Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolion

Straen ym mlynyddoedd cynnar eich bywyd – yr effaith ar salwch meddwl

25 Ebrill 2017

Rydych chi o dan fygythiad.

Mae eich ymennydd yn ymateb ar unwaith. Fel rhedwr ar ddechrau ras, mae’n deffro fel pe bai’r bygythiad gan saethiad gwn.

Yr hypothalamws sy’n dechrau’r gwaith, gan anfon cemegau at y chwarren bitẅidol. Mae’r hormonau o’r chwarren bitẅidol yn llifo i ail chwarren, sef y chwarren adrenal. Mae adrenalin a glwcocorticoid yn llifo o’r chwarennau adrenal, gan deithio o amgylch eich corff cyfan yn gyflym.

Mae curiad eich calon yn cyflymu. Rydych chi’n gallu clywed y gwaed yn curo yn eich clustiau. Mae eich cyhyrau’n tynhau ac mae pwysedd eich gwaed yn cynyddu’n arswydus o uchel. Rydych yn anadlu’n drymach ac yn ddyfnach. Caiff siwgr, a elwir yn glwcos, ei rhyddhau o’ch afu; yn barod i chi ymateb.

Wrth i chi sefyll, yn gadarn ac yn barod ar gyfer ras neu i frwydro, mae’r bygythiad yn diflannu. Efallai bod y car yn gwyro’n sydyn o’ch cwmpas; efallai eich bod yn dod o hyd i’r switsh golau mewn ystafell dywyll dieithr. Mae’r ymennydd yn dweud wrth y systemau hyn i gyd ei bod yn amser mynd yn ôl i’r drefn arferol. Maent wedi gwneud eu gwaith. Mae eich cyhyrau’n gorffwys ac rydych yn rhoi ochenaid o ryddhad.

Yr echel hypothalamig-bitẅidol-adrenal (echel HPA) yw enw’r system hon ac mae’n hollbwysig. Y rheswm dros hyn yw ei fod wedi esblygu gyda’r unig bwrpas o gynyddu pa mor debygol yr ydych o oroesi.

Fodd bynnag, beth sy’n digwydd pan nad yw’r system hon yn gwybod sut i ddiffodd ei hun na phryd i wneud hyn?

Ymateb straen yn mynd o chwith

Mae’r math hwn o ymateb straen, a’i fod yn gallu ‘dechrau’ a ‘stopio,’ yn allweddol i lwyddiant yr ymennydd a’r corff wrth sicrhau eu bod yn gweithio’n gywir. Fel pob system arall sydd dan reolaeth, os oes un darn yn mynd o’i le, mae llawer o bethau eraill yn gallu mynd o’u lle hefyd.

Meddyliwch amdano fel cylched trydanol sy’n cael ei reoli gan switsh; dim ond pan mae’r holl ddarnau’n gweithio gyda’i gilydd a phan mae’r switsh ‘ymlaen’, y mae’n gweithio’n effeithiol. Os yw un o’r cysylltiadau gwifren neu’r darnau trydanol yn gwrthod gweithio, gall gael effaith andwyol ar y cylched. Felly, efallai na fyddai’n ormod o syndod dysgu bod yr echel gymhleth hon yn cael ei gysylltu â sawl math o salwch. Mae’n gysylltiedig â mathau cymhleth o salwch. Salwch yr ydym yn cael trafferth ei reoli heb sôn am ei wella, fel sgitsoffrenia.

Mae’r cemegau a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o gyffuriau gwrth-iselder a gwrth-seicotig – serotonin, dopamin a noradrenalin – yn cael effeithiau uniongyrchol ar yr echel HPA. Mae’r ffaith bod yr anhwylderau meddwl mwyaf yn gallu cael effaith ar y system hon yn awgrymu o bosibl mai dyma’r man cyfarfod ar gyfer niwed, sy’n arwain ar ddechrau’r salwch sgitsoffrenia. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwil wedi dechrau ystyried sut y gall straen effeithio ar yr ymennydd, a sut y daw hyn i’r amlwg mewn symptomau sgitsoffrenia.

