Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Cyfweld â Chyn-Filwr

10 Tachwedd 2017

Mae tua 4% o gyn-filwyr Prydain yn byw ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Therapi seicolegol sy’n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig yw’r driniaeth a ffefrir ar gyfer PTSD, a gall fod yn fuddiol iawn, ond yn anffodus ceir cryn ymwrthedd i’r driniaeth.

Mae angen brys i ddod o hyd i driniaethau effeithiol i gyn-filwyr nad ydynt yn ymateb i’r triniaethau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Rwy’n seicolegydd ymchwil, yn y Ganolfan Genedlaethol dros Iechyd Meddwl (NCMH), ac rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar broject ymchwil newydd o’r enw Dadsensiteiddio ac Ailgyfnerthu Cof Modiwlaidd a Gynorthwyir gan Symudiad, neu 3MDR.

Mae’n driniaeth arloesol, yn seiliedig ar egwyddorion triniaethau sy’n bodoli eisoes sy’n canolbwyntio ar drawma, mewn cyd-destun newydd. Mae 3MDR yn cynnwys y claf yn cerdded ar felin redeg tra’n rhyngweithio â chyfres o ddelweddau y mae wedi’u dewis yn cael eu dangos ar sgrîn fawr.

Y nod yw helpu cleifion i ddysgu sut i symud drwy osgoi eu hatgofion trawmatig yn llythrennol.

Mae’r cyn-filwr Jon Skipper wedi dod yn llefarydd cyhoeddus brwd ac yn hyrwyddwr ymchwil i’r ymchwil PTSD a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl cwblhau’r prawf 3MDR.

Cytunodd rannu ei brofiadau â mi o’i amser yn y fyddin, ei ddiagnosis PTSD a’i feddyliau am fod yn rhan o’n hymchwil:

Dywedwch wrthyf am eich amser yn y fyddin:

Gwasanaethais yn y fyddin am 35 mlynedd, 35 diwrnod a 12 awr – yn dilyn traddodiad teuluol o wasanaethu’n y fyddin dros ddau ryfel byd.

Roedd fy nhaid yn y fyddin o 1912 i 1919. Cafodd ei anrhydeddu am ei ddewrder yn y Somme. Gwasanaethodd fy nhad yn yr Ail Ryfel Byd a bu’n ymladd yn Arnhem. Nid oedd sôn am PTSD bryd hynny, ond wrth edrych yn ôl rwy’n meddwl fy mod yn nabod rhai o’i arwyddion ynddynt.

Yn ystod fy nhaith gyntaf yng Nghyprus, roeddwn i’n osgoi bwledi yn Famagusta pan ymosododd Twrci ym 1974.

Ym 1982 roeddwn yn rhan o ryfel o Falkland. Yna cwblheais gyfanswm o bum mlynedd o wasanaeth yng Ngogledd Iwerddon. Roedd yn rhyfel budr ym mhob ystyr. Nid oedd unrhyw enillwyr. Ond mae gwaith tîm, cyfeillgarwch agos a chyd-dynnu’n bethau pwerus sy’n dal y fyddin at ei gilydd. Mae’n helpu i’ch cynnal pan fo pethau’n ddu.

Roedd colli’r ‘teulu’ unigryw hwn wedi fy nharo’n galed, fel profedigaeth, pan adewais y fyddin yn 2006.

Gallaf ddweud yn gwbl onest pe bawn yn gallu byd fy mywyd eto, y byddwn eto’n ymuno â’r fyddin.

Cymrodoriaeth, gwaith tîm a chyfeillgarwch clos, pethau sy’n aml yn cael eu saernïo yn ystod adfyd ac adegau caled. Mae’n brofiad unigryw, gwych sy’n ddieithr i nifer o sifiliaid, ac nid yw’n rhywbeth y gallant ei ddeall. Ond y rheswm dros ysgrifennu hyn yw rhannu un foment ddu yn fy mywyd – y rhyfel ym Mosnia.

Maddeuwch imi am beidio â mynd i fanylder – mae’r teimladau dal yn fyw.

Un atgof sydd wedi’i serio yn fy meddwl yw un wythnos benodol yng Ngorffennaf 1995 – yr hil-laddiad yn Srebrenica lle llofruddiodd Byddin Serbiaid Bosnia dros 9,500 o fechgyn a dynion. Cofiaf fy nicter dwfn a’m rhwystredigaeth â’r ffaith y gallai’r adroddiadau gwybodaeth yn ystod yr wythnosau blaenorol fod wedi atal cynifer o farwolaethau. Ni allai NATO wneud unrhyw beth.

I mi’n bersonol, roedd yn anferth, a’r tu hwnt i’m rheolaeth. O leiaf yng Ngogledd Iwerddon fod rhywfaint o deimlad o fod mewn rheolaeth. Bosnia? Teimlais yn gyfrifol ac yn rhan o’r methiant. Roeddwn yn ddiymadferth ac yn annigonol.

Rhwygodd rhywbeth oddi mewn i mi ar ôl yr wythnos honno. Fe’i teimlais – roeddwn i’n wahanol rywsut.