Siel-syfrdandod – Gwersi ar gyfer Heddiw
11 Tachwedd 2016Ar 1 Tachwedd, i goffáu canmlwyddiant Brwydr y Somme, un o ddigwyddiadau diffiniol y Rhyfel Byd Cyntaf – siaradais mewn cyfarfod o Gymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg am fy ymchwil ar drawma seicolegol a brwydro straen. Mae canmlwyddiant y Rhyfel Mawr wedi’n hatgoffa ni sawl tro o’r dioddefaint enbyd yn y ffosydd a’r effaith arhosol a gafodd ar iechyd corfforol a meddyliol y milwyr. Ar fy nheithiau drwy gofnodion achosion meddygol y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Ysbyty Cenedlaethol ar gyfer y Rhai a Barlyswyd ac Epileptig (yr Ysbyty Niwroleg a Niwrolawdriniaeth Cenedlaethol erbyn heddiw) ac Adran Seiciatrig Charité yn ninas Berlin, fe ddes i ar draws cannoedd o achosion o siel-syfrdandod, milwyr oedd wedi’u creithio’n seicolegol gan eu profiadau yn y rhyfel.
Mae’r cofnodion achos yn cynnig darlun dirdynnol o brofiad y milwyr o ryfela yn y ffosydd, a’u blinder corfforol a meddyliol. Maen nhw’n rhoi golwg i ni ar fyd sydd – ers i’r cyn-filwyr olaf o’r Rhyfel Byd Cyntaf farw – bellach yn anhygyrch i ni drwy’r cof. Roedd natur rhyfela diwydiannol modern – gyda’i arfau newydd, byddinoedd mwy o faint, cynnydd yn niferoedd y clwyfedig a natur anhysbys y brwydro – yn cynyddu’r pwysau ar y milwr unigol yn sylweddol. Roedd rhyfela statig neu mewn ffosydd, o’i gymharu â rhyfela symudol, yn aml yn gorfodi’r milwr i aros yn yr un safle am ddyddiau – ambell waith prin yn gallu symud, gan y byddai’r symudiad lleiaf yn ei wneud yn darged rhwydd i saethwyr y gelyn. Canlyniad hyn oedd diflastod ac undonedd, goddefolrwydd a diffyg unrhyw beth i fynd â’u sylw; roedd y milwyr ar eu pen eu hunain gyda’u meddyliau a’u hofnau. Hefyd roedden nhw’n gweld dinistr, cyrff wedi’u malurio a chyrff marw; a sielio di-baid – ambell waith am oriau bwy gilydd, ddydd ar ôl dydd. Roedd dynion a gâi eu hamlygu i straen fel hyn dan bwysau’n barhaus.
Pan fyddai’r pwysau’n annioddefol – a allai ddigwydd ar ôl digwyddiad arbennig o ysgytwol neu yn sgil effaith gronnol yr wythnosau a’r misoedd lawer yn y ffosydd – roedd llawer o filwyr yn methu ag ymdopi’n feddyliol a chawsant eu derbyn i orsafoedd clirio cleifion ac ysbytai maes. Amcangyfrifir bod dros 80,000 o filwyr Prydain wedi dioddef yn y fath fodd. Cafodd rhai – yr achosion mwyaf difrifol a pharhaus mae’n debyg – eu derbyn i ysbytai arbenigol ar ôl dod adref.
Roedd rhai o’r dynion oedd wedi’u derbyn i’r Ysbyty Cenedlaethol yn Queen Square wedi datblygu symptomau nodweddiadol siel-syfrdandod: parlys, ysgwyd, atal, byddardod a ffitiau. Roedd eraill, nad oedd modd iddyn nhw ddianc yn gorfforol rhag tanio’r gelyn, wedi dianc i fan meddyliol gwahanol, cyflwr rhwng cwsg ac effro oedd yn eu galluogi i gadw rhywfaint o bellter o’r byd allanol. Roedd tynnu’n ôl dros dro fel hyn o erchyllterau’r rhyfel – y byddai seiciatryddion modern yn ei roi yn y categori diagnostig ‘cyflyrau datgysylltiol’ – yn gwarchod yr unigolyn rhag cyflyrau emosiynol dwys fel ofn a diymadferthedd.
Er bod rhai milwyr yn llithro i mewn ac allan o gyflyrau breuddwydiol, roedd eraill yn raddol yn colli pob cyswllt â’r byd real, gan ddatblygu syniadau rhyfedd, ymddwyn mewn ffyrdd anarferol a chael profiadau nad oedd neb arall yn eu rhannu. Nid oedd y symptomau seicotig hyn yn strategaeth ymarferol, ymwybodol i oroesi neu ymdopi: yn hytrach roedden nhw’n llethu’r unigolyn, gyda byd amgen yn disodli realiti. Roedd rhai cyflyrau seicotig fel pe baent yn datrys problemau neu gyflawni dymuniadau dros dro, ac yn fodd i ddianc rhag sefyllfa bywyd oedd yn peri pryder. Cofnododd Karl Jaspers, y seiciatrydd a’r athronydd o’r Almaen, y ffenomen hon yn awdurdodol yn ei gyfrol ar Seicopatholeg Gyffredinol: ‘Drwy rithdybiau a rhithwelediadau mae ofnau, anghenion, gobeithion a dymuniadau’r unigolyn yn ymddangos yn fyw ac yn real. […] Mae seicosis ymatebol yn gweithredu fel amddiffynfa, noddfa, dihangfa yn ogystal â chyflawni dymuniadau. Mae’n deillio o wrthdaro gyda realiti sydd wedi mynd yn annioddefol.’
