Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Siarad yng Ngŵyl y Gelli

6 Gorffennaf 2018

Rwyf wrth fy modd yn dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gyfathrebu gwyddoniaeth i’r cyhoedd yn gyffredinol, ac rydw i wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau ymgysylltu yn y gorffennol. Fodd bynnag, roedd cael y cyfle i siarad yng Ngŵyl y Gelli’n wahanol i unrhyw weithgaredd ymgysylltu yr ydw i erioed wedi cymryd rhan ynddo o’r blaen.

Rwy’n awyddus i fanteisio ar unrhyw gyfle i amlygu fy ymchwil i glefyd Huntington’s a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o’r cyflwr ymennydd prin hwn. Roedd fy sgwrs yng Ngŵyl y Gelli yn rhan o gyfres darlithoedd Prifysgol Caerdydd. Roeddwn i yn cynrychioli Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, tra bod y pynciau trafod eraill yn cynnwys Donald Trump, seibr-ddiogelwch a mellt. Roedd yn wych gweld cymaint o amrywiaeth mewn gwaith ymchwil academaidd yn cael ei amlygu.

Ar ôl cael gwybod fy mod wedi cael fy newis, fe wnes i gwrdd â’r Tîm Ymgysylltu i drafod ambell syniad posibl ar gyfer yr hyn a allai fod o ddiddordeb i gynulleidfa Gŵyl y Gelli. Yn hytrach na rhoi sgwrs draddodiadol, roedd yn bwysig iawn i mi roi sgwrs oedd yn cynnwys y gynulleidfa. Felly, ar ôl cryn dipyn o baent chwistrellu, bocsys esgidiau (fe wna’i sôn am y ar y rhain yn nes ymlaen) ac ymarfer fy sgwrs sawl gwaith, roeddwn yn barod i fynd amdani.

Cafodd crynodeb o fy sgwrs ei roi ar wefan Gŵyl y Gelli, ac aeth y tocynnau ar werth. Roedd fy eitem i ar ddydd Iau olaf Gŵyl y Gelli am 10am ar Lwyfan Baillie Gifford. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn wedi bod i Ŵyl y Gelli o’r blaen, felly roedd yr holl brofiad yn fy nghyffroi yn fawr. Cyrhaeddais yn y bore i roi fy sgwrs ac fe’m croesawyd gan rai o wirfoddolwyr hyfryd yr Ŵyl, wnaeth fy helpu i gario fy holl bropiau a’m tywys i’r llwyfan lle byddwn yn siarad. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli fod yr Ŵyl gyfan yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr a bod yr awyrgylch y mae hynny’n ei hyrwyddo yn gwbl wych. Ar nodyn arall, diolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr, ni fyddai’r Ŵyl yn bosibl – ac ni fyddai’r hyn ydyw – hebddoch chi, mae pob un ohonoch yn anhygoel!

Ar ôl misoedd o baratoi, roedd amser cyflwyno fy sgwrs yn prysur agosáu. Erbyn hyn, roeddwn yn llawn nerfau a chynnwrf i’r un graddau. Cefais fy mriffio’n gyflym gan y tîm, cyn i’r stiwardiaid agor y drysau a chymerodd y gynulleidfa eu seddi. Cefais feicroffon radio ac roeddwn yn barod i fynd ar y llwyfan.

Yn dilyn cyflwyniad byr, fe es i ar y llwyfan. Wrth i mi ddechrau siarad, roeddwn yn gallu gweld wynebau cysurlon o gyfarwydd ymhlith y gynulleidfa gan gynnwys fy Mam, wrth gwrs, yn y rhes flaen! Mewn chwinciad, roeddwn wedi bwrw ati ac yn esbonio hanes clefyd Huntington’s. Fel y soniais yn gynharach, roedd yn bwysig iawn i mi bod fy sgwrs yn rhyngweithio â’r gynulleidfa ac yn eu hannog i gymryd rhan. Roeddwn yn ymwybodol bod fy sgwrs yn cael ei chynnal yn ystod hanner tymor, ac roeddwn am i blant gymryd rhan yn enwedig, yn elfennau rhyngweithiol fy sgwrs.

