Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Rhan 2

11 Tachwedd 2017

Mae’r cyn-filwr John Skipper wedi dod yn llefarydd cyhoeddus ac yn hyrwyddwr ymchwil PTSD brwd ar ôl cwblhau’r prawf 3MDR â’m tîm ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn rhan gyntaf y gyfres hon, rhannodd John ei brofiadau yn y fyddin. Yn yr ail ran, mae’n trafod ei ddiagnosis PTSD a’i brofiadau â therapïau a chymorth confensiynol.

Sut effeithiodd eich cyfnod yn y fyddin arnoch ar ôl ei gadael?

Tharodd Bosnia mohonof i tan un noson yn 2005 – ddegawd yn ddiweddarach.

Roeddwn yn uwch swyddog a’r flwyddyn honno roeddwn eisoes wedi trefnu angladd un o’m swyddogion a laddwyd yn Irac, ac roeddwn â’i rieni wrth ddychwelyd ei eiddo i’r DU. Roeddwn yn mynd drwy ysgariad – mae bywyd milwrol yn drydydd person mewn priodas fyddin!

Un noson cefais freuddwyd am Fosnia a grisialodd hanfod erchylltra 1995. Roedd mor wir y gallwn ei harogli a’i chlywed. Cefais y freuddwyd eto ac eto, heb rybudd, yn ystod nosweithiau di-gwsg, arswydus dros y blynyddoedd nesaf.

Roeddwn yno, yn edrych, â’r wybodaeth a allai fod wedi atal yr hil-laddiad, ond roedd fy nhraed wedi’u gludo i’r llawr, ni ddaethai geiriau o’m ceg – wrandawodd neb.

Pan gefais fy apwyntiad meddygol terfynol wrth adael yn 2006, ni soniwyd o gwbl am iechyd meddwl – ‘doeddwn i erioed wedi clywed am PTSD. ‘Doedd fy swyddog meddygol heb, chwaith, mae’n debyg. Wedi’r cwbl, roedd stigma enfawr yn gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y fyddin bryd hynny.

Teimlaf gywilydd personol imi ond ag asesu iechyd corfforol fy milwyr yn hytrach na’u cyflwr meddyliol.  Mae pethau’n newid yn awr.

Rwy’n eithaf sicr na wnes i dderbyn na chydnabod fy symptomau mewn difrif. Ni wyddai fy mhartner, yr wyf i’n ddyledus iddi am fy ngoddef, pam fy mod yn digio mor hawdd, ddim yn cysgu llawer ac weithiau’n gweiddi yn fy nghwsg.

Roeddwn yn aml yn deffro’n chwys i gyd, ar ôl breuddwydio’r un freuddwyd honno. Ceisiais gadw rheolaeth ar y sefyllfa. Wedi’r cyfan, yr hyn a wnes i’n naturiol oedd meddwl bod problemau iechyd meddwl yn stigma.

Cofiaf ym mis Rhagfyr 2010 yr oeddwn prin yn cysgu – roeddwn i’n ofni mynd i’r gwely ac roeddwn yn flinedig ac yn gwylltio’n hawdd gydol yr amser. Roedd fy mhartner ar phen ei thennyn ond ni wnes i gydnabod y peth. Y cyfan a allwn ei wneud oedd canolbwyntio arnaf fy hun – mae’n siŵr fy mod i’n bod yn hunanol.

Ymwelais â’m Meddyg Teulu, a roddodd ddiagnosis straen yn gysylltiedig â’r gwaith, a chefais bythefnos i ffwrdd a digon o Diazepam. Yr un peth ag a gefais gan fy swyddog meddygol bum mlynedd ynghynt!  Mae gwers yma, wrth gwrs.

Rhoddodd y cyffuriau ddwy i dair awr o gwsg cemegol imi – dim mwy.  Rwyf yn dal i synnu bod ystyried hunanladdiad yn beth mor hawdd i’w wneud. Mae’n lle unig iawn, iawn.

Mae nifer o gyn-filwyr, fel fi, yn cael y nesaf peth i ddim o gymorth gan feddygon teulu heb fawr o wybodaeth am salwch trawma – hyd yn oed salwch meddwl yn gyffredinol. Ychydig iawn sydd wedi’u hatgyfeirio at therapi diogel. Mae nifer sydd wedi cael diagnosis wedi bron rhoi’r gorau i’r driniaeth oherwydd y rhestri aros hir.