Gallai rhai o’r profiadau seicotig hyn droi’n epidemig – gan ledaenu o un milwr i’r nesaf. Yr achos mwyaf enwog oedd Angylion Mons – cwmwl o ryfelwyr angylaidd a ymddangosodd yn Mons gan atal cyrch yr Almaen yn erbyn byddin Brydeinig lawer llai o faint – ond datblygodd llawer o straeon tebyg am ryfelwyr goruwchnaturiol, cestyll hudol a chymylau rhyfedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd y syniad bod profiadau trawmatig yn gallu ysgogi cyflyrau seicotig yn mynd yn erbyn syniadau seiciatrig traddodiadol: credid bod seicosis yn anhwylder cronig – yn anochel yn arwain at ddirywio deallusol lle byddai’n rhaid aros mewn ysbyty meddwl am oes; ond eto i gyd gwellodd llawer o filwyr a ddatblygodd syniadau seicotig o fewn cyfnod byr. Mewn gwirionedd, mae canfyddiad y mwyafrif o bobl o seicosis wedi parhau’n eithaf monolithig tan y presennol: ceir normalrwydd meddyliol ar un ochr a gorffwylltra, yr ystyrir ei fod yn broblem gronig, ar y llall. Mae’r achosion o seicosis siel-syfrdandod, a’r modd trawiadol y gellir gwella ohono yn aml, yn adrodd stori wahanol: gall digwyddiadau bywyd ysgogi seicosis – ac er bod modd i’r salwch seicotig droi’n gronig, gall hefyd fod yn gyfyngedig i un episod byr.
Dyma un o’r gwersi meddygol perthnasol o’r Rhyfel Byd Cyntaf, a gadarnhawyd gan waith epidemolegol diweddarach i’r hyn sy’n sbarduno seicosis a’r ffordd mae’n datblygu.
Ceir gwersi diddorol eraill am y cysylltiadau rhwng straen a salwch meddwl, ac roedd diddordeb arbennig gan aelodau Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg ynddynt:
- Ni ddatblygodd llawer o filwyr siel-syfrdandod wrth wasanaethu yn y ffrynt; yn wir, digwyddodd cryn dipyn o’r achosion pan oedd y milwyr ar wyliau neu cyn iddyn nhw gael eu hanfon i’r rheng flaen. Sbardun arall nad oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â brwydro oedd anffyddlondeb priodasol. Yn yr holl achosion hyn yn ystod gwyliau gartref, roedd mynd i ysbyty siel-syfrdandod yn gallu achub bywydau, gan atal y milwr rhag dychwelyd i’r ffosydd.
- Datblygodd llawer o sifiliaid (gan gynnwys plant) symptomau siel-syfrdandod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Sbardunau cyffredin oedd cyrchoedd awyr, ffrwydradau mewn ffatrïoedd arfau (e.e. yn Silvertown), ond hefyd mân anawsterau fel cwympo neu anafiadau yn y gwaith.
- Ni anfonwyd y mwyafrif o’r milwyr a gafodd driniaeth feddygol am drawma seicolegol yn ôl i’r llinell flaen. Casgliad y meddygon ym Mhrydain ac yn yr Almaen oedd na fyddai achosion o’r fath yn gallu gwrthsefyll straen gwasanaethu heb gael ail bwl ac felly argymhellwyd y dylid rhyddhau’r mwyafrif llethol o filwyr o’u dyletswyddau milwrol.
- Roedd therapïau seicolegol a ddatblygwyd ar gyfer symptomau siel-syfrdandod yn addawol, o leiaf yn y tymor byr. Erbyn heddiw, mae hyd at draean o’r cleifion sy’n gweld eu meddyg teulu’n cwyno am symptomau nad oes esboniad meddygol iddynt, ac mae’r syndromau ymarferol hyn – gyda llawer yn debyg i’r rhai a ddatblygwyd gan filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf – fel arfer yn gronig ac yn anodd eu trin. Dyma un o brif heriau iechyd cyhoeddus ac economaidd-gymdeithasol ein hoes.
- Mae ymatebion ôl-drawmatig yn ddibynnol ar ddiwylliant (roedd ffitiau yn fwy cyffredin ymhlith milwyr yr Almaen na milwyr Prydain); mae dibyniaeth ddiwylliannol ymatebion seicolegol i adfyd yn chwarae rhan gynyddol yn yr argyfwng dyngarol presennol.
Pan ataliwyd cyrch y Cynghreiriaid ym mis Tachwedd 1916, roedd dros 1,000,000 o filwyr y Gymanwlad, Ffrainc a’r Almaen wedi’u clwyfo, eu dal neu eu lladd. Yng nghofnodion y cleifion yn ysbytai siel-syfrdandod Llundain a Berlin yn aml fe ddes i ar draws milwyr oedd wedi dioddef trawma yn yr un frwydr – ar ddwy ochr wahanol y rheng flaen. Roedd pob un wedi gweld dioddefaint anfesuradwy, ac wedi’u creithio’n seicolegol. Roedden nhw wedi dioddef yn yr epidemig o drawma oedd ar un pwynt yn bygwth cysgodi holl broblemau meddygol eraill y rhyfel. Mae’r hanesion unigol hyn yn datgelu’r cyflwr dynol, ymatebion sylfaenol pobl i ofn a cholled sy’n codi uwchlaw pob gwahaniaeth gwleidyddol ac ideolegol.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016