Skip to main content

Adult mental healthIechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhalestina

30 Hydref 2017
Mental health. Torn pieces of paper with the words Mental health. Concept Image. Black and White. Closeup.
Mental health. Torn pieces of paper with the words Mental health. Concept Image. Black and White. Closeup.

Mohammad Marie  –  nyrs iechyd meddwl academaidd ym Mhrifysgol An-Najah

Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn amrywio o un wlad i’r llall. Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys rhai’n gysylltiedig â diwylliant, gwleidyddiaeth ac adnoddau. Yn achos Palestina, gyda’i hanes o wrthdaro, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u datblygu’n ddigonol, ac yn wynebu llawer o heriau.

Ar y Lan Orllewinol, ceir cyfanswm o lai na 20 o nyrsys iechyd meddwl cymunedol, yn cynnig gofal i boblogaeth sy’n agos at dair miliwn (Marie et al., 2017a). Ymhlith y tair miliwn hyn ceir nifer fawr sydd ag anghenion iechyd meddwl uchel. Er hyn, mae stigma a gwybodaeth gyfyngedig yn golygu bod anawsterau iechyd meddwl ymhlith y problemau iechyd sy’n cael y gydnabyddiaeth leiaf.

Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2017 yw iechyd meddwl yn y gweithle. Mewn enghraifft brin o ymchwil yn y gwasanaethau iechyd dan arweiniad nyrsys ym Mhalestina, a gwblhawyd ar gyfer fy PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, cynhaliais astudiaeth ansoddol ddwys ar nyrsys iechyd meddwl cymunedol ar y Lan Orllewinol (Marie, 2015). Sail y gwaith hwn oedd y syniad ecolegol gymdeithasol ‘Sumud’. Mae hwn yn gysyniad pwysig i bobl Palestina, ac mae’n ymwneud â gwydnwch personol a chyfunol yn wyneb adfyd (Marie et al., in press). Defnyddiwyd ‘Samud’ i helpu i fframio’r heriau a wynebir gan nyrsys y Lan Orllewinol, ac yn arbennig i helpu i ddeall eu ffynonellau gwydnwch.

Cyfwelais bymtheg o nyrsys iechyd meddwl cymunedol gan gael gwybodaeth gyfoethog a manwl am yr anawsterau roedd pob yn eu profi yn y gweithle. Crynhowyd y rhain dan bedair thema: cyd-destun aflonyddwch, stigma, diffyg adnoddau a heriau sefydliadol neu’r system iechyd meddwl. Soniodd un nyrs er enghraifft am yr heriau dyddiol o fyw mewn pentref wedi’i amgylchynu gan wahanfur yn gwahanu eu cymuned (a gorfod teithio i’r gwaith oddi yno). Soniodd un arall am ddiffyg hyfforddiant a goruchwylio i’w cynorthwyo i ddarparu gofal o ansawdd uchel, ac yn ystod gwaith maes arsylwadol gwelwyd nad oedd nyrsys yn gallu rhoi meddyginiaethau presgripsiwn oherwydd diffyg cyfarpar.

Soniodd y nyrsys hefyd am yr hyn oedd yn eu cynnal yn eu gwaith a’u bywydau cartref, gan roi enghreifftiau o’r hyn mae Samud yn ei olygu’n ymarferol. Dywedodd un bod Samud yn golygu ‘wynebu’r heriau allanol boed ar lefel bersonol neu gyffredinol; a bod yn gadarn bob amser’. Roedd ffydd hefyd yn bwysig, ynghyd ag ymwybyddiaeth o’r cyd-brofiad o gyd-ddioddefaint ar draws y cenedlaethau. Yn y cyfweliadau soniodd y nyrsys am eu hymrwymiadau i’r proffesiwn nyrsio, a’r cymorth a roddwyd ac a dderbyniwyd gan eu teuluoedd, y gymuned a chydweithwyr. Ar lefel fwy unigol nodwyd dycnwch a’r gallu i ymdopi.

Yn gyffredinol mae’r astudiaeth hon wedi datblygu dealltwriaeth newydd o amodau byw a gweithio nyrsys iechyd meddwl ar y Lan Orllewinol, ac wedi cynhyrchu gwybodaeth am iechyd meddwl yn y gweithle mewn rhan o’r byd nad yw llawer o bobl yn y DU yn gwybod fawr ddim amdani. Bellach mae angen ymchwil ar draws rhannau eraill o Balestina ac, yn allweddol, mae angen gweithredu i ddatblygu ymarfer a gwasanaethau nyrsio iechyd meddwl.

Marie, M. (2015) Resilience of nurses who work in community mental health workplaces in West Bank, Palestine [unpublished PhD thesis], Cardiff, Cardiff University.

Marie, M., Hannigan, B. and Jones, A. (in press) ‘Social ecology of resilience and Sumud of Palestinians’, Health: an Interdisciplinary Journal for the Social Study of Health, Illness and Medicine.