Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Pam rydym yn defnyddio anifeiliaid ym maes ymchwil iechyd meddwl

5 Hydref 2016
Black laboratory mouse sits on gloved male hand
Black laboratory mouse sits on gloved male hand

Y problemau wrth astudio anhwylderau seiciatrig

Mae deall y rhesymau dros gyflyrau iechyd meddwl, a deall sut i’w datrys, yn faes anodd. Mae dau brif reswm am hyn: yn gyntaf, ceir cryn amrywiaeth o fewn cleifion o ran eu symptomau, eu ffordd o fyw, eu harferion cymryd meddyginiaethau, a’u hamgylchiadau cymdeithasol – felly, mae sefydlu perthnasau achos ac effaith pendant yn heriol ac mae angen astudio carfannau mawr o gyfranogwyr sydd â nodweddion eglur. Yn ail, er bod technegau delweddu gwell yn galluogi inni asesu strwythur gros a swyddogaeth yr ymennydd in vivo, ni ellir gwneud biopsi o’r organ i’w ddadansoddi’n fanwl; mae’r samplau o feinwe’r ymennydd y gellir eu cael yn aml wedi’u heffeithio gan brosesau cadw post mortem a/neu gan ffactorau sy’n cynnwys triniaeth gyffuriau, trawma, clefyd heintus neu ffitiau.

Mae’r heriau hyn gyda’i gilydd yn esbonio pam nad oes cyffuriau newydd ar gyfer trin anhwylderau seiciatrig wedi dod i law, a pham rydym yn parhau i ddibynnu ar feddyginiaethau sy’n aml yn gyfyng eu heffaith neu sydd â sgil-effeithiau annymunol.

Manteision defnyddio modelau anifeiliaid

Mae modd ymdrin â’r heriau sydd ynghlwm wrth ymchwil dynol i ryw raddau drwy astudio modelau anifeiliaid. Yn hanesyddol, defnyddiwyd amrywiaeth eang o anifeiliaid i ddod i ddeall amodau datblygiadol, seiciatrig a dirywiol gan amrywio o infertebratau fel mwydod a phryfed ffrwythau a fertebratau megis pysgod rhesog a mwncïod. Yng Nghaerdydd, ac mewn mannau eraill, cnofilod (llygod a llygod mawr) yw’r rhywogaeth ddelfrydol ar gyfer ymchwil iechyd meddwl; gan mai mamaliaid ydynt, mae gan y creaduriaid ffisioleg debyg i fodau dynol, fel mai dyma’r ffordd orau o drosglwyddo’r canfyddiadau ar draws rhywogaethau.

Mae modelau anifeiliaid yn cynnig rhywfaint o reolaeth arbrofol na ellir ei chael mewn gwaith dynol h.y. gallwn amrywio un paramedr yn systematig (fel cyfansoddiad genetig yr anifail, neu ei amgylchedd) ac archwilio’r effeithiau sy’n ganlyniad i hyn ar yr ymennydd a’r ymddygiad mewn ffordd safonol. Yn benodol, byddwn yn gallu gwneud newidiadau i’r arbrawf na ellid eu gwneud ar sail foesegol neu ymarferol mewn bodau dynol, e.e. rhoi cyffuriau, anafu rhannau o’r ymennydd, cyflwyno newidiadau genetig, neu newid yr amgylchedd yn y groth. Gallwn archwilio meinweoedd ymennydd o fodelau o’r fath yn fanwl dros ben, sy’n fantais bwysig o ystyried cymhlethdod celloedd yr organ hwn.

Diffinnir anhwylderau seiciatrig ar sail ymddygiad annormal. Er bod technegau ymchwil fel meithrin celloedd a modelu cyfrifiadurol yn gallu ein helpu i ddeall prosesau sylfaenol y celloedd a rhwydweithiau’r ymennydd, drwy ymchwilio i’r ‘organeb gyfan’ yn unig y gallwn ddeall y ffyrdd cymhleth y mae’r ymennydd a’r corff yn rhyngweithio i arwain at allbwn ymddygiad. Yn ddiweddar, amlygwyd pwysigrwydd y rhyngweithio rhwng yr ymennydd a gweddill y corff gan dystiolaeth o Brifysgol Caerdydd a mannau eraill; sef ei bod hi’n ymddangos bod y system imiwnedd sy’n rheoleiddio amddiffyniad y corff rhag heintiau, yn chwarae rôl allweddol o ran pa mor agored yw person i amrywiaeth eang o anhwylderau’r ‘ymennydd’ gan gynnwys iselder, sgitsoffrenia a chlefyd Alzheimer.