Er mwyn galluogi’r gynulleidfa i ddeall pwysigrwydd y côd geneteg sy’n achosi clefyd Huntington’s, fe wnes i wahodd dau blentyn oedd yn barod i ymuno â mi ar y llwyfan. Dyma’r rhan oedd yn cynnwys y paent chwistrellu a’r bocsys esgidiau. Fe wnes i drawsnewid fy ngwirfoddolwyr yn asid diocsiriboniwclëig (DNA), y côd geneteg sy’n bwysig yng nghlefyd Huntington. Rwy’n gobeithio bod defnyddio’r gynrychiolaeth weledol yma o’r geneteg y tu ôl i’r clefyd wedi peri i’r cysyniad lynu ym meddwl y gynulleidfa.

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio’n benodol ar p’un a allwn, o bosibl, ddefnyddio gemau cyfrifiadurol i ‘hyfforddi’r ymennydd’ a helpu pobl sy’n byw gydag afiechyd Huntigton. Rhoddais gyfle i’r gynulleidfa gael tro ar rai o’r gemau hynny, er mwyn hyfforddi eu hymennydd eu hunain. Aeth hynny i lawr yn dda yn ôl pob golwg, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld bod y gynulleidfa’n barod i gymryd rhan, o ystyried ein bod dechrau’n gynnar!

Fe wnes i drafod y goblygiadau moesegol sy’n gysylltiedig â phrofi genetig. Mae clefyd Huntington yn hynod unigryw, am mai un genyn sy’n ei achosi. Yn anffodus, o ganlyniad, mae hanner cant y cant o debygolrwydd y byddwch yn trosglwyddo’r genyn sy’n achosi’r clefyd, i’ch plant. Gall y prawf genetig ar gyfer y clefyd gynnig sicrwydd bod y genyn yno – neu beidio – ond ni all ddangos sut na phryd y bydd y symptomau’n dechrau. Gorffennais fy sgwrs drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau astudiaeth ddiweddar am gyffuriau oedd yn treialu cyffur ar gyfer trin clefyd Huntington am y tro cyntaf. Cafwyd canlyniadau cadarnhaol o’r astudiaeth ac mae’r cyffur bellach cael ei archwilio ymhellach i weld a all fod yn fuddiol.

Felly, ar ôl deugain munud anhygoel, daeth fy sgwrs i ben a chafodd pobl y cyfle i ofyn cwestiynau. Roedd cael llawer o gwestiynau gan y gynulleidfa yn rhyddhad mawr. Roedd testunau’r cwestiynau a’r trafodaethau cysylltiedig yn amrywio o hanesion am brofiadau personol, i fynediad at gyffuriau, a thrafodaethau ynghylch treialon clinigol. Ar ôl mynd i’r afael â phob cwestiwn, daeth fy amser ar y llwyfan i ben. Roedd yn dda gennyf weld bod llawer o bobl wedi aros o gwmpas i siarad ymhellach â mi ar ôl fy sgwrs, a chefais ganmoliaethau caredig gan lawer o’r stiwardiaid am fy sgwrs, a’m gallu i ateb cwestiynau.

Rhaid imi gyfaddef mod i’n teimlo’n drist pan oedd y cyfan drosodd! Fodd bynnag, roeddwn yn rhydd i fynd i fwynhau gweddill rhaglen Gŵyl y Gelli. Gwelais yr Arglwydd Athro Syr Robert Winston yn siarad am wyddoniaeth a phwysigrwydd annog pob plentyn i fynd ar drywydd gwyddoniaeth, ac fe wnes i gwrdd â Dara O’Brien a Ruth Jones hefyd.

Roedd siarad yng Ngŵyl y Gelli yn gyfle ardderchog a byddwn yn sicr yn ei argymell i unrhyw un. Diolch unwaith eto i’r tîm Ymgysylltu a roddodd gymorth, cyngor ac arweiniad i mi a’r siaradwyr eraill. Roedd yn brofiad gwirioneddol wefreiddiol y byddaf yn ei gofio am byth. Os cewch y cyfle i fynd yno fel siaradwr neu gyflwynydd yn yr ŵyl, dylech fachu ar y cyfle heb os nac oni bai!