Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Ysgol haf mewn ymchwil anhwylderau’r ymennydd

3 Awst 2018

Rwy’n fyfyriwr ail flwyddyn PhD mewn Niwrowyddoniaeth a Niwrodechnolegau yn Athrofa Dechnoleg yr Eidal yng Ngenoa (yr Eidal).

Cyflwynais gais i’r ysgol haf gan fod fy ngwaith ymchwil yn seiliedig ar anhwylderau’r ymennydd, felly roeddwn yn awyddus i ddilyn cwrs am glefydau niwroseiciatrig. Yn benodol, roedd hyn yn ddiddorol iawn i fi, gan fod y gwersi yn canolbwyntio ar wahanol batholegau, a fyddai’n cynyddu fy ngwybodaeth yn y maes hwn.

Am y rheswm hwn, roeddwn yn hapus iawn i gael cyfle i gymryd rhan yn y cwrs gwych hwn. Cyn gynted ag y cyrhaeddais, cefais fy synnu gan harddwch y ganolfan a’r awyrgylch ynddi. Dw i wedi darganfod lle arbennig gyda phobl hyfryd, ac felly roeddwn i eisoes yn frwdfrydig iawn, cyn dechrau hyd yn oed.

Yn yr ysgol haf hon, roedden ni’n ymdrin â gwahanol bynciau, er mwyn cael safbwynt ehangach ar y gwahanol glefydau niwroseiciatrig, ac yn rhoi cynnig ar y technegau a ddefnyddir ar gyfer astudiaethau megis dilyniannu a niwroddelweddu. Yn ogystal â chyflwyniadau ac esboniadau ym maes niwroseiciatreg, cawsom gyfle i ymweld â labordai amrywiol, er mwyn deall sut mae’r offer cynhyrchu diweddaraf yn cael eu defnyddio, er enghraifft MAGNETOM, sef system delweddu cyseiniant magnetig (MRI). Roedd y labordai yn hardd iawn ac yn eang.

Ar y diwrnod cyntaf yn benodol, canolbwyntiom ar ddilyniannu a niwroddelweddu, gan gwblhau gwersi diddorol iawn, a chawsom ein rhannu’n grwpiau bach i ymweld â’r labordai. Fodd bynnag, ar yr ail ddiwrnod aethom i’r afael â phynciau amrywiol, gan gynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol, anhwylderau deubegynol, anhwylderau symud, niwroddelweddu ym maes camddefnyddio cyffuriau a chysylltiadau genom cyfan (GWAS). Mae’r gwersi hyn wedi bod yn adeiladol iawn ac maen nhw wedi ehangu fy syniadau ar y pynciau hyn. Ar y trydydd diwrnod, ymdriniwyd â phynciau megis epigeneteg a chawsom daith i weld technegau niwroddelweddu. Roedd y daith yn gyffrous iawn. Ar y diwrnod olaf, fodd bynnag, canolbwyntiom ar agweddau moesegol gwaith ymchwil ac agweddau eraill ar eneteg clefydau niwroseiciatrig. Yna, cafwyd ffarwel.

Felly, gallaf ddweud bod y profiad hwn yng Nghanolfan MRC Prifysgol Caerdydd yn wirioneddol wych. Cefais gyfle i gwrdd ag athrawon gwych, sydd wedi fy ysbrydoli a symbylu fy syniadau a’m creadigrwydd. Yn ogystal â hyn, yn y cwrs hwn cefais gyfle i ryngweithio â myfyrwyr o’r byd meddygol a meysydd gwyddonol eraill er mwyn ehangu fy ngorwelion ac agor fy meddwl i’r gwahanol ddulliau o drin ac astudio clefydau. Roedd y trefniadau yn rhagorol, diolch i Catrin Hopkins a’r Athro George Kirov. Dyma leoliad ysgogol a llawen, lle’r oeddwn yn cymryd rhan ac yn cael fy nghyfoethogi.

Byddaf bob amser yn cofio’r dyddiau hyn yng Nghaerdydd a byddant yn ysgogiad pwysig ar gyfer fy ngyrfa. Rwyf yn sicr yn argymell yr ysgol hon, ac rwy’n ei hystyried ymhlith y goreuon. Diolch i bawb am roi profiadau hyfryd i mi, a’r cyfle i gael y profiad bythgofiadwy hwn.