Roeddwn yn gweithio i Arolygiaeth y GIG ac wedi cael y fraint o lunio adroddiad ar ‘Gofal Iechyd yng Nghymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru’. Treuliais oriau ar y ffôn yn casglu straeon cyn-filwyr – y mwyafrif am salwch meddwl.

Yn ystod yr amser hwn cefais ddiagnosis canser. Cofiaf yn awr fod y diagnosis yn gwbl ymylol i’r hyn a oedd yn digwydd yn fy mhen – rhywbeth na allwn ei ddeall o gwbl.  Ai cyd-forbidrwydd yw hyn?  Roedd y cyffuriau canser yn plethu’n llwyr â’r peth. Dirywiodd fy hyder – roedd fy adroddiad gofal iechyd yn fynydd rhy serth i’w ddringo.

 Pryd gawsoch chi ddiagnosis PTSD? A pha fath o driniaeth a therapi gawsoch chi?

Gweithiais yn agos ar fy adroddiad Lluoedd Arfog gyda chydweithiwr a oedd, yn ffodus imi, yn seicolegydd clinigol. Gofynnodd imi a oedd y gwaith ar yr Adolygiad yn teimlo’n ormod o faich, a dywedodd y gallwn roi’r gorau iddo os oedd. Allwn i ddim, wrth gwrs – byddai hynny wedi bod yn fethiant.

Roeddwn eisoes wedi cael lwc dda wrth gwrdd â’r Athro Jon Bisson fel rhan o’r broses Adolygu’r Lluoedd Arfog, a’m hatgyfeiriodd at seicolegydd yn fy mwrdd iechyd lleol ar gyfer diagnosis.

Anghofiaf i fyth y diagnosis ym Mawrth 2012 a ddisgrifiodd, ymhlith pethau eraill, ‘symptomau PTSD sylweddol, symptomau iselder lefel isel, hunan-amheuaeth’ ac ati.

 Beth weithiodd, beth na weithiodd, a pham?

Fe’m hatgyfeiriwyd at therapydd ymhen ychydig wythnosau – roeddwn i’n gwybod pa mor ffodus oeddwn i. Achubodd fy therapydd fy mywyd – mor syml â hynny. Wyddwn i ddim ym mis Ebrill 2012 y cawn i 38 sesiwn dros gyfnod o bron dwy flynedd – ynghyd â llawdriniaeth am y canser, nad oedd ond yn fwy na pheth ymylol.

Rwyf bob amser wedi credu os ydych chi am wella coes wedi’i thorri fod angen llawer mwy arnoch na phlastr ac Ibuprofen. Bydd yna boen, bydd rhaid i chi fod yn ddygn, ond bydd y goes yn gwella a byddwch yn cerdded eto.

Ym mis Ebrill 2012 gwyddwn fod gennyf salwch meddwl – roedd fy ngallu i wneud pethau o ddydd i ddydd wedi’i effeithio i’r graddau bod fy hyder wedi diflannu ac, i’m partner, mae’n rhaid ei bod yn boen hunanol.

Gallech chi gyfrif ar fysedd un llaw y bobl y gwyddwn amdanynt oedd â PTSD. Wedi’r cwbl, roedd gennyf o hyd stigma a gwendid yn fy meddwl ac roedd yn anodd ei ddisgrifio – roeddwn yn ffodus y gallwn guddio fy CBT (Therapi Ymddygiadol Gwybyddol) ymhlith fy nhriniaethau canser.

Cefais lawer o gydymdeimlad am y canser. O ran y salwch meddwl, mae’n siŵr y byddwn wedi wynebu tawelwch a drwgdybiaeth.

I mi, yr ‘elfen leddfol’ yn y broses CBT oedd y gwellhad – os gallwch ei alw’n hynny. Roeddwn wedi agor y ffeilau tabŵ, wedi dod â golau i lefydd tywyll iawn ac wedi trechu fy nghythreuliaid i raddau helaeth.

Roeddwn i’n teimlo’n gwbl wag – a chysgais yn ddwfn. Roedd CBT yn fy hebrwng yn ofalus i’r pwynt hwnnw, ac yn fy arwain yn ôl i fywyd arferol ar ei ôl.  Ond ni ddiflannodd beth bynnag a rwygodd oddi mewn i mi ym 1995, gan adael rhyw waddol tywyll yn llawn atgofion drwg. Ond rydych chi’n byw â hynny, ac yn ei ddeall.