Trawma yn ystod plentyndod

Un o’r ffactorau mwyaf cyson sy’n cynyddu’r risg o glefydau seiciatrig yw straen ym mlynyddoedd cynnar eich bywyd. Yn anffodus, mae plant sy’n cael eu cam-drin yn ddifrifol, eu bwlio neu eu hesgeuluso yn fwy tebygol na’u cyfoedion (sy’n cael eu gofalu amdanynt yn dda) o ddatblygu salwch meddwl yn ystod eu bywydau. Mae gan y plant hyn, sydd dan straen cyson, echeli HPA gorfywiog. Maent yn rhyddhau lefelau o gemegau sydd llawer yn rhy uchel ac yn ddychrynllyd o reolaidd. Mae’r system o hyd ar y switsh ‘ymlaen,’ ac nid oes switch ‘diffodd’ i gael ar y cylched. Gall hyn arwain at newidiadau yn lefel arferol y corff o homeostatos, a gall gael effaith fawr ar yr ymennydd.

Mae ymennydd plant llawer yn fwy plastig nag oedolion; maen nhw’n tyfu ac yn datblygu o hyd. Wrth roi straen ar blant drwy’r amser, bydd y cemegau cysylltiedig yn cael effeithiau niweidiol arnynt drwy gydol eu cyfnod fel oedolion. Effeithiau na ellir eu dadwneud.

Un o’r prif rannau yn yr ymennydd sy’n dioddef dan straen yw’r hipocampws – strwythur hanfodol ar gyfer dysgu, cofio a niwrogenesis (lle caiff niwronau eu creu). Ceir tystiolaeth bod yr hormon cortisol yn achosi i’r hipocampws grebachu yn ogystal â cholled niwronau ar raddfa fawr. Gall hyn yn ei dro yn effeithio ar brosesau gwybyddol fel dysgu yn ogystal ag ar yr echel HPA ei hun. Mae hyn yn creu cylch dieflig o ddifrod a achosir gan straen.

Straen ym mlynyddoedd cynnar eich bywyd a mynegiant genynnau

 

Mae gan bob un ohonom gasgliad unigol o enynnau yr ydym wedi eu hetifeddu oddi wrth ein rhieni. Rydym yn gwybod bod ein risg o gael anhwylderau seiciatrig, yn enwedig sgitsoffrenia, yn seiliedig ar ein deunydd genetig i raddau helaeth. Fodd bynnag, gall yr amgylchedd gael effaith ddifrifol a pharhaol ar fynegiant ein genynnau.

Mae fy ymchwil yn edrych ar sut y gall straen yn ystod blynyddoedd cynnar eich bywyd â’r mecanweithiau amrywiol cysylltiedig newid y genynnau yr ydym yn gwybod eu bod yn gysylltiedig â’r risg o gael salwch seiciatrig.

Yng Nghynhadledd Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain (BNA) yn Birmingham, dangosodd fy nghyflwyniad ymchwil ar boster sut yr oedd model o straen yn ystod blynyddoedd cynnar eich bywyd yn dangos gostyngiad sylweddol ym mynegiant y genyn hipocampaidd Cacna1c. Dyma’r genyn sy’n galluogi calsiwm – moleciwl sy’n hanfodol ar gyfer nifer o brosesau moleciwlaidd – i mewn ac allan o gelloedd.

Mae gan lawer o bobl ag anhwylderau seiciatrig megis sgitsoffrenia newidiadau yn y genyn hwn. Gall gostyngiad yn y genyn hwn arwain at newidiadau i’r niwrogenesis – y broses o greu niwronau newydd yn yr hipocampws, a gall hyn effeithio ar sut y mae pobl yn ymateb wrth gael ofn.

Mae hyn yn awgrymu y gall straen yn ystod blynyddoedd cynnar eich bywyd gael effeithiau parhaol ar fynegiant y genynnau. Gall hyn ddigwydd drwy epigeneteg, sy’n gallu cael effaith ar fecanweithiau biolegol ac ymddygiad. Gallai hyn gynnig golwg gwell ar sut y mae symptomau seiciatrig yn dod i’r amlwg wrth i bobl dyfu’n hŷn.

Edrych i’r dyfodol

Os gallwn gysylltu sut y mae genynnau a’r amgylchedd yn cydweithio a sut y mae hyn yn arwain at ddatblygu salwch seiciatrig, mae’n gyffrous meddwl y byddwn gam yn nes at ddeall yr anhwylderau cymhleth hyn. Un o’r prif broblemau wrth drin yr anhwylderau hyn yw nad oes gan neb ddealltwriaeth go iawn o sut maen nhw’n gweithio. Mae angen i ni ddeall yn iawn y mecanweithiau sylfaenol sy’n achosi salwch meddwl a sut y gall mwy nag un ffactor ar y cyd eu hachosi. Byddwn wedyn yn gallu creu triniaethau gwahanol a mwy effeithiol.