Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Fy amser gyda Chanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), Prifysgol Caerdydd

1 Awst 2018

Pan welais y cyhoeddiadau ar gyfer y 9fed Ysgol Haf flynyddol ar anhwylderau’r ymennydd, wedi’i threfnu gan Ganolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yng Nghaerdydd, roeddwn yn gwybod y byddai’n rhaid i mi wneud cais. Roedd fy niwro-nerd mewnol uwchben ei ddigon pan welais yr hyn oedd ar gynnig. Er y gallaf weld y bydd geneteg yn gadarn wrth wraidd dyfodol meddyginiaeth bersonol, mae wedi bod yn fan gwan personol i mi.

Ers i mi gysylltu â’r trefnwyr am y tro cyntaf, ddangoson nhw ddim byd ond agwedd agored, cyfeillgarwch a pharodrwydd i gydweithredu. Roeddynt yn wên o glust i glust wrth ein croesawu i Adeilad Hadyn Ellis.

Fe wnaeth y cyfle – a grëwyd drwy garedigrwydd yr Athro George Kirov – alluogi 40 o fyfyrwyr i gael golwg ar y Brifysgol a’i labordai yn ogystal â dod i adnabod y bobl sy’n gweithio yno. Dechreuodd y cyfarfod gyda chyflwyniadau ysgafn i fyd niwrowyddoniaeth a niwroddelweddu. Fe siaradodd yr Athro Mike Owen, yr Athro Jeremy Hall a Dr Caseras am y sefyllfa sydd ohoni, a beth allai ddigwydd yn y dyfodol.

Yn nes ymlaen yn y prynhawn, fe gyflwynodd yr Athro Williams a Dr Rees fethodoleg geneteg modern drwy gyfrwng geirfa syml. Drwy gyfrwng teithiau o amgylch y labordai gyda Dr Evans a Dr Vinh, cawsom weld agweddau ymarferol ar wybodaeth oedd newydd ei chaffael. Yn ogystal, fe wnaethant gyflwyno ymchwil gyfredol ac esbonio’r potensial mewn peiriannau fel cynorthwywyr bach awtomatig.

Agweddau clinigol ar niwrowyddoniaeth gafodd y prif sylw yn ystod yr ail ddiwrnod. Cawsom ein cyflwyno drwy gyfrwng araith Dr Collishaw i broblemau seiciatrig plant, ac aeth yr Athro George ati’n syth wedi hynny i roi esboniad perffaith o bwysigrwydd amrywiolion yn nifer y copïau mewn anhwylderau niwroddatblygiadol.

Ar ôl cael hwb caffein cyflym, cawsom gyflwyniad angerddol gan yr Athro Linford-Hughes am sut beth yw bod yn gaeth i rywbeth – sut mae’n datblygu, yn ogystal â dulliau ar gyfer goroesi’r broblem. Yn y prynhawn, bu’r Athro Jones yn siarad â ni am anhwylder deubegynol yn ystod beichiogrwydd, a’r rhwydwaith ymchwil sydd wedi datblygu o’i amgylch.

I gloi, dangosodd Dr Peall enghreifftiau clinigol i ni o anhwylderau symudedd yn ogystal ag enghreifftiau o sut y gallai geneteg wella rhesymeg ddiagnostig, ac fe amlygodd Dr Walters bwysigrwydd data mawr, a rôl astudiaethau cysylltiad genom-gyfan (GWAS) mewn gwaith ymchwil cyfredol.

Cysylltiadau oedd y thema fore Mercher: Aeth yr Athro Wilkinson ati i gyplu niwrowyddoniaeth ac ystadegau. Disgrifiodd Dr Thomas sut y defnyddir meddyginiaeth drachywir mewn epilepsi yn ogystal â phwysigrwydd genynnau, a dangosodd yr Athro Harwood fywyd bôn-gelloedd a sut maent yn cael eu defnyddio.

Yn union ar ôl hynny, aethom ar daith o gwmpas y labordy gydag ymgeiswyr PhD angerddol, a ddisgrifiodd bob cam o feithrin, gwahaniaethu ac aeddfedu bôn-gelloedd i ni. Roeddem yn geg-agored wrth ddod i wybod am eu hymchwil ac o weld y delweddau. Ar ôl cinio, disgrifiodd Dr Isles epigeneteg yn ymennydd poblogaethau ledled y byd i ni, a chawsom y wybodaeth ddiweddaraf gan Dr Massey am gefndir clefyd Huntington’s, yn ogystal â’r therapïau mwyaf newydd ar ei gyfer.

Yn y prynhawn, cawsom ein rhannu’n grwpiau meddygol ac anfeddygol, a chawsom gyngor academaidd pwrpasol gan Dr Judith Harrison a Dr Kristina Harrison. Rydym yn dal i uniaethu â’u brwdfrydedd a’u cyngor cadarn, y byddwn yn eu defnyddio at ddibenion ein datblygiad proffesiynol yn y dyfodol agos.

Yn ogystal, cawsom weld CUBRIC – labordy niwroddelweddu â’i brif ffocws ar gysur cleifion, o dan arweiniad Dr Murphy. Roedd yr ystafell dreial MRI, y 7-Tesla MRI a’r peiriannau MEG – a ddefnyddir wrth ymchwilio i afiechyd gwaedlestri bychain, dylanwad pwysau prifwythiennol ar yr ymennydd, a llawer mwy – wedi creu argraff arnom. Daeth y diwrnod dwys i ben gyda bwyd hyfryd a thrafodaethau maith yn y Cosy Club yng nghanol y ddinas.

Cyrhaeddodd y diwrnod olaf lawer yn rhy gynnar! Dechreuodd gyda thrafodaethau dwys am broblemau moesegol sy’n gysylltiedig â geneteg, wedi’u cymedroli’n dwt gan Dr Cuthbert. Buom wrthi’n adlewyrchu ar ein safbwyntiau, a chawsom her ganddo i holi ein hunain pam ein bod yn credu mewn patrwm penodol. Yn dilyn hynny, aeth Dr Zaben yn ei flaen ar bwnc bôn-gelloedd ac esbonio eu defnydd penodol ar gyfer adfer swyddogaeth wybyddol mewn cleifion sy’n dioddef o epilepsi.

Roedd y ddarlith olaf a roddwyd gan yr Athro Mike Owen ynghylch ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ein hysgogi i aros yma’n hirach, ac archwilio’r ymennydd ymhellach ochr yn ochr, gan weithio gyda’n gilydd. Cawsom ein hysbrydoli cymaint gan hynny! Aeth ein hymwybyddiaeth am eneteg drwy’r to! Gwnaethom gydnabod pwysigrwydd ei defnydd mewn ymchwil niwrowyddonol, ac roeddem wrth ein boddau â’r syniadau newydd o ran cymhwyso.

Diolch i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd am rannu eich angerdd, ysbrydoliaeth, pob sgwrs a chysonyn, bach neu fawr, a’ch gwên groesawgar!