Skip to main content

Dementia

Dementia

6 April 2017

Professor Kim Graham is Professor of Cognitive Neuroscience and Dean of Research in the College of Biomedical and Life Sciences at Cardiff University.  She is on the Steering Group of the Dementias Platform UK, and author of an Oxford University Press book entitled, ‘The Evolution of Memory Systems’.  Her research group uses advanced neuroimaging methods, available at the Cardiff University Brain Research Imaging Centre, to study brain networks involved in dementia.

She describes different forms of dementia and the key signs to look out for.

Common signs

All forms of dementia involve a decline in one or more forms of cognition; this could be a change in the ability to concentrate or difficulties remembering the names of people, objects or facts about the world.  It could be struggling to recall details from a recent holiday or finding it harder to judge distances.  Sometimes we see changes in emotion, motivation and sensitivity to others.  While at first these cognitive changes may have only a small impact on daily life, in time they become more obvious, increasingly reducing the ability of the person with dementia to perform everyday activities.

In all dementias, this progressive worsening of cognition, whether it is memory, attention or language, is caused by damage to the brain.  As the dementia progresses, cognition gets worse because the damage to the brain spreads.  This may cause greater difficulties in the cognitive domain already affected (eg, more forgetfulness) or an increase in the range of cognitive problems experienced, such as social and behavioural changes alongside memory problems.

Differences

While we don’t fully know what causes dementias, we do know that they are not all caused by the same thing.  In some dementias, such as vascular dementia, damaged blood vessels affect blood flow and cause a lack of oxygen to the brain. This results in brain damage which slows down thinking and results in difficulties concentrating for long periods of time.  Vascular dementia is the second commonest form of dementia.  In other dementias, such as Creutzfeldt-Jakob disease, infectious proteins called prions attack and damage the brain.  Dementia can also be seen in people with HIV (human immunodeficiency disorder), and in this case, treatment with antiretroviral drugs can stop cognitive symptoms progressing.  Repeated heavy drinking on a regular basis over many years can also result in alcoholic dementia.  Alcohol is toxic to brain cells, and heavy drinking can also result in low levels of vitamin B1 (thiamine), which damages the brain.  Stopping drinking alcohol can reverse or halt any cognitive changes in this form of dementia.

Dementia is most often seen in older age.  These forms of dementia often present with quite different cognitive symptoms. We get these differences because each dementia affects different parts of the brain.  These brain areas support different forms of cognition.

Dementias in old age

In the most common dementia of older age, Alzheimer’s disease, patients find remembering day-to-day events increasingly difficult. They are likely to get lost, especially in unfamiliar environments, and may repeat information or questions. We think Alzheimer’s disease may be caused by burn-out of a brain network involved in memory. This burn-out does not initially cause cognitive difficulties, but results in a toxic build-up of proteins which start to damage nerve cells.  As these proteins build-up, this brain network can no longer function as well as before, and memory starts to fail.

Dementia with Lewy Bodies (tiny deposits of a protein that appear in nerve cells in the brain) shares some symptoms with Alzheimer’s disease and often causes difficulties with attention, which can come and go. Some people will see things that are not present (a visual hallucination) and some may suffer with delusions where they have thoughts that are not true, such as thinking that their spouse is an imposter. Problems with balance and movement are also common and can lead to falls.  These movement difficulties are like those seen in Parkinson’s disease.

Frontotemporal dementia, also called Pick’s disease, has many different forms depending upon whether the frontal or temporal lobes of the brain are affected. When the frontal lobes are involved (frontal variant frontotemporal dementia) patients can show changes in their social skills, motivation and emotions.  Patients often become less interested in activities which they normally enjoyed or have less understanding of other people’s feelings.  They can also take up new activities which previously they showed no interest in.  When the temporal lobes are affected (temporal variant frontotemporal dementia) we see difficulties in language, such as remembering the name for previously familiar people and objects.  In this dementia, patients show a dramatic ongoing loss of knowledge about the world and become unable to provide information about common animals, objects and people, getting confused between items that come from the same category (eg, mixing up cow, pig and sheep).  In the early stages of temporal variant frontotemporal dementia, patients are often able to remember details of past events, unlike patients with Alzheimer’s disease.

Cognitive clues and diagnosis

The different cognitive symptoms seen in each of these dementias provide important clues to help doctors make effective diagnoses.  By testing memory, language, attention and perception, and measuring motor function and balance, doctors can identify the type of dementia and provide the right medical advice.  This can also help carers, families and friends know how best to support their loved ones.

