Skip to main content

Iechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Diabwlimia

18 Hydref 2017

Mae amgylchiadau trist hunanladdiad Megan Davison yn ddiweddar wedi tynnu sylw at y prinder gwybodaeth sydd ar gael ynghylch yr anhwylder bwyta diabwlimia.

Mae’r term diabwlimia yn cyfeirio at y gostyngiad bwriadol, mynych wrth weinyddu inswlin gan bobl sydd â diabetes math 1, oherwydd pryderon ynghylch rheoli pwysau a/neu siâp y corff. Mae’r cyflwr yn aml yn gudd, a gall unigolion edrych yn dda a gall pwysau eu corff fod yn arferol. Fodd bynnag, mae’n strategaeth colli pwysau eithriadol o beryglus, sy’n arwain at gymhlethdodau diabetes cynyddol a rhychwant oes byrrach os defnyddir hi dros gyfnod estynedig.

Er nad yw diabwlimia yn cael ei gydnabod fel diagnosis clinigol ar hyn o bryd, mae’n gyflwr sy’n gyfarwydd i bobl â diabetes math 1. Mae’r cyflwr deuol cymhleth hwn yn aml yn cael ei golli gan weithwyr iechyd proffesiynol ac mae prinder o ran canllawiau ynghylch sut i’w reoli (Allan 2017).

Mae Diabetes UK yn nodi bod tua 40% o’r holl fenywod sydd â diabetes math 1 rhwng 15–30 yn aml yn rhoi llai o inswlin iddynt eu hunain er mwyn colli pwysau. Mae ymchwil hydredol o Ganada yn dangos bod gan ferched yn eu harddegau a menywod sydd â diabetes math 1 risg sylweddol uwch o ymddygiadau bwyta trwblus o’u cymharu â’u cyfoedion nad oes ganddynt ddiabetes.

Mae ymddygiadau bwyta a allai ymyrryd â rheoli diabetes yn cynnwys gorfwyta mewn pyliau, ymprydio a chamddefnyddio inswlin yn fwriadol fel ymddygiad cydadferol (Colton et al. 2015).

Mae storïau fel rhai Megan hefyd yn amlygu’r anawsterau mae pobl yn eu profi wrth geisio cael y cymorth a’r cyngor cywir ar gyfer y cyflwr hwn. Ar hyn o bryd yn y DU, dim ond un clinig triniaeth cleifion allanol sydd ar gael yn benodol ar gyfer pobl sydd â diabwlimia, a hynny yn Llundain.  Fodd bynnag, mae cyhoeddiad canllawiau diwygiedig NICE, Eating Disorders: recognition and treatment (NICE2017)  yn braenaru’r tir i gynnig argymhellion ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae pobl sydd â diabetes math 1 yn cael eu cydnabod yn y canllawiau fel pobl sydd â risg uchel o ddatblygu anhwylderau bwyta, ac fe ddylent gael eu sgrinio gan bobl broffesiynol fel mater o drefn. Mae’r argymhellion triniaeth yn dangos cydnabyddiaeth o’r cyflwr unigryw hwn; fodd bynnag, mae galw parhaus i anhwylderau bwyta sy’n gysylltiedig â diabetes gael eu categoreiddio fel anhwylderau bwyta penodol a allai arwain at ddull mwy arbenigol ar gyfer ymchwil a thriniaeth (Allan 2017).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan linell gymorth Diabetes y DU 03451232399 a thrwy’r Elusen Genedlaethol: Diabetes with Eating Disorders (DWED)