Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Gwyddoniaeth fyd-eang yn dod ynghyd – Cyfarfod Enillwyr Gwobrau Nobel Lindau 2018

14 Awst 2018

“Does dim gwyddoniaeth genedlaethol, yn union yr un modd â does tabl lluosi cenedlaethol – nid gwyddoniaeth yw’r hyn sy’n genedlaethol, mwyach” – Anton Chekhov (1860-1904)

Bob blwyddyn ers 1951, mae Enillwyr Gwobrau Nobel ac ymchwilwyr dethol ar ddechrau eu gyrfa – wedi’u henwebu gan eu prifysgolion ac â llythyron o gefnogaeth i gyd-fynd â hynny – wedi cwrdd yn nhref fach Lindau yn yr Almaen, i gyfnewid gwybodaeth, syniadau a phrofiad. Eleni, roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn eu plith.

Roedd gwyddoniaeth fyd-eang yn thema amlwg drwy gydol y cyfarfod eithriadol hwn. Yn y lle cyntaf, drwy’r rhai oedd yn cymryd rhan: Daeth 600 o wyddonwyr ifanc o 84 o wledydd i Lindau, ynghyd â 39 o enillwyr Gwobr Nobel – gwobr hanfodol ryngwladol er datblygiad gwyddonol.

Cafodd wythnos o ddarlithoedd a thrafodaethau clos rhyngom ni’r ‘gwyddonwyr ifanc’ ag enillwyr y gwobrau Nobel eu harwain o’r cychwyn cyntaf â phwyslais ar bwysigrwydd globaleiddio gwyddoniaeth. Yn ei darlith agoriadol, cyfeiriodd Elizabeth Blackburn at “Waddol Gwyddoniaeth Fyd-eang” – lle galwodd am wella’r arfer o rannu ym maes gwyddoniaeth. Yn ôl yr Athro Blackburn, rhaid i wyddoniaeth chwarae rhan ganolog wrth fynd i’r afael â’r heriau mwyaf y mae dynoliaeth yn eu wynebu, a’r unig ffordd o wneud hynny’n effeithiol ac yn effeithlon yw pe bydd ymchwil yn gynhwysol, yn rhyngweithiol ac yn anghystadleuol. “Ni ddylai gwyddonwyr fod yn ddiymhongar ynglŷn â’u gallu i addysgu a chynnig tystiolaeth fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau pwysig ag iddynt effeithiau byd-eang”, meddai.

Mae’n bosibl y bydd hyn yn swnio ychydig dros ben llestri, ond mae Cyfarfod Lindau yn brofiad sy’n ysbrydoli gwyddonwyr i edrych ar eu gwaith mewn ffordd wahanol; yn hytrach na’i ystyried fel diferyn mewn môr eang o lenyddiaeth sy’n rhoi hwb tuag at ganfyddiad maes o law. Yn hytrach, gall ymchwilwyr weld y posibilrwydd o newid bywydau drwy fynd ar drywydd un cwestiwn gwyddonol, a hynny ar sail dim ond ychydig o arbrofion syml o bosibl, ond sydd eto wedi’u curadu’n grefftus.

Cawsom fudd nid yn unig yn o’r ffrwd o ddoethineb gan enillwyr y gwobrau, ond hefyd drwy gyfrwng y trafodaethau a ysgogwyd ganddynt; roedd eu presenoldeb yn gatalydd ar gyfer ein rhyngweithio. Mae’r cyfarfod wedi’i lunio i hwyluso cannoedd o gydweithrediadau gwyddonol newydd ar draws y byd, oll wedi’u hatgyfnerthu gan eu tarddiad.

Nid i ni fel gwyddonwyr yn unig y mae gwyddoniaeth fyd-eang yn berthnasol, ond hefyd i’r cyhoedd ar draws y byd ac yn bwysicaf oll, y modd y maent yn deall yr ymchwil a gyfathrebir gennym. Amlygwyd hyn yn y drafodaeth i gloi ar y “cyfnod ôl-ffeithiol” yr ydym bellach yn byw ynddo. Cawsom ein hannog i ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd, fel llysgenhadon nid yn unig ar gyfer ein cilfach wyddonol bersonol, ond ar gyfer gwyddoniaeth yn ei chyfanrwydd. Wrth wneud hynny, mae’n bosibl y gwnawn adfer yr ymdeimlad o ymddiriedaeth mewn gwyddoniaeth, a pharatoi’r ffordd tuag at well arfer a pholisi ar draws y byd, ar gyfer iechyd a’r amgylchedd.

Gadewais Gyfarfod Enillwyr Gwobrau Nobel Lidau yn teimlo’n rhan o gymuned academaidd ryngwladol ac yn falch o wynebu heriau gwyddonol er budd pawb. I gael blas personol ar y profiad hwn, mae dau beth y gallech ei wneud. Yn gyntaf, gallech ymweld â thref nefolaidd Lindau. Yn ail, gallech glicio ar y ddolen hon fydd yn eich tywys at fideos o bob un o’r sgyrsiau a’r trafodaethau ysbrydoledig: https://www.mediatheque.lindau-nobel.org/