Further information: 

https://www.alzheimers.org.uk/info/20007/types_of_dementia

http://www.alzheimersresearchuk.org/about-dementia/types-of-dementia/

http://www.raredementiasupport.org/ftd/

 


Dementia

Dementia

6 April 2017

Mae Kim Graham yn Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol ac yn Ddeon Ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi’n aelod o Grŵp Llywio Dementias Platform UK ac yn awdur llyfr gan Wasg Prifysgol Rhydychen o’r enw ‘The Evolution of Memory Systems’. Mae ei grŵp ymchwil yn defnyddio dulliau niwroddelweddu uwch sydd ar gael yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, er mwyn astudio rhwydweithiau yn yr ymennydd sy’n gysylltiedig â dementia.

Mae hi’n disgrifio’r gwahanol fathau o ddementia a’r arwyddion allweddol y dylid cadw llygad amdanynt.

Arwyddion cyffredin
Mae pob math o ddementia yn arwain at ryw fath o ddirywiad mewn un neu fwy o fathau o wybyddiaeth; gallai hyn fod yn newid mewn gallu rhywun i ganolbwyntio neu anawsterau o ran cofio enwau pobl, gwrthrychau neu ffeithiau am y byd. Gallai hyn gynnwys cael trafferth yn cofio manylion gwyliau diweddar neu fwy o anhawster yn amcangyfrif pellteroedd. Weithiau, gwelir newidiadau mewn emosiynau, cymhelliant a sensitifrwydd i eraill. I ddechrau, gall y newidiadau gwybyddol hyn gael effaith fach yn unig ar fywyd pob dydd, ond dros amser maent yn dod yn fwy amlwg, ac yn effeithio’n gynyddol ar allu’r unigolyn â dementia i wneud gweithgareddau pob dydd.

Ym mhob math o ddementia, mae’r gwaethygiad gwybyddol hwn, boed yn eu gallu i gofio, i dalu sylw, neu ddefnyddio iaith, yn cael ei achosi gan niwed i’r ymennydd. Wrth i’r dementia waethygu, mae eu gwybyddiaeth yn gwaethygu wrth i’r niwed i’r ymennydd ledaenu. Gallai hyn achosi mwy o anawsterau yn y maes gwybyddol a effeithiwyd eisoes (e.e. anghofrwydd) neu gynnydd yn nifer y problemau gwybyddol y mae’r unigolyn yn eu cael, megis newidiadau cymdeithasol ac ymddygiadol ochr yn ochr â phroblemau’r cof.

Gwahaniaethau

Er nad oes gennym ddealltwriaeth lawn o’r hyn sy’n achosi mathau o ddementia, rydym yn gwybod nad ydynt yn cael eu hachosi gan yr un ffactor. Mewn rhai mathau o ddementia, megis dementia fasgwlaidd, mae pibellau gwaed sydd wedi eu niweidio yn effeithio ar lif y gwaed ac yn achosi diffyg ocsigen i’r ymennydd. Mae hyn yn niweidio’r ymennydd ac yn gwneud i’r unigolyn feddwl yn fwy araf, sy’n ei gwneud hi’n anodd canolbwyntio am gyfnodau hir. Dementia fasgwlaidd yw’r ail fath mwyaf cyffredin o ddementia. Mewn mathau eraill o ddementia, megis clefyd Creutzfeldt-Jakob, mae proteinau heintus o’r enw prionau yn gallu ymosod ar yr ymennydd a’i niweidio. Gwelir dementia hefyd mewn pobl â HIV (feirws imiwnoddiffygiant dynol), ac yn yr achos hwn, gall triniaeth gyda chyffuriau gwrthretrofeirysol atal symptomau gwybyddol rhag datblygu ymhellach. Gall yfed trwm yn rheolaidd dros lawer o flynyddoedd hefyd arwain at ddementia alcoholaidd. Mae alcohol yn wenwynig i gelloedd yr ymennydd, a gall yfed yn drwm arwain at lefelau isel o fitamin B1 (thiamin), sy’n niweidio’r ymennydd. Gall rhoi’r gorau i yfed alcohol atal neu wella unrhyw newidiadau gwybyddol yn y math hwn o ddementia.

Gwelir dementia mewn pobl hŷn gan fwyaf. Yn aml, mae symptomau gwybyddol eithaf gwahanol yn gysylltiedig â’r mathau hyn o ddementia. Rydym yn cael y gwahaniaethau hyn oherwydd mae pob math o ddementia yn effeithio ar wahanol rannau o’r ymennydd. Mae’r rhannau hyn o’r ymennydd yn cefnogi gwahanol fathau o wybyddiaeth.

