Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl plant a'r glasoed

Ffyrdd newydd o feddwl am iechyd meddwl a lles plant oed ysgol gynradd

26 Mehefin 2018
Rear view of little boy and his classmates raising arms to answer teacher's question during the lecture in the classroom.
Rear view of little boy and his classmates raising arms to answer teacher's question during the lecture in the classroom.

Cynnydd yn y diddordeb gwleidyddol-gymdeithasol mewn iechyd meddwl plant a’r glasoed

Mae consensws eang mewn ymchwil yn awgrymu bod gan 10 y cant o blant a phobl ifanc yn y DU gyflwr iechyd meddwl y gellir cael diagnosis clinigol ohono fel gorbryder neu iselder.

Ceir sail ymchwil sylweddol sy’n cysylltu iechyd meddwl gwael ymhlith plant ag amrywiaeth o lwybrau addysgol, cymdeithasol ac iechyd corfforol negyddol mewn oedolion. Mae diddordeb cymdeithasol a gwleidyddol yn yr ymyriadau hyn wedi tyfu’n gynyddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Mae pwysigrwydd cynyddol hefyd wedi’i briodoli i ymyrraeth gynnar ac atal, a sbardunwyd gan ymchwil i’r nifer o achosion o gyflyrau iechyd meddwl. Mae data tueddiadau amser yn dangos mai’r canolrif oedran ar gyfer dechrau anhwylderau gorbryder cyffredinol yw 11, sy’n golygu bod ysgolion cynradd yn amgylchedd rhesymegol ar gyfer ymyriadau iechyd meddwl a lles.

Yr agenda ar gyfer gwella

Yn aml bydd ymyriadau yn yr ysgol yn cyfuno gwersi dysgu cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys sgiliau fel cymhwysedd perthynas a hunanymwybyddiaeth, â dulliau ataliol sy’n ceisio lliniaru ac yn ddelfrydol atal symptomau ystod o gyflyrau gwahanol fel gorbryder ac iselder rhag datblygu yn y blynyddoedd dilynol.

Mae ymchwil diweddar yn yr Unol Daleithiau, yn defnyddio carfan hydredol 13-19 oed, wedi awgrymu cyswllt sylweddol rhwng addysgu a monitro sgiliau cymdeithasol ac emosiynol a nifer o ganlyniadau cadarnhaol yn berthnasol i addysg, cyflogaeth ac iechyd meddwl.

 Y farn ar ymyriadau a darpariaeth gyfredol

Ochr yn ochr â chynnydd cyflym mewn ymyriadau, ceir corff cynyddol o ymchwil gwerthuso i effeithiolrwydd y rhaglenni hyn.

Mae dulliau mesur canlyniadau nodweddiadol yn cynnwys gwell cymhwysedd cymdeithasol ac emosiynol, llai o broblemau iechyd meddwl gan gynnwys symptomau mewnoli, a gwelliannau o ran cyrhaeddiad academaidd.

Mae adolygiadau systematig a meta-ddadansoddiadau, sy’n cyfuno amrywiaeth o ymyriadau mewn un dadansoddiad, yn aml yn casglu er bod rhaglenni iechyd meddwl a lles yn y DU ambell waith yn cyflawni’r effaith a fwriadwyd yn y tymor byr, bod yr effeithiau addawol hyn yn rhy aml yn cael eu cwtogi neu eu lleihau’n sylweddol ar ôl chwe mis.

Pam nad yw ymyriadau bob amser yn gweithio yn ôl y bwriad?

Yn aml caiff cyflwyno ymyriadau’n wael ei nodi fel rheswm am ganlyniadau aneffeithiol. Dyma oedd un o’r problemau a ganfuwyd mewn rhaglen flaenllaw o wersi dysgu cymdeithasol ac emosiynol a noddwyd gan Lywodraeth y DU, yr ymyriad Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu.

Gallwn ddamcaniaethu hefyd fod rhaglenni wedi dioddef diffyg hyblygrwydd diwylliannol yn yr amgylchedd y’i seiliwyd ynddo. Digwyddodd hyn gydag ymyriad poblogaidd o’r Unol Daleithiau (PATHS) a gyflwynwyd yn fynych mewn ysgolion cynradd yn y DU.

Caiff ansawdd y sail tystiolaeth hon ei lesteirio gan anghysondebau yn y methodolegau gwerthuso. Yn aml nid oes gan astudiaethau gwerthuso elfennau hydredol neu reolydd, sy’n ei gwneud yn anodd arfarnu effeithiau ymyriad dros gyfnod hirach, neu gymharu’r effeithiau gyda grŵp poblogaeth na dderbyniodd yr un ymyriad.

Rôl damcaniaeth

Yn aml caiff ymyriadau eu datblygu o hyd gan ddefnyddio damcaniaethau newid ymddygiad, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na’r system gymdeithasol maent yn gweithredu ynddi.  Gall agweddau unigolyddol pur at yr ymyriadau hyn ddad-gydestunoli amgylcheddau cymdeithasol ac yna esgeuluso dylanwad strwythurau cymdeithasol ar ganlyniadau iechyd.

