Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Ydy cymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd yn niweidio’r plentyn? Dyma’r ffeithiau

24 Hydref 2016

Pan ddaw i gymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd, mae gan fenywod a meddygon benderfyniad anodd i’w wneud. Mae iselder yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn genedigaeth (y cyfnod ôl-enedigol) yn gyffredin ac mae canlyniadau difrifol yn bosibl. Hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth mamau yn y DU.

Fodd bynnag, mae nifer o astudiaethau dros y deng mlynedd diwethaf wedi sôn am broblemau sy’n gysylltiedig â chymryd cyffuriau gwrth-iselder yn ystod beichiogrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys effeithiau ar y beichiogrwydd, megis geni cynnar a phwysau geni is; cyfraddau uwch o gamffurfiadau, megis problemau gyda’r galon yn y baban; a mwy o risg o awtistiaeth ymysg plant. Mae papur a gyhoeddwyd yn JAMA yn ychwanegu at y dystiolaeth. Canfu fod amlygiad i gyffuriau gwrth-iselder yn y groth yn gysylltiedig â risg gynyddol gymedrol o anhwylderau iaith a lleferydd.

Yn seiliedig ar y mathau o benawdau papur newydd sydd fel arfer yn ategu’r adroddiadau hyn, mae’n debygol y bydd menywod beichiog a’u partneriaid yn bryderus iawn. Ond anodd yw dehongli’r astudiaethau cymhleth hyn. Felly, beth ydym yn ei wybod, a sut dylai menywod, eu partneriaid a’u meddygon ymateb?

Y pwynt pwysig cyntaf yw na ddylai menywod gymryd meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd oni bai ei bod o fudd. I fenyw sy’n cymryd cyffur gwrth-iselder ac sy’n ystyried dechrau teulu, neu sy’n darganfod ei bod yn feichiog, dyma amser da iawn i ystyried a oes angen y cyffuriau arni o hyd.

Mae’n bwysig ystyried yr holl opsiynau o ran triniaeth, ac nid cyffuriau yn unig. Gall triniaethau, yn enwedig ar gyfer iselder ysgafn i gymedrol, fod yn well opsiwn i rai menywod. Yn anffodus, mae cael gafael ar therapïau seicolegol yn parhau i fod yn dalcen caled mewn llawer o ardaloedd.

Mae gan yr astudiaethau broblemau

Er bod nifer o astudiaethau nawr yn sôn am broblemau, nid yw achos y berthynas hon yn glir o hyd. Mae’n bosibl mai’r cyffuriau gwrth-iselder sydd i’w cyfrif am y problemau, ond gallant hefyd fod o ganlyniad i effeithiau’r anhwylder hwyliau y mae’r cyffuriau wedi’u rhagnodi ar eu cyfer.

Mewn nifer o astudiaethau, roedd symptomau iselder yn ystod beichiogrwydd na chawsant eu trin â chyffuriau iselder hefyd yn gysylltiedig â’r un problemau. Hyd yn oed os bydd y risg yn uwch ar gyfer y rhai ar gyffuriau gwrth-iselder, fel yn yr astudiaeth gyfredol, mae’n bosibl ei fod yn adlewyrchu difrifoldeb cynyddol iselder ymysg y menywod sy’n cymryd cyffuriau gwrth-iselder.

Gall ffactorau eraill hefyd sydd i’w gweld yn fwy cyffredin mewn menywod sydd wedi’u rhagnodi â chyffuriau gwrth-iselder gyfrif am y risg uwch, megis diet, defnyddio alcohol a chyffuriau, a gordewdra. Ni all lawer o astudiaethau ystyried y rhain gan nad yw’r data ar gael yn aml. Ond yn galonogol, o bosibl, mae’r risg o gymryd y tabledi yn lleihau yn ôl pob golwg os oes mwy a mwy o astudiaethau’n rhoi sylw i’r ffactorau hyn.

Weithiau tabledi yw’r opsiwn orau

Mae’n bwysig rhoi’r risg uwch mewn persbectif. Er ei fod yn dal yn anodd gwybod yn bendant ai cyffuriau atal iselder sy’n achosi niwed i’r fam a’r plentyn, mae’r rhan fwyaf o astudiaethau’n awgrymu cynnydd bychan i gymedrol mewn risg.

Gall achosion o iselder amrywio o ysgafn a dros dro, i ddifrifol a pharhaus. Gall nifer o ddulliau triniaeth helpu menywod beichiog ag iselder, sy’n amrywio o well cymorth ac ymyriadau seicolegol a chymdeithasol i driniaeth gyda chyffuriau gwrth-iselder. Mae Sefydliad Gwladol y DU dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn argymell triniaeth gwrth-iselder i bobl ag achosion cymedrol i ddifrifol o iselder. I rai menywod ag iselder mor ddifrifol, neu sydd â hanes o salwch meddwl difrifol, efallai mai cymryd meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd yw’r dewis gorau.

Mae’r penderfyniad i gymryd meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd bob amser yn anodd. Mae lle i gyffuriau gwrth-iselder yn sicr. Nid yn unig mae hunanladdiad yn risg, ond os bydd menyw yn cael achos o iselder, gallai gael goblygiadau difrifol i’r fam, y baban a’r teulu cyfan. Gallai fod risgiau wrth gymryd cyffuriau gwrth-iselder, fel gyda chyffuriau eraill, ond mae risgiau sylweddol o beidio â chael triniaeth hefyd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.