Drwy astudio modelau anifeiliaid, gallwn nodi prosesau sydd wedi mynd ar chwâl yn yr ymennydd a’r corff a all achosi symptomau ymddygiadol a niwrolegol, ac a all fod addas i’w modiwleiddio. Gellir defnyddio’r modelau hyn wedyn i sgrinio ar gyfer triniaethau ffarmacolegol neu ymddygiad newydd a phrofi eu heffeithiolrwydd ar gyfer eu defnyddio yn y clinig. Yn bwysig, dylai’r ymchwil sylfaenol hwn hefyd ein galluogi i ddeall a thrin patholeg mewn anifeiliaid (e.e. anifeiliaid sw sy’n ailadrodd yr un ymddygiad dro ar ôl tro neu epilepsi mewn rhai rhywogaethau o gŵn) yn llawer mwy effeithiol.

Mae ein hymchwil i gyd yn cael ei gymeradwyo a’i fonitro’n fanwl gan y Swyddfa Gartref, ac yn cadw at egwyddorion 3R h.y. gan ddefnyddio dewisiadau amgen lle bynnag y bo’n bosibl (‘disodli’/’replacement’), gan ddefnyddio isafswm nifer yr anifeiliaid i sicrhau canlyniad cadarn (‘gostwng’/’reduction’) a chan wella gweithdrefnau profi fel eu bod yn lleihau’r effeithiau andwyol ar yr anifail (‘mireinio’/’refinement’).

Cyfyngiadau modelau anifeiliaid

Wrth reswm, mae gwrthwynebiad i ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil, yn enwedig lle rydym yn ysgogi analogau o anhwylderau meddwl sy’n peri trallod. Mae’n bwysig cydnabod ein bod ond yn defnyddio anifeiliaid pan nad oes dull arall o ymchwilio a fyddai’n ddigonol a lle mae’r manteision tebygol yn sylweddol fwy na’r costau o ran lles anifeiliaid.

Mae’n bwysig sylweddoli na all unrhyw un model anifeiliaid lwyr ailadrodd holl nodweddion anhwylder seiciatrig cymhleth, mae’n anodd asesu bwriad mewn anifeiliaid, ac efallai mai cyfyng yw gwerth modelau anifeiliaid i helpu i ddeall ffenomena dynol penodol megis anghymesuredd ymennydd, iaith neu seicosis. Yn ogystal, mae bioleg ddynol yn unigryw ac yn aml yn anodd ei ragfynegi. Felly, dylid bod yn ofalus wrth allosod canfyddiadau o fodelau anifeiliaid ac ni ddylid byth ddisgwyl iddynt esbonio’r cyflwr dynol yn gyfan gwbl neu ragfynegi ynghylch effeithiolrwydd dulliau therapiwtig newydd. I fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i drosi ar draws rhywogaethau, dylid dewis modelau anifeiliaid a’u pennu’n gaeth.

Mae Lles Anifeiliaid yn hollbwysig

Mae lles yr anifeiliaid a ddefnyddir yn ein gwaith ymchwil yn hollbwysig, ac mae gennym nifer o fesurau diogelu ar waith. Rydym yn ymdrechu i fireinio’r gweithdrefnau fel bod yr anifeiliaid yn dioddef cyn lleied ag sy’n bosibl Cedwir yr anifeiliaid ar y safonau uchaf ac mae ein technegwyr anifeiliaid a hyfforddwyd yn dda yn dilyn y lefelau uchaf a diweddaraf o ran gofal anifeiliaid, drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus o’r Athrofa Technoleg Anifeiliaid.

Mae ein holl waith ymchwil sy’n defnyddio anifeiliaid yn ceisio lleddfu clefydau dynol a milfeddygol drwy wella dealltwriaeth feddygol, ddeintyddol, fiolegol a milfeddygol ac mae pob prosiect yn cael ei archwilio’n fanwl o ran moeseg.

Mae’r holl ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cadw at Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986, sy’n datgan na caiff anifeiliaid eu defnyddio os oes dull arall sy’n foddhaol yn wyddonol neu os oes strategaeth profi nad yw’n arwain at ddefnyddio anifail gwarchodedig. Felly, pan nad oes dewis arall yn unig y caiff anifeiliaid eu defnyddio.

