Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Sgitsoffrenia a pharadocsau mewnwelediad

27 Hydref 2016

Pan feddyliwn am symptomau sgitsoffrenia, mae’n bosibl mai’r enghreifftiau cyntaf sy’n dod i’r meddwl yw meddyliau anhrefnus, amheuon annymunol a lleisiau anweledig sy’n poenydio’r dioddefwr. Dyma, yn wir, yw arwyddion mwyaf trawiadol seicosis acíwt – rhithdybiau, rhithweledigaethau ac anhwylder meddwl – ond fel yr ysgrifennais i rai misoedd yn ôl, nid yw’r symptomau hyn yn gyfyngedig i sgitsoffrenia a gallant ddigwydd (er mewn ffyrdd llai llym) mewn pobl iach.

Yn groes i’r gred boblogaidd, nid y ‘symptomau cadarnhaol’ hyn (‘cadarnhaol’ yn yr ystyr ‘ychwanegol’ i brofiadau arferol) yw’r digwyddiadau mwyaf cyffredin mewn anhwylder sgitsoffrenig. Y symptom mwyaf cyffredin mewn gwirionedd yw diffyg ymwybyddiaeth o afrealrwydd eu seicosis: mewn termau meddygol, ‘diffyg mewnwelediad’ y credir iddo ddigwydd mewn 97% o gleifion o’i gymharu â 74% am rithweledigaethau clybodol a 70% am syniadau o gyfeiriad.

Mae esboniadau am y diffyg mewnwelediad hwn yn amrywio o ddulliau i amddiffyn ego i annormaleddau yn y strwythurau llinell ganol cortigol (grŵp o rannau o’r ymennydd yr ystyrir eu bod yn allweddol i wahaniaethu’r hunan ac eraill); beth bynnag, derbynnir yn eang bod diffyg mewnwelediad yn cyfrannu’n sylweddol at beidio â chadw at driniaeth ac ambell waith at ail bwl, am y rheswm syml nad yw llawer o gleifion yn credu nad yw eu profiadau’n real ac yn symptomau o salwch meddwl.

O safbwynt y cleifion, mae’r symptomau hyn yn creu eu realiti eu hunain er bod realiti o’r fath yn aml yn frawychus iawn ac yn ddieisiau. Serch hynny ni ellir gwadu nad oes sail ffeithiol i’r symptomau hyn mewn realiti allanol. Felly ceir paradox parhaol: pa un o’r ddau realiti hyn fydd y claf yn ei fabwysiadu?

welsh-clara-humpston-on-schizophrenia

A yw realiti’n ddim mwy na mynegiant o’n synhwyrau a’n credoau? Os felly, pwy ydym ni i benderfynu bod cleifion sydd â sgitsoffrenia wedi dioddef ‘toriad oddi wrth realiti’? Mae hwn wrth gwrs yn gwestiwn athronyddol iawn, ag iddo wreiddiau niwrowyddonol a chymdeithasol.

Nid oes rhaid i realiti sgitsoffrenig gael ei ‘fabwysiadu’ hyd yn oed – gall fynd i mewn i ymwybyddiaeth rhywun ac ennill ei blwyf fel yr unig safbwynt o ble gall yr unigolyn brofi’r byd. Gydag arwyddocâd, perthnasedd ac ystyr yn treiddio iddo, mae’r claf yn methu ag ymgymryd â safbwynt arall. Mae manylder rhithdybiol yn ‘cyd-fynd’ yn dda gyda strwythur eu hymwybyddiaeth ac yn teimlo’n ‘iawn’. Yma, mae paradocs arall i’w weld: mae mabwysiadu realiti ‘ffug’ yn awgrymu gweithred o ewyllys, ond er mwyn gwneud hynny rhaid i’r unigolyn ildio’r un ewyllys.

I gael dealltwriaeth integredig o’r byd, rhaid i’r unigolyn feddu ar graidd o ymwybyddiaeth nad yw wedi’i aflonyddu. Mae symptomau sgitsoffrenia’n effeithiol iawn yn dinistrio’r ymdeimlad sylfaenol hwn o’r hunan, y mae’r unigolyn yn adeiladu hunaniaeth a naratifau personol arno. Heb yr haen finimal hon o’r hunan, ni ddylai fod yn syndod y bydd yr unigolyn yn methu â gwahaniaethu rhwng y myrdd o fydoedd mewnol ac allanol. Dyna pam rwyf i’n ystyried bod sgitsoffrenia yn sylfaenol yn anhwylder yr hunan.

A chymryd bod yr aflonyddiad yn gorwedd yn y lefel fwyaf sylfaenol o’r hunan, mae’r paradocsau mae sgitsoffrenia yn eu creu yn gallu parhau heb ddatrysiadau. Dyw mewnwelediad ei hun hyd yn oed ddim ond yn baradocs arall nad oes modd ei ddatrys: mae’r ymdrechion taer i gadw ‘pwyll’ yn gwthio’r unigolyn i ddyfnderoedd ymwybyddiaeth.

Yn wir, pe bai unigolyn heb ymwybyddiaeth o gwbl, ni fyddai’n profi poen na dioddefaint chwaith. Mewn geiriau eraill, mae cleifion sydd â sgitsoffrenia’n dioddef yn enbyd nid am eu bod bob tro’n anymwybodol o realiti bob dydd, ond am eu bod yn rhy ymwybodol o fath arall o realiti – sef y realiti a grëir gan eu meddyliau eu hunain.

Os oes unrhyw beth mae’r claf sydd â sgitsoffrenia’n wirioneddol anymwybodol ohono, ei hunaniaeth ei hun fydd hynny, ac nid y realiti  ‘rhesymol’ ffeithiol. Gall fod yn ddadleuol, ond mae dweud bod diffyg mewnwelediad yn arwydd o golli cyswllt â realiti fel dweud bod unigolyn lliwddall yn methu â gweld unrhyw beth o gwbl. Mae sgitsoffrenia fel bod yn lliwddall yn y ffordd hon; mae’n llygru ac yn ystumio popeth mae’r unigolyn yn ei weld ond nid yw’n achosi iddo golli ei olwg yn llwyr.

Dyma syniad brawychus: a fyddai’r byd yn wirioneddol ddu a gwyn pe bai pawb yn mynd yn lliwddall ar yr un pryd? Mae llawer yn credu mai’r ateb i hyn yw na fyddai, oherwydd does bosib y byddai pobl yn dal i gofio gweld lliwiau. Ond gellid dadlau hefyd bod cofio yn ddigwyddiad meddyliol, felly yn ‘realiti’ sy’n bodoli yn ein meddyliau. Sut mae hyn yn wahanol i realiti sgitsoffrenig?

welsh-clara-humpston-on-schizophrenia-as-illness

Efallai fod yr anghysondeb yn yr holl wahanol fathau o ‘realiti’ yn un o gyfradd yn hytrach na natur, a dim ond os ydym ni’n gwyro gormod o’r consensws fyddwn ni’n croesi llinell ‘normalrwydd’. Ond ni ddylai hyn wneud rhywun yn ‘sâl’ os nad oes gofid neu amharu ar weithrediad. Beth yw normalrwydd heb ben arall y sbectrwm? Mae paradocs realiti yn un sy’n peri trafferth i ni i gyd, ac nid yn un a wynebir gan gleifion sydd â sgitsoffrenia yn unig.