Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolion

Dewch i gwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Adam Cunningham, Tîm Astudiaeth ECHO, MRC CNGG

27 Medi 2018

Bu’r ymennydd a’r meddwl o ddiddordeb i mi erioed, yn ogystal â’r modd yr ydym yn gweld ac yn deall y byd o’n cwmpas.

Gallwn fod wedi dilyn llwybr ymchwil mwy sylfaenol am y modd y mae’r ymennydd yn prosesu gwybodaeth, neu sut mae niwronau’n gweithio, ond roedd gweithio ar bwnc sy’n amlwg yn berthnasol i bobl, ac â’r potensial o helpu i wella bywydau pobl, yn llawer mwy diddorol.

Mae fy nhydweithwyr yn yr adran yn fy ysbrydoli o hyd. Caf fy syfrdanu bob dydd gan y gwaith sy’n cael ei wneud yma, a pha mor benderfynol yw pawb i gael gwell dealltwriaeth o rai o’r problemau mawr ym maes iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd.

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar broblemau symud a chydlynu mewn plant â dilead amrywiad genetig 22q11.2. Mae gan oddeutu 1 person ym mhob 4,000 y dilead hwn, ac mae’n gysylltiedig â nifer o broblemau iechyd meddwl fel system imiwnedd wan, problemau thyroid, problemau â’r galon, taflod hollt, a llawer iawn mwy. Yn ogystal, mae’n cynyddu’r perygl y bydd unigolyn yn datblygu problemau iechyd meddwl megis gorbryder, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), ac awtistiaeth.

Yn ogystal, mae’n un o’r ffactorau risg mwyaf y gwyddwn amdano sy’n arwain at ddatblygu sgitsoffrenia, gyda thua chwarter y bobl â’r dilead yn datblygu anhwylder ar y sbectrwm sgitsoffrenia. Nid ydym yn gwybod pam mai chwarter y rheini’n unig fydd yn datblygu sgitsoffrenia, ac mae llawer o’r gwaith ymchwil yn y labordy rwy’n perthyn iddo’n ceisio nodi pa ffactorau eraill, ar wahân i’r dilead, sy’n effeithio ar y perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethom ddechrau meddwl y byddai anawsterau symudedd a chyd-symudedd yn ystod plentyndod yn rhywbeth a allai gynyddu’r perygl, neu bod hynny hyd yn oed yn arwydd cynnar o broblemau i ddod. Mae fy ymchwil wedi canfod bod llawer o blant (o bosibl cymaint â 80%) sydd â’r dilead yn cael anawsterau wrth gydsymud, ond nad yw llawer o deuluoedd yn cael help ar gyfer anawsterau cydsymud eu plentyn.

Er nad wyf yn glinigydd, mae rhan fawr o’m gwaith yn ymwneud â rhoi gwybodaeth i glinigwyr am y dilead a’r symptomau cysylltiedig, fel eu bod yn gallu rhoi’r cyngor a’r driniaeth orau i gleifion. Mae diffyg ymchwil ym maes problemau cydsymud, ac nid yw’n cael ei gydnabod yn ddigon effeithiol mewn pobl â’r dilead. Fy nod, felly, yw lledaenu’r neges bod hyn yn rhywbeth i fod yn ymwybodol ohono.

Rwyf o’r farn fod pobl, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi dod yn llawer yn fwy cyffyrddus â siarad am iechyd meddwl, ac mae hynny’n ddiamheuol yn beth da. Rwyf hefyd o’r farn bod pobl, yn gyffredinol, yn tyfu’n fwy ymwybodol o bwysigrwydd iechyd meddwl, nid yn unig o ran eu hunain ond hefyd o ran eu ffrindiau a’u teuluoedd. Felly, maent yn fwy tebygol o geisio helpu os ydynt yn sylwi efallai bod rhywun yn cael amser caled.

Heriau

Ar hyn o bryd, credaf mai’r heriau allweddol ym maes ymchwil iechyd meddwl yw ariannu, a manteisio ar y diddordeb cynyddol sydd yn y maes o’r newydd. Yn ail, credaf bod angen i ni wella ein technegau a phrosesau diagnosio, am fod sawl diagnosis presennol yn gyfyngedig. Mae symptomau a phroblemau sy’n codi ar y cyd yn gyffredin iawn, ac nid yw’r broses ddiagnosio bresennol yn delio â hynny’n dda.

Mae yna symudiad tuag at ganolbwyntio ar ddosbarthu symptomau mewn modd dimensiynol, a gallai hynny helpu. Serch hynny, yn ddelfrydol, byddem eisiau diagnosio anhwylderau iechyd meddwl ar sail problem neu achos biolegol, fel rydym yn ei wneud ar gyfer y rhan fwyaf o broblemau iechyd corfforol, fel diabetes neu afiechyd y galon. Yn olaf, rwyf o’r farn bod datblygu triniaethau newydd – rhai fferyllol yn ogystal ag anfferyllol – a mireinio’r adeg orau i ddefnyddio triniaeth benodol, yn hynod o bwysig.

Gair o gyngor?

I’r rheini sydd ar ddechrau eu gyrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl, cofiwch gadw meddwl agored. Gall cyfleoedd ddeillio o lefydd annisgwyl.

Gwnewch yn siŵr bod yr hyn y mae cleifion, o bosibl, ei eisiau neu ei angen, yn sail i’ch ymchwil, mewn rhyw fodd. Ceisiwch ymgysylltu â rhwydweithiau cleifion a rhwydweithiau clinigol, fel bod canlyniadau eich gwaith ymchwil yn cyrraedd y rheini sydd eu hangen ac y byddant yn eu defnyddio. Digon rhwydd yw colli golwg ar y rheswm dros ein hymchwil.