Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn y gymuned

6 Hydref 2016

Cynhelir yr ail ddigwyddiad Iechyd Meddwl a Lles y mis hwn yn y Pafiliwn, Gerddi Grange, yn Grangetown, Caerdydd.  Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect ymgysylltu blaenllaw y Porth Cymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei nod penodol yw codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl yn yr ardal amrywiol hon yng nghanol y ddinas, a chefnogi trigolion i gael gafael ar gymorth a chynnig cyfleuster lleol lle gellir cynnig y gefnogaeth hon.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Llun, 10 Hydref, i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Alicia Stringfellow a Gemma Stacey-Emile o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd sy’n ei hwyluso.  ‘Urddas mewn Iechyd Meddwl’ yw’r thema eleni ac adlewyrchir hyn yn rhaglen y dydd a phrif bwnc trafod y digwyddiad.

Gan weithio gyda thrigolion lleol, sefydliadau trydydd sector a phartneriaid y GIG, mae’r digwyddiad yn cynnwys siaradwyr gwadd ac amrywiaeth o weithdai gan Amser i Newid (Cymru), Cymdeithas Alzheimer, Iechyd Meddwl Somalia, HAFAL a phartneriaid y GIG, a llu o rai eraill.  Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle i drigolion lleol i fod yn ‘Gyfeillion Dementia’, gan godi ymwybyddiaeth o ddementia yn y gymuned a helpu Grangetown i weithio tuag at fod yn gymuned sy’n cefnogi pobl â dementia.  Bydd y gweithgareddau dewisol fydd ar gael yn ystod y dydd yn cynnwys gweithdy ymwybyddiaeth ofalgar a chreadigol dan arweiniad Louise o brosiect Stiwdio.

Bydd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, yn y digwyddiad yn y prynhawn.

Daw’r digwyddiad i ben drwy gynnal trafodaeth grŵp mewn fformat ‘Caffi’r Byd’. Bydd hyn yn cynnig cyfle i sgwrsio’n anffurfiol i geisio hwyluso a hybu trafodaeth agored a meddwl creadigol.

Cewch ragor o wybodaeth am y dydd a chadw lle drwy gysylltu ag Alicia Stringfellow neu Gemma Stacey-Emile.