Y system imiwnedd a’r ymennydd: cyflenwi neu ddamwain?
12 Ebrill 2017Rhagdybiwyd ers amser hir mai unig bwrpas y system imiwnedd yw amddiffyn y corff rhag heintiau. Fodd bynnag, mae ymchwil bellach yn dangos bod y system imiwnedd yn gwneud llawer mwy na hynny. Yn wir, mae’n eithriadol o alluog wrth wneud llawer o bethau ar yr un pryd. Mae’r dyletswyddau hyn, nad ydynt yn ymwneud ag imiwnedd, yn bwysig ar gyfer datblygiad eich ymennydd a’ch iechyd meddwl yn sgil hynny. Os nad yw’r rhain yn gweithio’n iawn, gallant achosi anhwylder meddwl.
Tocio er mwyn cael ymennydd sydd wedi’i gysylltu yn y ffordd orau bosibl
Mae’r system cyflenwi yn gangen hynafol o imiwnedd, ac mae’n gwasanaethu fel yr ‘amddiffyniad cyntaf’. Wrth wynebu celloedd sydd wedi’u heintio â firws neu facteria, tra bod catrodau eraill o’r system imiwnedd yn dewis eu harfau’n ofalus, mae’r cyflenwi yn ymosod gan ddefnyddio ffagosytau – celloedd sydd yn llythrennol yn traflyncu’r pathogenau – gyda chanlyniadau angheuol.
Er mor syfrdanol y gall ymddangos, mae tystiolaeth o fodelau anifeiliaid yn dangos bod y cyflenwi yn defnyddio’r un mecanwaith yng nghelloedd eich ymennydd yn ystod eich plentyndod a’r cyfnod cynnar o fod yn oedolyn. Pan fyddwch yn cael eich geni, mae gan bob cell – neu niwron – yn eich ymennydd, llawer mwy o gysylltiadau nag sydd angen arno. Er mwyn cyfathrebu’n fwy effeithiol, mae’r cysylltiadau hyn yn cael eu lleihau’n raddol, neu eu ‘tocio,’ nes mai dim ond y cysylltiadau cryf ac angenrheidiol sy’n aros wrth i chi dyfu’n oedolyn. Yr enw ar y broses hon yw tocio synaptig.
Rydym yn gwybod bellach bod cyflenwi yn rhan o’r broses hon. Mae’n ‘tagio’ cysylltiadau na ddefnyddir yn aml, ac yn denu ffagosytau o’r ymennydd, a elwir yn ‘microglia‘ (math o gell sydd yn yr ymennydd ac ym madruddyn y cefn), er mwyn yn llythrennol, bwyta’r cysylltiadau diangen. Er bod hyn yn ymddangos braidd yn ganibalistaidd, credir bod y broses hon yn arwain at ymennydd sydd wedi’i gysylltu yn y ffordd orau bosibl.
Y garddwr gorfrwdfrydig
Fodd bynnag, rydym i gyd yn pledio’n euog i’r hen ddywediad Saesneg ‘eyes bigger than our bellies‘ (yn enwedig mewn bwffe) ac nid yw’r system cyflenwi yn wahanol i hyn. Mewn rhai achosion, gall fwyta llond eu bol o gysylltiadau niwronau ac mae canlyniadau angheuol i hyn.
Mae gwyddonwyr bellach yn meddwl bod cyflenwi wedi gweithredu’n debyg i’r garddwr gorfrwdrydig yn ymennydd y cleifion sydd â sgitsoffrenia, sef anhwylder meddwl difrifol lle mae’r claf yn dioddef o rithdybiau, rhithweledigaethau a nam ar y cof.
Yn wir, mae cleifion a modelau llygod o sgitsoffrenia yn dangos llai o gysylltiadau rhwng eu niwronau, ymysg abnormaleddau eraill. Nid drwy gyd-ddigwyddiad, ond mae mwtaniadau yn DNA y cyflenwi wedi cael eu canfod mewn cleifion sydd â sgitsoffrenia o’i gymharu â’r boblogaeth iach. Credir bod y mwtaniadau hyn yn achosi i gyflenwi ddod yn orfywiog.