Ym mis Mai 2014, llofnodon ni’r Concordat ar Onestrwydd Ynghylch Ymchwil Anifeiliaid yn y DU. Cewch weld manylion y math o anifeiliaid a ddefnyddir ym Mhrifysgol Caerdydd ar ein gwefan. Cyhoeddir y wybodaeth hon yn flynyddol ac mae’n cefnogi ein hymrwymiad i fod yn dryloyw ac yn agored am y gwaith a wnawn sy’n cynnwys anifeiliaid. Rydym wedi cytuno i fod yn eglur ynghylch pryd, sut a pham rydym yn defnyddio anifeiliaid mewn ymchwil a’n nod yw gwella ein cysylltiadau â’r cyfryngau a’r cyhoedd am ein gwaith ymchwil sy’n defnyddio anifeiliaid. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym yn darparu crynodebau lleyg o ymchwil sy’n cynnwys anifeiliaid ar gyfer yr holl drwyddedau prosiect newydd a ganiateir.

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau megis Deall Ymchwil Anifeiliaid i addysgu’r cyhoedd ynghylch pam a sut, rydym yn cynnal ymchwil sy’n defnyddio anifeiliaid.

Fodd bynnag, mae astudio anifeiliaid yn dal i fod yn hanfodol. Mae anifeiliaid yn cynnig yr unig ffordd i ni ddatblygu ein gwybodaeth wyddonol a chynhyrchu triniaethau ac iachâd ar gyfer nifer o gyflyrau difrifol. Mae ymchwil sy’n defnyddio anifeiliaid wedi achub a gwella bywydau miliynau o bobl ac anifeiliaid.

Heb ymchwil sy’n cynnwys anifeiliaid ni fyddai gennym unrhyw anaestheteg fodern, triniaethau i osod cluniau newydd na modd o gynnal bywyd babanod a anwyd cyn pryd. Ni fyddai unrhyw drawsblaniadau arennau neu’r galon, dim dialysis yr arennau neu reolyddion calon, dim triniaeth ar gyfer diabetes, dim brechlynnau ar gyfer polio, difftheria neu falaria – neu ar gyfer nifer o glefydau anifeiliaid.

Ymchwil sy’n defnyddio anifeiliaid yng Nghaerdydd 

Rydym wrthi’n cynnal prosiect mawr a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome i ymchwilio i sut mae mwtadiadau genetig sy’n gysylltiedig â salwch seiciatrig mewn bodau dynol yn effeithio ar swyddogaeth ac ymddygiad yr ymennydd. Mae’r prosiect hwn yn dod â chlinigwyr a gwyddonwyr sylfaenol ynghyd, ac yn defnyddio dulliau cyflenwol ym maes geneteg seiciatrig a niwrowyddoniaeth gyfoes (gan gynnwys modelu soffistigedig mewn anifeiliaid (llygod mawr) a systemau celloedd) er mwyn ceisio cynnig mewnwelediadau newydd a phwysig i’r fioleg sy’n sail i anhwylderau niwroddirywiol.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ddefnyddio modelau anifeiliaid er mwyn deall yn well y mecanweithiau niwral a seicolegol sy’n sail i agweddau ar ymddygiad annormal ac iach. Mae’r llwyddiannau nodedig diweddar yn y maes hwn yn cynnwys: tystiolaeth ar gyfer y syniad fod nam ar ddarparu maetholion yn ystod bywyd ffetws yn arwain at annormaleddau ymddygiad diweddarach, mewnwelediad i fecanweithiau’r cof sy’n berthnasol i ddeall a thrin cyflyrau megis anhwylder straen wedi trawma a sgitsoffrenia, a dangos y gall genynnau risg sgitsoffrenia ddangos eu heffeithiau yn ystod cyfnodau datblygiadol allweddol.

Y dyfodol

Bydd technegau arbrofol newydd cain yn ein galluogi i wneud newidiadau genetig mwy penodol a mwy clinigol-berthnasol, i newid gweithgaredd rhanbarthau’r ymennydd yn neilltuol, i fonitro strwythur a swyddogaeth yr ymennydd yn ystod bywyd yr anifail gan ddefnyddio technegau delweddu, ac i asesu agweddau cynnil ar ymddygiad a gwybyddiaeth y tarfwyd arnynt yn aml mewn cyflyrau iechyd meddwl. Ar y cyd â llwybrau eraill sy’n gryf o ran ymchwil yng Nghaerdydd (gan gynnwys geneteg, niwroddelweddu a phrofion in vivo ac mewn celloedd), mae gwaith modelau anifeiliaid yn debygol o gyfrannu at ddod i ddeall salwch meddwl yn llawer gwell, a, gobeithio, yn y pen draw, at well mynediad i driniaethau mwy effeithiol ar gyfer cyflyrau cyffredin ac sy’n achosi anabledd.

Rhagor o wybodaeth am ymchwil sy’n ymwneud ag anifeiliaid yma.

Mae Dr Will Davies yn cael arian gan y Cyngor Ymchwil Feddygol ac Ymddiriedolaeth Wellcome