gamau corfforaethol byd-eang ond dim llawer yn ymwneud ag iechyd meddwl. Roedd Miles yn awyddus i newid hyn er mwyn i’r ddau gael yr un amlygrwydd a blaenoriaeth.

Mewn ymgynghoriad â’r bwrdd, sefydlodd Miles a’i dîm strategaeth lles meddwl i’r banc. I lywio’r strategaeth aethon nhw i siarad â nifer o sefydliadau fel MIND, y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), Elusen Gweithwyr y Bancwyr (BWC) ac ymgyrch yr Arglwydd Faer yn ogystal â llawer o sefydliadau ariannol eraill.

Ar ôl cael cymeradwyaeth i’r strategaeth, cyflwynodd Miles a’i gydweithwyr nifer o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, lleihau stigma, a gwneud yn siŵr fod rheolwyr llinell a gweithwyr yn ymwybodol o’r hyfforddiant a’r adnoddau oedd ar gael iddynt. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Creu rhwydwaith o lysgenhadon Lles. Hyd yma mae 90 o aelodau o staff wedi ymrwymo i gyflawni’r rolau hyn
  • Cyfarfod â’r 380 rheolwr llinell yn y banc – trefnodd Miles a Mike Heyworth (ei gyd-arweinydd ar Les) 30 o sesiynau awr o hyd yn esbonio’r strategaeth, yn arwyddo’r adnoddau oedd ar gael a thrafod ymarfer da a phwysigrwydd adeiladu gwydnwch yn bersonol ac i’w timau
  • Creu fideos oedd yn cynnwys straeon personol am y rheini oedd wedi wynebu eu problemau iechyd meddwl eu hunain, yn ogystal ag aelodau o’r uwch dîm yn trafod sut maent yn ymdopi ac yn rheoli eu cydbwysedd gwaith/bywyd
  • Manteisio ar yr hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl a gwydnwch ehangach ar gyfer rheolwyr llinell
  • Creu canolbwynt lles ar y fewnrwyd gan ddod â’r holl adnoddau mewnol ac allanol sydd ar gael at ei gilydd. Mae hwn wedi’i gyrchu 10,000 o weithiau gan 1,950 aelod o staff Coutts ers iddo gael ei lansio ym mis Mawrth 2017.

Ym mis Ebrill eleni dechreuodd yr ymgyrchwyr iechyd Neil Laybourn a Jonny Benjamin ymwneud â Coutts & Co drwy gleient blaenorol i Neil sy’n gweithio i’r banc, ac oedd yn mynychu sesiynau hyfforddi Neil pan oedd yn hyfforddwr personol.

Cadwodd y ddau gysylltiad drwy’r cyfryngau cymdeithasol a chysylltodd yr aelod staff â Neil ar ôl darllen am ei hyfforddiant ar gyfer Marathon Llundain, yn awyddus i helpu gyda nawdd a chysylltu ar y pwnc hwn. Trefnwyd cyfarfod i drafod sut y gallent helpu. Yna gwahoddwyd Neil a Jonny i ddod i roi sgwrs i’r staff yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Daeth nifer dda i’r sgwrs gyda thros 150 o staff yn bresennol ac mae dros 30% o staff wedi gwylio fideo o’r sgwrs dros y fewnrwyd.

Ymwelodd Neil a Jonny hefyd â phrif swyddfa RBS yn yr Alban gan gyfarfod â’r Pennaeth Mentrau Lles. Yr hydref hwn maent yn gwneud gwaith pellach gyda Coutts ar gyfer eu rhaglen cyfeillgarwch sydd wedi’i chynllunio i helpu plant rhai o gleientiaid mwyaf cyfoethog y banc.

Mae gwaith Miles a’i gydweithwyr yn helpu i arwain at newid diwylliant yn y maes pwysig hwn ac mae llawer o hyn wedi’i helpu gan adnoddau a chymorth rhagorol gan RBS.  Yn ystod yr ymchwil cychwynnol cynghorwyd y tîm gan amrywiol sefydliadau ei bod yn aml yn cymryd peth amser cyn gallu cyflawni unrhyw newid ystyrlon o ran ymwybyddiaeth ac agweddau, eto mae canlyniadau gwaith Miles wedi rhagori ar ddisgwyliadau pawb. Yn yr arolwg chwe-misol diweddaraf o staff roedd un o’r mesurau lles allweddol wedi gwella 24%.

Mae llawer o hyn wedi’i sbarduno gan Miles a Mike a’r ffocws ar ddilysrwydd a gyflwynwyd ganddynt i’r ymgyrch. Cyflwynon nhw’r holl hyfforddiant yn hytrach na dod a thîm allanol i mewn, sy’n anarferol yn enwedig i gyrff mwy o faint.  Mae hefyd yn dyst i angerdd ac ymrwymiad Miles i wella’r agenda iechyd meddwl.

Ar hyn o bryd maent yn symud i ail gam yr ymgyrch sy’n ymwneud â chynnwys ystyrlon a chefnogaeth barhaus. Dywed Miles ei fod yn fater sensitif, ond mae’n ystyried hyn yn beth cadarnhaol.  Mae pobl naill ai’n cysylltu â chi am eu bod am helpu, neu am eu bod yn ceisio help.

Dywed Neil fod gwaith Miles wedi gwneud gwahaniaeth yn Coutts a’i fod mor bwysig fod gwaith ynghylch iechyd meddwl yn cael ei yrru o’r brig. Mae llawer o sefydliadau o hyd ble mae cryn dipyn i’w wneud o ran ymwybyddiaeth iechyd meddwl a stigma, yn enwedig mewn BBaChau ble nad oes ganddynt o reidrwydd yr adnoddau angenrheidiol.

Mae Jonny ac yntau’n parhau i wneud gwaith allgymorth gyda sefydliadau yn y DU ac yn cael eu gwahodd i swyddfeydd rhyngwladol cwmnïau o’r DU. Mae hyn yn dangos, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, bod iechyd meddwl yn y gweithle’n fater gwirioneddol fyd-eang.