Dementia ymhlith yr henoed
Y math mwyaf cyffredin o ddementia ymhlith yr henoed yw clefyd Alzheimer, ac mae’r cleifion yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cofio digwyddiadau pob dydd. Maent yn debygol o fynd ar goll, yn enwedig mewn amgylcheddau anghyfarwydd, ac weithiau’n ailadrodd gwybodaeth neu gwestiynau. Credir bod clefyd Alzheimer yn cael ei achosi wrth i rwydwaith yn yr ymennydd sy’n gysylltiedig â’r cof fethu. Nid yw hyn fel arfer yn achosi problemau gwybyddol, ond mae’n arwain at groniad gwenwynig o broteinau sy’n dechrau niweidio celloedd nerfau. Wrth i’r proteinau hyn gronni, ni all y rhwydwaith hwn yn yr ymennydd weithredu cystal ag o’r blaen, ac mae’r cof yn dechrau methu.

Mae dementia gyda Chyrff Lewy (dyddodion mân o brotein sy’n ymddangos mewn celloedd nerfau yn yr ymennydd) yn rhannu rhai o nodweddion clefyd Alzheimer, ac yn aml yn achosi problemau canolbwyntio sy’n mynd a dod. Bydd rhai pobl yn gweld pethau nad ydynt yn bresennol (rhithweledigaethau) ac mae rhai’n cael rhithdybiadau, ac yn credu mewn pethau nad ydynt yn wir, megis credu bod eu priod yn dwyllwr. Mae problemau symud a chydbwysedd yn gyffredin hefyd, sy’n gallu arwain at gwympau. Mae’r problemau symud hyn yn debyg i’r rhai a welir yng nghlefyd Parkinson.

Ceir hefyd nifer o wahanol fathau o ddementia blaen-dalcennol, a elwir hefyd yn glefyd Pick, yn ddibynnol ar p’un ai llabed flaen neu labed arleisiol yr ymennydd sydd wedi’i heffeithio. Pan fydd y llabed flaen wedi’i heffeithio (amrywiad llabed flaen dementia blaen-dalcennol) gall cleifion ddangos newidiadau yn eu sgiliau cymdeithasol, cymhelliant ac emosiynau. Yn aml, mae’r cleifion yn ymddiddori llai yn y gweithgareddau yr oeddent yn eu mwynhau’n flaenorol, neu’n deall teimladau pobl eraill llai. Weithiau, maent hefyd yn dechrau gweithgareddau newydd nad oeddent yn eu hymddiddori’n flaenorol. Pan fydd y llabed arleisiol yn cael ei heffeithio (amrywiad arleisiol dementia blaen-dalcennol) rydym yn gweld anawsterau ieithyddol, megis anghofio enwau pobl neu wrthrychau a oedd yn gyfarwydd yn flaenorol. Yn y math hwn o ddementia, mae cleifion yn profi colled ddramatig o wybodaeth am y byd ac yn methu â chofio gwybodaeth am anifeiliaid, gwrthrychau a phobl, ac yn cymysgu eitemau yn yr un categori (e.e. cymysgu rhwng buwch, mochyn a dafad). Yng nghamau cynnar amrywiad arleisiol dementia blaen-dalcennol, mae cleifion yn aml yn ei chael hi’n anodd cofio manylion digwyddiadau yn y gorffennol, yn wahanol i gleifion â chlefyd Alzheimer.

Cliwiau gwybyddol a diagnosis
Mae’r gwahanol symptomau gwybyddol a welir ym mhob un o’r mathau hyn o ddementia yn cynnig gwybodaeth bwysig i feddygon sy’n eu helpu i wneud diagnosis yn effeithiol. Drwy gynnal profion ar y cof, defnydd o iaith, gallu i ganolbwyntio a chraffter, ynghyd â mesur gweithrediad symud a chydbwysedd, gall meddygon adnabod y math o ddementia sydd gan y claf a chynnig cyngor meddygol priodol. Gall hyn hefyd helpu gofalwyr, teuluoedd a ffrindiau i benderfynu ar y ffordd orau o gefnogi eu hanwyliaid.

Rhagor o wybodaeth:

https://www.alzheimers.org.uk/info/20007/types_of_dementia

Types of dementia

Frontotemporal dementia (FTD)