Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Ai’r stumog yw man cychwyn clefyd Parkinson?

16 Rhagfyr 2016
Intestines with Gut Bacteria on Blackboard
Intestines with Gut Bacteria on Blackboard

Mae clefyd Parkinson yn gyflwr sy’n gwaethygu ac yn effeithio ar yr ymennydd. Mae’n effeithio ar 1 o bob 500 o bobl yn y DU. Mewn achos o’r clefyd hwn, mae rhai celloedd yn yr ymennydd yn marw ac mae hyn yn creu llai o gemegyn o’r enw dopamin. Mae’r clefyd hefyd yn achosi cynnydd mewn protein o’r enw alffa-synuclein yn yr ymennydd.

Mae clefyd Parkinson yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, felly mae symptomau’r clefyd yn wahanol i bawb. Fodd bynnag, mae clefyd Parkinson yn aml yn gysylltiedig â symptomau sy’n effeithio ar symudiad yr unigolyn, gan gynnwys cryndod, symudiad mwy araf a stiffrwydd (anystwythder). Gall symptomau modur y clefyd yn aml fod yn rhai amlwg. Fodd bynnag, mae clefyd Parkinson hefyd yn achosi amrywiaeth o symptomau modur gan gynnwys problemau iechyd meddwl fel iselder, gorbryder a rhithwelediadau.

Gellir defnyddio cyffuriau a therapïau i reoli’r symptomau er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl sydd wedi’u heffeithio gan y clefyd. Fodd bynnag, nid oes modd gwella’n llwyr ar ôl cael clefyd Parkinson gan mai dim ond rheoli symptomau’r clefyd y gall therapïau ei wneud ar hyn o bryd.

Mae gwyddonwyr yn ceisio deall y clefyd yn well yn y gobaith o allu trin y cleifion sydd â’r salwch yn y pen draw. Er mwyn gwneud hyn, defnyddiwyd llygod wedi’u haddasu’n enetig o’r clefyd i ateb cwestiynau gwyddonol sylfaenol. Fe ddefnyddiodd ymchwilwyr o Brifysgol Wisconsin lygod oedd wedi’u haddasu’n enetig i fod â lefelau uchel o’r protein alffa-synuclein. Tybir mai’r protein hwn sy’n achosi’r clefyd.

Roedd gan yr ymchwilwyr ddiddordeb arbennig yn y bacteria yn stumogau’r anifeiliaid a gweld a oes unrhyw gysylltiad rhyngddo â symptomau’r clefyd. Dangosodd y canlyniadau bod y llygod oedd heb facteria yn eu stumogau, sef y llygod di-haint, yn aros yn iach. Fe ddatblygodd y rhai oedd â bacteria yn eu stumogau rai o symptomau’r clefyd. Dangosodd astudiaethau pellach bod trawsblannu bacteria o bobl sydd wedi’u heffeithio gan y clefyd i mewn i lygod yn golygu bod y llygod yn datblygu rhagor o symptomau o’u cymharu â’r llygod oedd wedi cael trawsblaniad o facteria gan bobl oedd heb eu heffeithio gan y clefyd.

Mae’r ymchwil hon am lygod sydd wedi’u haddasu’n enetig yn bwysig iawn ar gyfer clefyd Parkinson. Hyd yma, roedd yn cael ei ystyried fel clefyd sy’n effeithio ar yr ymennydd yn bennaf. Fodd bynnag, mae’r astudiaeth newydd hon yn awgrymu bod bacteria’r stumog hefyd yn gysylltiedig â symptomau’r clefyd. Fodd bynnag, sut mae bacteria yn y stumog yn effeithio ar yr ymennydd? Nid yw gwyddonwyr yn siŵr o hyd, ond maent yn awgrymu y gallai hyn fod oherwydd bacteria yn y stumog sy’n rhyddhau cemegion sy’n ysgogi’r ymennydd yn ormodol. Credir bod bacteria’r stumog yn achosi i gemegion gael eu rhyddhau yn y corff sydd wedyn yn achosi i gelloedd imiwnedd achosi niwed i’r ymennydd.

Ar hyn o bryd, astudiaethau cyn-glinigol yn unig gyda llygod sydd wedi’u haddasu’n enetig yw’r ymchwil sydd wedi’i chynnal hyd yma. Felly, bydd yn bwysig gweld mewn astudiaethau eraill os gwelir canlyniadau tebyg ymysg pobl â chlefyd Parkinson. Fodd bynnag, mae’r newid hwn mewn pwyslais h.y. nad clefyd sy’n effeithio ar yr ymennydd yn unig yw hwn, yn bwysig iawn ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Gallai olygu y bydd rhagor o waith ymchwil sy’n chwilio am driniaethau ar gyfer y clefyd yn canolbwyntio ar facteria’r stumog yn ogystal â’r ymennydd.

Rhaid i ni beidio â gorddehongli canlyniadau’r astudiaeth hon gan fod angen cadarnhau’r canfyddiadau gyda phobl. Fodd bynnag, mae hyn yn hynod gyffrous i gymuned clefyd Parkinson ac mae’n creu cyfle i ddeall y cyflwr yn well yn y gobaith o ganfod gwellhad ar ei gyfer.