Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Profiad myfyriwr israddedig o ymchwil iechyd meddwl

9 Tachwedd 2016

Mae Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP) yn cynnig lleoliadau dros yr haf i israddedigion Prifysgol Caerdydd yn amgylchedd ymchwil y Brifysgol. Mae CUROP yn cynnig taliad i helpu myfyrwyr sydd ar leoliad am hyd at wyth wythnos, gan weithio o dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil sydd wedi’u diffinio gan y staff. Caiff ei ystyried yn un o’r cynlluniau ymchwil mwyaf i raddedigion yn y DU.

Yn y blog hwn, cawn hanes Chloe Sheldon a gymerodd ran yn un o brosiectau CUROP yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg, a Dr Samuel Chawner, ei Goruchwyliwr CUROP.

Chloe Sheldon

Rydw i’n fyfyriwr Niwrowyddoniaeth ar ddechrau fy mhedwaredd flwyddyn yn y Brifysgol, ac mae diddordeb gen i mewn iechyd meddwl a geneteg. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i ymgymryd â fy mhrosiect ymchwil fy hun dros yr haf drwy gymorth ariannol drwy CUROP. Roedd yn gyfle gwych i ystyried a hoffwn i ddilyn gyrfa mewn ymchwil ar ôl ymadael â’r Brifysgol.

Mae Astudiaeth ECHO, Profiadau Plant ag Amrywiadau Rhifau Copi (http://medicine.cardiff.ac.uk/psychological-medicine-neuroscience/areas-research/copy-number-variant-research/research-projects/), dan arweiniad yr Athro Marianne van den Bree, yn ymchwilio i symptomau plant gyda Syndrom Dileu 22q11.2 (22q11.2 DS). Achosir y syndrom hwn o ganlyniad i ddilëad genetig ym mraich hir cromosom 22 yn rhanbarth 11.2. 22q11.2 DS yw’r syndrom microddilëad mwyaf cyffredin ac mae’n effeithio ar tua un o bob 4,000 o enedigaethau byw.

Gall yr unigolion hyn ddangos ystod eang o symptomau ac maent yn debygol o ddatblygu nifer o anhwylderau iechyd meddwl gan gynnwys ADHD, gorbryder a sgitsoffrenia. Mae difrifoldeb y symptomau yn amrywio o nodweddion ysgafn ymhlith rhai unigolion, i fygwth bywydau ymhlith pobl eraill. O ganlyniad i ystod eang a difrifoldeb y symptomau, roeddwn i’n awyddus i weld ai canlyniad maint y dilëad ymysg unigolion â 22q11.2 DS sydd i’w gyfrif am yr ystod. Gall 22q11.2 DS naill ai gynrychioli ei hun fel dilëad pâr sylfaen 3 miliwn (Mb) neu fwy o faint, neu ddilëad llai o 1.5 Mb. Mae tua 90% o’r unigolion â 22q11.2 DS yn dangos y dilëad 3 Mb, tra bod y 10% arall yn dangos y dilëad 1.5 Mb.

Cyn i mi ddechrau fy mhrosiect, fe wnes i ddamcaniaeth y byddai’r unigolion â’r dilëad mwyaf yn dangos symptomau mwy difrifol na’r rhai â’r dilëad llai.

I gasglu’r data, fe ymwelais â chartrefi plant oedd â 22q11.2 DS. Tra bod ymchwilydd yn cynnal cyfweliad seiciatrig gydag o leiaf un rhiant/gofalwr, fe gwblheais brofion niwrowybyddol gyda’r plentyn. Gan amlaf, roedd y rhain yn arwain at liwio lluniau neu chwarae gemau cyfrifiadur! Wedi hynny, casglwyd sampl biolegol (gwaed/poer) gennym er mwyn cofnodi’r genoteip.

Roedd canlyniadau fy astudiaeth yn debyg iawn i’r hyn a gynigiwyd mewn gwaith blaenorol (Carlson et al, 1997; Weksberg et al, 2007). O safbwynt gwybyddiaeth a seiciatreg prin iawn oedd y gwahaniaeth rhwng y rhai oedd â’r dilëad 1.5 Mb, a’r rhai oedd â’r dilëad 3 Mb. Gallai hyn awgrymu mai’r genynnau yn y dilëad 1.5Mb sy’n sbarduno ffenoteip seiciatrig 22q11.2 DS. Fodd bynnag, roedd maint y sampl a phŵer ystadegol fy nadansoddiad yn isel. Serch hynny, gall fy mhrosiect fod yn astudiaeth beilot ar gyfer astudiaethau posibl yn y dyfodol a allai recriwtio pobl i gymryd rhan dros gyfnod hwy.

chloe-sheldon-quote-welsh

Heb os nac oni bai, mae fy niddordebau mewn iechyd meddwl a’r ymchwil sy’n gysylltiedig â’r maes wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydw o’r farn bod prosiect CUROP yn hanfodol i israddedigion sy’n chwilfrydig ac am gael gwybod rhagor am ymchwil.

Samuel Chawner

Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chloe dros yr haf. Mae CUROP yn gynllun gwych sy’n cysylltu ymchwilwyr yn y Brifysgol ag israddedigion brwdfrydig sy’n awyddus i gael profiad o ymchwil.

Rydw i’n Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygiad plant sydd â risg genomig o ddatblygu anhwylder seiciatrig. Fe gynhaliais fy PhD ar 22q11.2 DS, felly roedd yn wych cael y cyfle i rannu fy ngwybodaeth â myfyriwr newydd. Nid yw’r cyhoedd yn gwybod rhyw lawer am 22q11.2 DS eto, er ei fod yn un o’r syndromau genetig mwyaf cyffredin ar ôl Syndrom Down. Rydw i’n meddwl ei bod yn bwysig i’r myfyrwyr ddysgu am 22q11.2 DS yn gynnar yn eu gyrfaoedd ymchwil fiofeddygol. 22q11.2 DS yw un o’r ffactorau risg mwyaf sy’n hysbys o ran datblygu sgitsoffrenia. Mae’r ymchwil yn y maes hwn yn cynnig cyfle prin i ddeall yr hyn sy’n achosi datblygiad sylfaenol sgitsoffrenia.

dr-samuel-chawner-quote-welsh

Mae’r tîm bob amser yn awyddus i glywed gan fyfyrwyr brwdfrydig sydd am gael profiad o ymchwil. Cysylltwch â Samuel i gael rhagor o wybodaeth.