Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl plant

10 Mai 2018
Blurry shadows silhouettes of families with kids  walking and holding hands on misty summer promenade
Blurry shadows silhouettes of families with kids walking and holding hands on misty summer promenade

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn profi teimladau o ofid a thristwch neu yn cael trafferth canolbwyntio ar waith ysgol.

Yn achlysurol, gall yr anawsterau hynny ddatblygu i fod yn rhai parhaus ac ymyrryd â bywyd gartref, gwaith ysgol a’r gallu i wneud ffrindiau.

Deallir yn gynyddol y gall y mathau hyn o broblemau ddatblygu i fod yn broblemau iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd.  Rydym hefyd yn gwybod bod problemau iechyd meddwl fel iselder (sy’n cynnwys symptomau fel tristwch parhaus, teimlo’n ddiwerth ac anawsterau cysgu a chanolbwyntio) yn syndod o gyffredin ymysg pobl ifanc ac maent yn ymyrryd i raddau helaeth â’u gallu i wireddu eu potensial.

Mae gan nifer sylweddol o blant broblemau niwroddatblygiadol fel ADHD ac awtistiaeth sy’n golygu ei bod yn anodd iawn iddynt fynd ati i ddysgu a gweithio gyda chyfoedion mewn ystafelloedd dosbarth.

Sylwi ar yr arwyddion 

Rydym yn croesawu adroddiad Llywodraeth Cymru yn fawr ac yn galw am fwy o bwyslais ar atal problemau iechyd meddwl ymysg plant a phobl ifanc.

Ceir tystiolaeth wyddonol gref sy’n dangos bod anawsterau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yn gyffredin ac yn gallu cael effaith hirdymor ar iechyd corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, mae hefyd yn dangos y gall rhai cyflyrau, gyda gofal priodol, gael eu trin yn fwy effeithiol a’u hatal, hyd yn oed.

Gall ymyriadau ataliol gynnwys nifer o bethau, ac yn eu plith mae cynnig triniaethau i bobl sydd â symptomau cynnar, cynnig gwybodaeth am yr hyn sy’n peri anawsterau a hyfforddiant iechyd meddwl i bobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc a theuluoedd.

Mae un enghraifft o ymyrraeth ataliol sydd wedi ei phrofi mewn hapdreialon rheoledig yn dangos bod therapi seicolegol (therapi gwybyddol ymddygiadol) ar gyfer y rheini yn eu harddegau sydd â symptomau iselder, yn atal y symptomau hynny rhag dwysáu i fod yn iselder clinigol difrifol ac mae’n cael effaith fuddiol ar iselder a sgiliau academaidd a chymdeithasol sy’n para nifer o flynyddoedd.

Mae gwell ymwybyddiaeth o symptomau, gwybodaeth am sut i ofyn am gymorth, a dealltwriaeth o ymddygiad defnyddiol ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd meddwl a’u teuluoedd wedi bod yn ddefnyddiol.

Blaenoriaethu iechyd meddwl

Mater pwysig i’w gofio yw bod angen gwerthuso ymyriadau ataliol a rhaglenni ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn yr un modd â meddyginiaethau eraill.

Er mwyn cael mwy o fuddsoddiad ym maes atal i gyflawni buddiannau go iawn ar gyfer plant wrth iddynt dyfu’n hŷn, mae’n hanfodol bod triniaethau ar sail tystiolaeth ac ymyriadau ataliol yn cael eu defnyddio.

Mae nifer o ymyriadau ataliol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’u gwerthuso’n dda, ac mae pecynnau addysg iechyd meddwl yn bodoli.

Mae’n hanfodol hefyd bod pobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol eraill yn cael hyfforddiant o ansawdd da a chyngor am iechyd meddwl a’r ymyriadau sydd ar gael.

Mae’n bwysig bod clinigwyr a gwyddonwyr yn cydweithio ag athrawon, rhieni a phobl ifanc er mwyn cefnogi’r fenter hon a chyfnewid gwybodaeth.