Gallai cyfuno damcaniaethau o ddisgyblaethau’n cynnwys addysg, seicoleg a chymdeithaseg felly fod yn ffordd fwy effeithiol o feddwl am ymyriadau cymdeithasol.

Rôl y cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol

Mae canon o waith yn ymddangos ym maes iechyd cyhoeddus sy’n awgrymu bod canolbwyntio ar gyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol systemau cymdeithasol, yn hytrach nag ymyriadau arunig, yn ffordd fwy effeithiol o ddatblygu lleoliadau cynaliadwy ar gyfer hybu iechyd.

Mae fy ymchwil felly’n ceisio archwilio’r cyd-destunau hynny mewn perthynas ag ysgolion cynradd a’u systemau ehangach. Bydd yn gwneud hyn drwy archwilio amrywiaeth o safbwyntiau rhanddeiliaid ar benderfynyddion iechyd meddwl plant, gwaith ymyrraeth cyfredol mewn ysgolion cynradd a’r hyn sydd yn eu barn nhw’n gwneud eu system yn fwy cynaliadwy, a cheisio cyd-gynhyrchu gwybodaeth benodol i’r cyd-destun ar gyfer datblygu ymyrraeth yn y dyfodol.

Gwaith methodolegol gyda disgyblion ysgolion cynradd

Rwyf i hefyd wedi bod yn rhedeg gweithdai gyda disgyblion blwyddyn pump a chwech mewn ysgolion dinesig a gwledig, a gyda demograffeg gymdeithasol wahanol, ac wedi cynllunio dau ddull ymchwil gweledol i gynnwys disgyblion ac ysgolion mewn ymchwil iechyd meddwl yn ogystal ag ateb cwestiynau astudio’n ymwneud â chynyddu gwybodaeth gyd-destunol ar gyfer rhaglenni iechyd meddwl.

Datblygwyd y dull cyntaf, ‘mapio’r ymennydd’, ar sail dulliau mapio corfforol mewn ymchwil iechyd corfforol. Defnyddiwyd hyn ar y cyd â chardiau darganfod yn canolbwyntio ar ymchwil rhyngddisgyblaethol blaenorol, gan gynnwys astudiaethau epidemiolegol, seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol i iechyd meddwl plant, ac fe’i defnyddiwyd ar gyfer mapio canfyddiadau disgyblion o’u penderfynyddion bioseicogymdeithasol eu hunain.

Defnyddiwyd yr ail ddull, graddio cylch, i raddio, cymharu a thrafod ystod o raglenni iechyd meddwl mewn ysgolion. Y tro hwn roedd cardiau darganfod yn seiliedig ar ymchwil blaenorol gydag amrywiaeth o staff yr ysgol oedd yn ymwneud â chyflwyno a threfnu’r rhaglen, gydag ymyriadau a dulliau a ddefnyddiwyd gan y ddwy ysgol yn cael eu trafod mewn cyfweliadau bywgraffyddol lled-strwythuredig.

Casgliadau cychwynnol

O ganlyniad i’r gweithdai hyn rwyf i’n gweithio gydag ysgolion i lunio adroddiadau y gallant eu defnyddio maes o law ar gyfer eu gwaith iechyd meddwl a lles ac ar gyfer cynlluniau gweithredu a hunanwerthusiadau yn y dyfodol.

Mae’r dulliau hyn wedi’u gwerthuso am eu haddasrwydd ar gyfer cynnwys disgyblion ac ysgolion mewn ymchwil iechyd meddwl rhyngddisgyblaethol, ac er bod y prosiect yn parhau, mae casgliadau cychwynnol yn gadarnhaol yn seiliedig ar adborth llafar ac ysgrifenedig, yn bersonol ac mewn adroddiadau dienw gan ddisgyblion ac ysgolion.

Byddai’r rhain yn awgrymu bod y gwaith gweledol hwn yn berthnasol ac yn ddiddorol i amrywiaeth o ddisgyblion mewn gwahanol leoliadau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol, ac yn ddefnyddiol ar gyfer datblygu gwybodaeth benodol i’r cyd-destun i ddatblygu ymyriadau iechyd meddwl a lles ar draws y lleoliadau gwahanol hyn.

Rwyf i hefyd wedi defnyddio’r broses adborth hon i wella’r dulliau ar gyfer gweithdai a phrosiectau’r dyfodol sy’n berthnasol i benderfynyddion iechyd meddwl plant.

Byddaf yn cyflwyno canfyddiadau llawn y gwaith methodolegol hwn yng nghynhadledd flynyddol WISERD  ar 18-19 Gorffennaf ynghyd â’r gynhadledd Gwyddorau Cymdeithasol Rhyngddisgyblaethol  yn Granada ar 25-27 Gorffennaf.