Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Dewch i gwrdd â’r Ymchwilydd – Amy Lynham, Cydymaith Ymchwil, Seicosis ac Anhwylderau Affeithiol Mawr

20 Medi 2018

 Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl?

Astudiais seicoleg yn y Brifysgol am fy mod wedi fy nghyfareddu gan yr ymennydd ac ymddygiad dynol. Treuliais flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn rhan o leoliad proffesiynol, a dyma wnaeth ysgogi fy niddordeb ym maes ymchwil iechyd meddwl.

 

Pwy wnaeth, neu pwy sy’n eich ysbrydoli?

Yn ystod fy mhum mlynedd yn yr adran, rwyf wedi recriwtio ac asesu dros gant o bobl sydd â seicosis a/neu anhwylderau hwyliau. Mae clywed eu hanesion a siarad â nhw am yr heriau maent yn eu hwynebu yn ein hatgoffa am yr ymchwil sydd ei hangen o hyd er mwyn gwella bywydau cleifion.

 

Ar beth ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd?

Nid yw fy ymchwil yn canolbwyntio ar un anhwylder. Yn hytrach, mae’n ystyried ystod o anhwylderau iechyd meddwl. Mae gan lawer o anhwylderau symptomau cyffredin, neu ffactorau risg sy’n gorgyffwrdd. Rwy’n gweithio ar brosiect sy’n ceisio creu adnodd mawr sy’n cwmpasu ystod o anhwylderau ac yn cynnwys gwybodaeth glinigol a geneteg gan bobl sydd â llawer o anhwylderau gwahanol. Gyda lwc, bydd yn taflu goleuni newydd ar achosion problemau iechyd meddwl. Mae gennyf ddiddordeb penodol yn y berthynas rhwng problemau iechyd meddwl a galluoedd meddyliol, megis talu sylw, cof a datrys problemau (gwybyddiaeth). Mae pobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl weithiau’n rhoi gwybod am anawsterau o ran eu gwybyddiaeth. Gall y problemau hyn effeithio’n sylweddol ar eu gallu i fyw’n annibynnol, cymdeithasu a dychwelyd i’r gwaith, hyd yn oed os nad ydynt, mwyach, yn profi symptomau eu cyflwr iechyd meddwl. Nid yw’r hyn sy’n peri nam ar wybyddiaeth wedi’i ddeall yn llwyr, a nod fy ymchwil yw deall beth sy’n effeithio ar wybyddiaeth drwy gyfrwng diagnosis, symptomau, meddyginiaeth a ffactorau eraill.

 

Sut mae eich ymchwil yn llywio eich ymarfer (clinigol), ac i’r gwrthwyneb?

Nid wyf yn glinigydd, ond y gobaith yw y bydd fy ymchwil yn llywio ymarfer clinigol ac yn gwella canlyniadau i gleifion. Mae nam ar wybyddiaeth yn peri anabledd hirdymor ar gyfer rhai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ond ar hyn o bryd, mae diffyg asesiadau addas i’w defnyddio mewn clinigau. Yn rhan o’n prosiect ymchwil newydd, byddaf yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a gofalwyr i ganfod pa asesiadau ac adborth fyddai fwyaf defnyddiol, a datblygu asesiad briff newydd.

 

Pa newidiadau ydych chi wedi’u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?

Mae pethau’n sicr wedi gwella, ond mae llawer i’w wneud o hyd. Bu cynnydd mewn ymgyrchoedd gan y cyfryngau (yn arbennig ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol) er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch problemau iechyd meddwl, ac mae pobl yn fwy agored i siarad am eu profiadau personol, yn enwedig o ran iselder a gorbryder. Fodd bynnag, mae llawer o stigma a chamsyniadau o hyd ynghylch anhwylderau fel sgitsoffrenia.

 

Yn eich barn chi, beth yw’r heriau allweddol ar gyfer iechyd meddwl?

Mae ariannu’n parhau i fod yn her ar gyfer iechyd meddwl, er bod anhwylderau seiciatrig yn gyfrifol am lawer iawn o anableddau a marwolaethau cynamserol ar draws y byd. Mae cynnal diagnosis yn her allweddol arall ar gyfer ymchwil a lleoliadau clinigol. Ar hyn o bryd, mae diagnosio yn seiliedig ar symptomau y gellir eu gweld, ond prin iawn yw’r hyn a ddeallir am achosion y symptomau hynny. Yn ogystal, ceir symptomau sy’n gorgyffwrdd rhwng gwahanol anhwylderau, ac mae’n gyffredin hefyd i gael problemau iechyd meddwl sy’n codi ar yr un pryd. Gyda lwc, os gallwn ddeall mwy am y fioleg waelodol sy’n peri symptomau penodol, gallwn wella’r broses ddiagnosio a datblygu triniaethau newydd.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i’r rheini sy’n dechrau ar yrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?

Yn fy marn i, mae’n bwysig iawn cwrdd â phobl sydd â phrofiadau bywyd o’r anhwylder rydych yn ymchwilio iddo, naill ai drwy eu cynnwys yn eich gwaith ymchwil, neu drwy gyfrwng lleoliadau gwirfoddol. Mae hynny’n eich helpu i beidio â cholli golwg ar y darlun ehangach, oherwydd yn y pen draw, ein diben wrth gynnal yr ymchwil hon yw helpu pobl drwy atal yr anhwylderau’n well, a chynnig gwell diagnosis a thriniaeth.