Yn ogystal, mae wedi dod i’r amlwg bod celloedd microglia yn orfywiog yn ymennydd pobl sydd â sgitsoffrenia. Gyda’i gilydd, gall y cyfuniad hwn arwain at docio gormodol yn ystod datblygiad yr ymennydd. Mae gwyddonwyr wedi damcaniaethu bod cysylltedd annormal yr ymennydd yn gallu arwain at symptomau gwanychol yr anhwylder yn ystod y cyfnod o fod yn oedolyn.
Credir bod y broses hon o docio synaptig yn lleihau wrth i’ch ymennydd aeddfedu yn ystod eich ugeiniau. Fodd bynnag, bydd gan gyflenwi ei rôl bwysig y tu hwnt i’r cyfnod hwn o’ch bywyd.
Tra bod y rhan fwyaf o’ch ymennydd wedi datblygu’n gyflawn, mae ardal benodol ynddo sy’n adnewyddu’n barhaus yn ystod eich bywyd. Dyma’r hipocampws, sef ardal bwysig lle mae cronfa o gelloedd yn byw ynddi. Celloedd cyntefig yw’r rhain sy’n geni niwronau newydd yn ystod eich cyfnod fel oedolyn. Gelwir y broses hon yn niwrogenesis. Mae’r niwronau newydd hyn yn hanfodol ar gyfer eich gallu i greu atgofion newydd a rheoleiddio eich hwyliau a’ch emosiynau.
Ymchwil i anhwylderau yn yr ymennydd
Yn ystod fy PhD, rwyf wedi darganfod bod cyflenwi yn rheoleiddio nifer o’r niwronau newydd sy’n cael eu geni yn yr hipocampws, a’u bod yn gallu newid eu strwythur, gan effeithio ar eu cysylltedd. Mewn anhwylderau fel sgitsoffrenia, epilepsi ac iselder, sef anhwylderau lle mae llawer o weithgareddau cyflenwi yn digwydd, gall niwrogenesis annormal chwarae rôl ym mhroblemau creu atgofion cleifion a’u hwyliau. O ganlyniad, mae’n darged gwerthfawr ar gyfer ymyriad therapiwtig.
Yng Nghynhadledd Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain (BNA) yn Birmingham, mae fy nghyflwyniad ymchwil ar boster yn dangos sut y gallai cyflenwi benderfynu sut y byddwch yn teimlo pe baech yn gwegian ar ymyl dibyn clogwyn uchel iawn. Mae llygod sydd heb ddigon o dderbynnydd protein cyflenwi pwysig yn ymddwyn yn bryderus iawn wrth iddynt gael eu rhoi mewn sefyllfa ddiniwed ond sydd hefyd yn codi ofn, er bod hyn ar wahân i effaith cyflenwi ar niwrogenesis yn ôl pob golwg.
Mae cyflenwi yn cael rhagor o effaith hefyd. Yn ogystal â hyn, mae gwyddonwyr bellach yn meddwl y gallai cyflenwi ailddechrau bwyta cysylltiadau niwronal wrth heneiddio, ac y gall tocio gormodol gyfrannu at golli celloedd yn yr ymennydd. Gwelir hyn mewn cyflyrau niwro-ddirywiol fel clefyd Alzheimer’s.
Rheoli tocio synaptig
Mae angen enbyd am therapiwteg newydd mewn seiciatreg. Fel ymchwilydd PhD Niwrowyddorau Integreiddiol gyda’r Wellcome Trust, a Chymrawd Ymchwil ar ddechrau fy ngyrfa i Ymddiriedolaeth Waterloo, fy nod yw cael gwell dealltwriaeth o sut y mae’r system imiwnedd yn rhyngweithio â datblygiad yr ymennydd mewn oedolion er mwyn creu’r afiechydon dinistriol hyn, a sut y gallwn eu hatal.
Mae llawer o’r cyffuriau sy’n trin yr afiechydon hyn yn targedu symptomau anhwylderau seiciatrig, heb fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol. Yn wahanol i salwch corfforol, mae hyn yn bennaf oherwydd ein hanwybodaeth o’r mecanweithiau sy’n arwain at glefydau iechyd meddwl. Gyda lwc, bydd y maes ymchwil hwn yn gwella ein dealltwriaeth o achosion sgitsoffrenia ac afiechydon cysylltiedig, mewn ymgais i greu therapiwteg newydd a fydd yn gwella’r ffordd y caiff anhwylderau seiciatrig ddiagnosis, eu trin ac yn y pendraw, eu hatal.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016