Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Rhan 3

12 Tachwedd 2017

Yn rhan olaf y gyfres hon mae John Skipper, cyn-filwr a wasanaethodd yn y Falklands, Gogledd Iwerddon a Bosnia, yn trafod yr amser a dreuliodd fel rhan o ymchwil PTSD sy’n mynd rhagddi ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gweithiodd fy nhîm gyda John fel rhan o’r prawf 3MDR (Dadsensiteiddio ac Ailgydnerthu’r Cof Modiwlaidd a Gynorthwyir gan Symudiad). Mae’n driniaeth arloesol sy’n cynnwys y claf yn cerdded ar felin redeg tra’n rhyngweithio â chyfres o ddelweddau y mae wedi’u dewis wedi’u dangos ar sgrîn fawr.

 Rydych chi bellach yn llefarydd cyhoeddus dros ymchwil PTSD ym Mhrifysgol Caerdydd, beth wnaeth eich arwain i’r rôl hon?

Yn syml, roeddwn am helpu eraill â chyflyrau tebyg – fy nghyd gyn-filwyr a phersonél gwasanaeth wrth gwrs, ond hefyd bawb sy’n brwydro salwch meddwl.

Roeddwn yn ffodus iawn i fod mewn sefyllfa lle roedd cymorth a dealltwriaeth amserol wrth law. Nid dyna’r achos i lawer o bobl.

Drwy fy mhrofiad fy hun roeddwn am helpu fy nghydweithwyr i ddeall y cyflwr – am fod yn rhaid i chi ei brofi i’w ddeall. Mae hyn yn fy helpu hefyd – gwybod y gallaf helpu eraill. Rwy’n gwneud gwahaniaeth, gobeithio; cyferbyniad i’r dyddiau duon hynny yng Ngorffennaf 1995 pan roeddwn yn ddiymadferth.

Canfûm fod helpu â’r ymchwil yn therapi ynddo’i hun.

 Os yw cyn-filwyr yn meddwl am gymryd rhan yn yr ymchwil hon, beth fyddech chi’n ei ddweud wrthynt?

Ewch amdani!! Bydd cyn-filwr bob amser yn siarad â chyn-filwr arall – dyna’r ‘gymrodoriaeth’ rhyngom. Credaf y byddai’n help iddynt ddeall a threchu’r ofn a’r pryder o gamu i le cymharol ddieithr – mae PTSD yn elyn na all milwyr ei drechu â bwled.

Mae fel dringo clogwyn; argoelus, ond pan gyrhaeddwch y pen, ac fe fyddwch, am fod rhywun rydych yn ymddiried ynddo’n dal y rhaff, mae’n gyflawniad anhygoel.

Mae’r ffordd galed dywyll honno at gyrraedd cnewyllyn trawma, delio â hynny, byw gyda hynny ac yna symud i fywyd gwell yn haws dweud na gwneud. Ond byddwn yn dweud wrthynt y caent eu cefnogi gan bobl broffesiynol.

Byddwn hefyd yn cysylltu fy mhrofiad o CBT wrth ddelio â’m trawma fy hun a’i wneud yn glir y byddwn yn hapus i’w helpu.

Rwyf am i 3MDR fod fel CBT ac EMDR (dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau’r llygaid) i fod yn un o’r arfau allweddol yn y frwydr yn erbyn PTSD.

Rwyf wedi bod ar y felin redeg ac roedd yn hawdd cymharu potensial 3MDR â’m triniaeth CBT fy hun – cofio’r 38 sesiwn ddwyawr dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae cyrraedd y digwyddiad trawmatig yn daith. Mae 3MDR yn dyblygu hynny ynghyd â realiti delweddau a cherddoriaeth. Mae’n bwerus a chredaf y bydd yn effeithiol iawn. Mae’n hanfodol i therapydd hyfforddedig gefnogi cleifion yn agos drwy’r sesiynau a dyna sy’n digwydd.

Credaf y bydd y prawf 3MDR yn llwyddiant ac yn y dyfodol rwy’n gobeithio y bydd ar gael i bobl sydd ei angen o fewn amser sy’n briodol.  Ac, yn y pen draw, bydd ar gael i bawb, nid yn unig i gyn-filwyr.

Gall achub bywydau.

Edrych yn ôl i’r dyfodol (yn ôl i Kali)

Bydd ein hastudiaeth yn dysgu p’un ai a all 3MDR helpu cyn-filwyr Prydain â PTSD sydd heb ag ymateb i’r driniaeth dewis cyntaf ar gyfer PTSD.

Cynhelir yr astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd â labordy arbennig a all gynnal 3MDR. Caiff 42 cyn-filwr â PTSD ei wahodd i fod yn rhan o’r astudiaeth. Bydd y cyn-filwyr dros 18 oed a heb gael budd o driniaeth seicolegol sy’n canolbwyntio ar drawma o’r blaen.

Caiff eu symptomau PTSD, iselder, pryder a gweithrediad eu hasesu gan ddefnyddio mesurau safonol ac yna cânt eu dyrannu ar hap i gael naill ai 3MDR ar unwaith neu ar ôl 12 wythnos. Ar ddiwedd y driniaeth, a phedair wythnos yn ddiweddarach caiff y mesurau asesu eu hailadrodd.

Caiff y 3MDR ei gyflawni bob wythnos am chwe wythnos gan therapyddion seicolegol profiadol. Gwneir gwerthusiad o’r broses triniaeth 3MDR hefyd drwy gasglu gwybodaeth o’r sesiynau 3MDR a thrwy gyfweld â therapyddion a chyfranogwyr am eu profiadau.

Rydym wastad yn gweithio i ddeall mwy am PTSD fel y gallwn ddefnyddio ymchwil gyfoes a’i rhoi ar waith. Rydym yn gobeithio y caiff 3MDR effaith gadarnhaol ar y cyn-filwyr sy’n cymryd rhan ac y bydd eu symptomau PTSD yn lleihau’n sylweddol.

Os taw dyma’r achos, rydym yn gobeithio profi 3MDR yn erbyn therapïau seicolegol sy’n canolbwyntio ar drawma fel EMDR, i weld a yw’r dull hwn yr un mor effeithiol neu o bosibl yn well. Rydym yn gyffrous iawn ac yn obeithiol am ddyfodol 3MDR ym Mhrifysgol Caerdydd, ac edrychaf ymlaen at rannu ein taith â chi.