Skip to main content

DementiaIechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Datblygu ymchwil i ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn rheoli’r profiad o ddementia

22 Tachwedd 2017

Ar gyfer fy lleoliad Rhaglen Ymchwil Israddedig Prifysgol Caerdydd, roeddwn yn ffodus o gael cynnig y cyfle i weithio gyda Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), ar brosiect sy’n ymwneud â gwella’r profiad o fyw â dementia. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar y ffactorau sy’n caniatáu i unigolion sydd â dementia i brofi safon byw, ac mae goruchwylydd fy ngwaith yn canolbwyntio’n benodol ar ddylanwadau rhwydweithiau cymdeithasol a chydberthnasau. Mae llenyddiaeth sy’n bodoli eisoes wedi dangos y gall cysylltiadau cymdeithasol fod yn ganolog i archwilio unrhyw brofiadau negyddol y mae’n bosibl sydd gan unigolyn, ac nid yw dementia yn wahanol o gwbl.

Pan ddechreuais arni, roedd y prosiect eisoes yn mynd rhagddo, a chefais y dasg o adolygu’r llenyddiaeth sy’n bodoli eisoes er mwyn gwerthuso’r defnydd o sosiogramau fel dull o gasglu data. Mae’r diagramau hyn yn mapio rhwydweithiau cymdeithasol unigolion, a gwnaed defnydd effeithiol iawn ohonynt yn y gwaith ymchwil a gynhaliwyd hyd yma. Fodd bynnag, un broblem a oedd yn dod i’r amlwg oedd llunio’r ffordd orau o ddadansoddi’r data a gofnodwyd ganddynt.

Drwy gydol fy lleoliad, bum yn yn dadansoddi ac yn croesgyfeirio corff o lenyddiaeth oedd yn ffocysu ar fapio rhwydweithiau cymdeithasol yn ogystal ag effaith rhwydweithiau cymdeithasol ar ddementia. O’r fan hon, gallwn weld sut roedd ymchwil arall wedi addasu dyluniadau’r sosiogramau yr oeddent yn eu defnyddio er mwyn casglu data’n benodol at ddibenion y cwestiwn ymchwil. Yn ogystal, llwyddais i bennu beth yn union oedd yn berthnasol ar gyfer ein cwestiwn ymchwil drwy adolygu cyfuniad o lenyddiaeth sylweddol, a thrawsgrifiadau o gyfweliadau pan fu ein cyfranogwyr wrthi’n llenwi eu sosiogramau. At ei gilydd, roedd hyn yn rhoi syniad cliriach i mi o’r hyn yr oedd angen i’r sosiogramau ei amgodi, a’r ffordd orau o roi hynny ar waith.

Yn sgil yr ymchwil methodolegol, roeddwn wedi gallu dwyn casgliadau i gynnig bod rhai gwelliannau’n cael eu gwneud i’n sosiogramau fel dull o gasglu data. Roedd y rhain yn cynnwys cyflwyno system godio drwy liwiau i gynrychioli mathau gwahanol o berthynas, a gan ddefnyddio strwythur presennol y sosiogram i ddyrannu gwerthoedd rhifiadol ar gyfer graddau gwahanol o berthynas, er mwyn gallu dadansoddi’n hawdd. Cafodd y broses hon ei hwyluso drwy ddeall pa ddata oedd yn bwysig i’w amgodio. Cefais y ddealltwriaeth honno yn sgil fy adolygiad gwirioneddol o’r llenyddiaeth a dadansoddi trawsgrifiadau.

O ran yr ymchwil ehangach sy’n cael ei chynnal gan fy ngoruchwyliwr, mae’n bosibl y gellir casglu gwell data yn sgil y fethodoleg addasedig hon. Gall yr arlliw y soniwyd amdanynt yng nghyfweliad y boblogaeth ei gynrychioli’n raffig erbyn hyn yn y sosiogram, a hyd yn oed ei droi i mewn i werthoedd rhifiadol at ddibenion dadansoddiad ystadegol. Ymhen hir a hwyr, mae’n bosibl y gallem gyfatebu mesurau sosiogram â sgoriau lles a safon byw, i ddarparu sail wrthrychol ar gyfer deall pwysigrwydd perthnasoedd cymdeithasol oddi mewn i’r profiad o fyw â dementia. Byddai’r gwaith ymchwil hwn hefyd yn cynnwys gofalwyr unigolion sydd â dementia – grŵp sydd fel arfer mewn perygl o ynysu cymdeithasol a chael problemau hwyliau o ganlyniad i’w dyletswyddau gofal helaeth.

Yr hyn yr wyf yn ei werthfawrogi’n bennaf am fy mhrofiad yw fy mod wedi gallu datblygu sgiliau ymchwil a data annibynnol na fyddwn, fel arfer, wedi gorfod eu defnyddio i’r fath raddau. Bydd hyn yn gam gwerthfawr pan fyddaf yn dechrau prosiect fy mlwyddyn olaf, am fy mod bellach yn meddu ar y galluoedd angenrheidiol i gynnal ymchwil effeithiol. Fel myfyriwr seicoleg, roedd hefyd yn cynnig cipolwg ar y gwyddorau cymdeithasol i mi, sy’n faes na fyddwn fel arall wedi cael cyfle i’w brofi.